Samuel Kurtz: Diolch yn fawr, Llywydd, a Dydd Gŵyl Dewi Sant hapus ichi, i'r Gweinidog ac i'r Siambr. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad heddiw, a chyfeiriaf Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau. Hoffwn hefyd gysylltu fy hun â geiriau teimladwy'r Gweinidog am farwolaeth drist Aled Roberts. Gadewch inni obeithio mai un o gymynroddion Aled fydd gweld datblygiad yr iaith yr...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am gyflwyno'r cwestiwn amserol hwn. Mae Rwsia Putin yn fwli, ac mae'n rhaid gwrthwynebu pob bwli. Mae sofraniaeth Wcráin wedi ei threisio ac mae sifiliaid diniwed yn cael eu lladd gan awch Putin am wrthdaro. Mae hwn yn gyfnod tywyll yn hanes Ewrop. Mae'n rhaid i ni i gyd weithio i ddiogelu rhyddid, democratiaeth a sofraniaeth Wcráin, ac...
Samuel Kurtz: Felly, os edrychwn yn ôl ar 2010, roeddwn yn dal i fod yn yr ysgol, dim ond cwrw oedd Corona, a chroesawodd pobl Caerfyrddin Debenhams i ganol eu tref yn Rhodfa'r Santes Catrin. Fodd bynnag, gwta 11 mlynedd yn ddiweddarach, ym mis Mai y llynedd, fe gaeodd, gan adael twll 6000 metr sgwâr yng nghanol y dref. Ond diolch byth, oherwydd gwerth £18.5 miliwn o fuddsoddiad—£15 miliwn gan...
Samuel Kurtz: Byddaf yn hapus i gymryd ymyriad.
Samuel Kurtz: Wel, dyma'r pwynt yr oeddwn i'n mynd i ddod ato. Un awgrym sydd wedi'i gynnig i mi gan swyddogion heddlu lleol yn Heddlu Dyfed-Powys yw bod y comisiynwyr troseddau gwledig eu hunain, neu'r comisiynwyr heddlu a throsedd eu hunain, yn gallu cyfrannu at ariannu'r swydd hon er mwyn sicrhau ei dyfodol hirdymor. Ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i ei archwilio—gweld pedwar comisiynydd heddlu a...
Samuel Kurtz: Hoffwn i groesawu'r ddadl y prynhawn yma, yn enwedig gan ei bod hi'n rhoi cyfle i ni gydnabod y camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd i ddiogelu ein cymunedau a gwneud ein cymdogaethau'n fwy diogel. Yn wir, yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, rwyf i wedi gweld yn uniongyrchol pa mor bwysig yw'r cyllid hwn i'n cymunedau lleol ni. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo...
Samuel Kurtz: Diolch i'r Aelod o Ddwyfor Meirionnydd am y cyfle i gyfrannu.
Samuel Kurtz: Fel rhywun sydd wedi chwarae llu o chwaraeon drwy gydol eu hoes, o bêl-droed, golff, tenis, rygbi, criced a phopeth arall yn y canol, mae'r ddadl hon wedi gwneud i mi gofio'r profiad o dyfu i fyny yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Ac yn aml roedd yn fwy o siwmperi fel pyst gôl nag ydoedd o Stadiwm y Mileniwm—Stadiwm Principality, maddeuwch imi—neu Celtic Manor neu faes criced Lord's. Ac...
Samuel Kurtz: Wel, yn sicr, ac rydym wedi siarad llawer yn y Siambr hon am gronfeydd creu coetir Glastir sy'n mynd dros y ffin i wledydd eraill sy'n prynu—cwmnïau eraill sy'n prynu— tir amaethyddol gorau Cymru ar gyfer coedwigo yn bod yn ddymunol ac yn dderbyniol i'r Llywodraeth hon wrth dderbyn arian grant drwy goetir Glastir. Felly, mae cyllid ar gael. Fodd bynnag, fe wnaf ildio, gan fy mod yn...
