Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, Joyce. Ac rydych yn hollol gywir, oherwydd mae'r strategaeth rydym yn sôn amdani, strategaeth yr economi ymwelwyr, yn ymwneud â phwysleisio pwysigrwydd mynd i'r afael â lledaenu manteision, gan annog mwy o wariant yn ein heconomi, a hynny ledled Cymru. Dyna yw hanfod y strategaeth farchnata, ac mae hynny wedi arwain at y cynnydd y byddwn yn ei weld yng...
Mae ein strategaeth, 'Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020-2025', yn nodi ein cyfeiriad a'n huchelgais ar gyfer twristiaeth, ac mae Croeso Cymru yn hyrwyddo cyrchfannau'n gyfartal ledled Cymru. Mae Canolbarth Cymru a gorllewin Cymru yn rhan annatod o'r gweithgarwch hwnnw.
A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn atodol, oherwydd rwy'n credu ei bod yn codi pwynt pwysig a diddorol? Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn fod Croeso Cymru, o'n safbwynt ni, fel rhan o Lywodraeth Cymru, yn caniatáu llawer mwy o atebolrwydd i ni am y gwaith y mae Croeso Cymru yn ei wneud. Maent yn atebol yn uniongyrchol i mi, a thrwy Croeso Cymru, mae gennyf gysylltiad...
Nodyn ar gyfer newyddiadurwyr ac ymchwilwyr: gellir defnyddio'r data ar y dudalen hon yn rhydd, ar yr amod bod TheyWorkForYou.com yn cael ei ddyfynnu fel y ffynhonnell.
Cynhyrchwyd y data yma gan TheyWorkForYou o amrywiaeth o ffynonellau. Gwybodaeth bleidleisio o Chwip Cyhoeddus.