Ynglŷn â TheyWorkForYou

Sefydlwyd TheyWorkForYou ugain mlynedd yn ôl i wneud y Senedd yn fwy hygyrch.

Credwn y dylai gwybodaeth am ein cynrychiolwyr etholedig fod yn hawdd ei deall ac yn hygyrch i bawb, nid ond gwleidyddion neu'r rheiny sy'n gallu talu.

Rydym bellach yn gweithio yn Seneddau ar draws yr Deyrnas Unedig i ddod â gwybodaeth at ei gilydd mewn un lle, a'i gwneud yn hygyrch i ddinasyddion ac i'r gymdeithas sifil.

Trwy TheyWorkForYou ac WriteToThem, rydym am ei gwneud hi'n hawdd deall beth mae gwahanol haenau cynrychiolaeth y Deyrnas Unedig yn gwneud, a sicrhau bod gweithredoedd ein cynrychiolwyr a'n llywodraethau yn fwy tryloyw.

Rydym ni cyflawni hyn drwy:

  • Sicrhau bod dadleuon seneddol yn chwiliadwy ar gyfer pob Senedd.
  • Ei gwneud hi'n hawdd i bobl ysgrifennu at eu cynrychiolwyr ar unrhyw haen o lywodraeth.
  • Cynhyrchu hysbysiadau e-bost sy’n caniatáu dinasyddion a chymdeithas sifil i fod yn hyddysg am eu cynrychiolwyr neu feysydd o ddiddordeb.
  • Ychwanegu gwybodaeth a chrynodebau newydd i’r wybodaeth y mae'r Senedd yn ei rhyddhau (megis crynodebau cofnodion pleidleisio a’r cofrestrau hygyrch o fuddiannau aelodau).

Os ydych chi'n cefnogi amcanion TheyWorkForYou, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.

Ynglŷn â mySociety

Mae TheyWorkForYou yn cael ei reoli gan mySociety, elusen yn y Deyrnas Unedig sy'n rhoi grym yn nwylo mwy o bobl drwy ddefnyddio data ac offer digidol.

Trwy TheyWorkForYou ac WriteToThem rydym wedi gwneud cynrychiolwyr etholedig yn fwy tryloyw a chysylltadwy. Bob blwyddyn, mae cannoedd o filoedd o adroddiadau yn cael eu danfon trwy FixMyStreet, ac mae dros filiwn o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth wedi'u codi trwy WhatDoTheyKnow.

Rhagor o wybodaeth am y modd y mae mySociety yn cael ei ariannu.

Cofrestrwch am y newyddion diweddaraf gan mySociety


Credydau

Diolch o galon i aelodau tîm a gwirfoddolwyr MySociety y presennol ac y gorffennol am eu gwaith ar TheyWorkForYou. Mae hyn yn cynnwys:

  • Richard Allan
  • Martin Belam
  • James Crabtree
  • James Cronin
  • Stephen Dunn
  • Yoz Grahame
  • Phil Gyford
  • David Heath
  • Francis Irving
  • Ben Laurie
  • Tom Loosemore
  • Stefan Magdalinski
  • Dorian McFarland
  • Anno Mitchell
  • Danny O'Brien
  • Sam Smith
  • Matthew Somerville
  • Tom Steinberg
  • Richard Taylor
  • Stuart Tily
  • Julian Todd
  • Denise Wilton

Credydau llun

Mae copyright Hansard yn parhau dan Hawlfraint Seneddol, a ddefnyddir o dan drwydded.