Samuel Kurtz: Hoffwn gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, gan fy mod yn aelod o Gyngor Sir Penfro a Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon, a thrwy adleisio geiriau fy nghyd-Aelod, AS Mynwy: yn y manylion y ceir y gwirionedd, yn sicr. Ac mae'n amlwg o'r ddadl y prynhawn yma, yn dilyn yr hwb ariannol mwyaf erioed gan Lywodraeth y DU, nad...
Samuel Kurtz: Diolch, Prif Weinidog. Bythefnos yn ôl, cymeradwyodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda achos busnes rhaglen ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau gofal iechyd yn y gorllewin, a fydd, os caiff ei gymeradwyo a'i gadarnhau gan eich Llywodraeth chi, yn gweld ysbyty newydd yn cael ei godi mewn lleoliad nad yw wedi'i benderfynu eto rywle rhwng Arberth a Sanclêr. Mae'r achos busnes hwn hefyd yn gweld...
Samuel Kurtz: 4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth gofal iechyd yng ngorllewin Cymru? OQ57607
Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gau'r ddadl heddiw, yn dilyn cyfraniadau manwl ac addysgiadol iawn o bob rhan o'r Siambr. Ac a gaf fi ddweud pa mor wych yw bod yn ôl yn y Siambr, yn gwneud yr hyn y mae ein hetholwyr wedi ein hethol i'w wneud? Yr hyn a wnaed yn glir y prynhawn yma yw bod gordewdra yn glefyd cronig a achosir gan anghydraddoldebau iechyd, dylanwadau...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Mae Gwinllan Velfrey, gwinllan fach, annibynnol sy’n cael ei rhedeg gan deulu ger Hendy-gwyn ar Daf yn fy etholaeth, yn cynhyrchu gwin o ansawdd rhagorol, a bûm yn ddigon ffodus i ymweld a chael blasu rhai o’u goreuon y llynedd. Mae pryderon wedi’u codi, fodd bynnag, fod ceisiadau i gronfa her ddatgarboneiddio a COVID y Llywodraeth yn cael mwy o ffafriaeth os dônt...
Samuel Kurtz: 10. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r meini prawf ar gyfer derbyn cyllid o dan gronfa her ddatgarboneiddio a COVID Llywodraeth Cymru? OQ57555
Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ddatgan buddiant fel Aelod o Gyngor Sir Penfro a hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed am roi'r cyfle imi siarad yn y ddadl y prynhawn yma, gan fy mod yn gwybod y bydd o ddiddordeb mawr i lawer o fy etholwyr. Fel llawer sy'n tyfu i fyny yng nghefn gwlad Cymru, roeddwn yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus anaml a thymhorol,...
Samuel Kurtz: Cyn fy nghwestiwn olaf, hoffwn ddatgan buddiant fel aelod o Gyngor Sir Penfro, ac mae'n fater rwyf wedi'i godi o'r blaen yn y Siambr. Mae'n ymwneud ag Ysgol Cosheston, sy'n ysgol wirfoddol a reolir, yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, sydd wedi wynebu anawsterau parhaus yn ymwneud â diffyg lle, anawsterau sydd wedi gwaethygu oherwydd COVID-19. Yn dilyn mater a...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog.
Samuel Kurtz: Aeth yr Aelod ymlaen wedyn i gwestiynu ymrwymiad y Llywodraeth i 'Cymraeg 2050' drwy adleisio pryderon y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones. Mae sylwadau Alun Davies yn peri cryn bryder yn enwedig o'u cyplysu â galwad y comisiynydd am ymyrraeth sylweddol a newid meddylfryd llwyr wrth rybuddio na fydd strategaeth Cymraeg 2050 yn cael ei chyflawni. Os gall Aelod Seneddol Llafur, cyn-Brif Weinidog...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Yn ei adroddiad blynyddol, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dangos llawer iawn o rwystredigaeth gyda'r cynnydd ar reolau safonau’r Gymraeg ac arafwch yn y newid mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Yn wir, dywedodd yr Aelod Llafur dros Flaenau Gwent yn y pwyllgor: