Canlyniadau 301–320 o 2000 ar gyfer speaker:Baroness Morgan of Ely

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, ac mae'n galonogol iawn clywed am y gwaith y maent yn ei wneud yn y gwasanaethau deintyddol cymunedol hynny yn Llanelli. Y newyddion da yw ein bod ni wedi rhoi gwerth £2 filiwn ychwanegol o gyllid rheolaidd ers 2022 i wella mynediad, ac mae llawer o'r byrddau iechyd wedi defnyddio'r arian hwnnw i fuddsoddi yn eu gwasanaethau deintyddol cymunedol—ac mae hynny'n wir, rwy'n...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Ym mis Awst 2022, cyhoeddodd y prif swyddog deintyddol ganllawiau wedi’u diweddaru ar rôl y gwasanaeth deintyddol cymunedol. Roedd hyn yn cynnwys ehangu swyddi swyddogion deintyddol cyflogedig i gefnogi cymunedau sydd â mynediad cyfyngedig, neu ddim mynediad o gwbl, at wasanaethau deintyddol cyffredinol sy’n cael eu darparu fel arfer drwy’r model contractwyr annibynnol.

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: The work of the respiratory health implementation group has been highly successful in improving asthma care, including the establishment of difficult-asthma services, but the pandemic has led to significant disruption to routine asthma care. The quality statement for respiratory disease will be published in the coming months.

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Following contractual reforms that commenced on 1 April, 99 per cent of pharmacies in Wales offer a range of nationally directed additional clinical services, including providing treatment for common minor ailments, access to repeat medicines in an emergency, flu vaccinations, and some forms of emergency and regular contraception.

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Since its establishment in 2009, Hywel Dda University Health Board staffing levels have increased by 2,263 whole-time equivalents, or 23.6 per cent.

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymdrin â Feirysau Anadlol (11 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Wel, rŷn ni, fel rŷch chi’n gwybod, wedi modelu ac wedi edrych ar beth fyddai’n gallu digwydd dros y gaeaf yma, ac mae’r gwasanaeth iechyd yn paratoi ar gyfer y modelu rŷn ni wedi ei weld, lle byddwn ni’n debygol o weld peak, yn ôl y modelu, ym mis Rhagfyr a Ionawr, felly mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer hynny, a dyna yw'r amser, wrth gwrs, nid jest am broblemau COVID,...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymdrin â Feirysau Anadlol (11 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wel, gallaf eich sicrhau chi y bydd yna ymgyrch genedlaethol ochr yn ochr â'r ymgyrchoedd sy'n digwydd, rwy'n siŵr, ar lefel awdurdodau lleol. Os ydw i'n onest, rydyn ni braidd yn siomedig â nifer y bobl sydd wedi cyflwyno eu hunain hyd yn hyn o ran staff iechyd a gofal, a dyna pam rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i ysgrifennu at y byrddau iechyd i wneud yn siŵr ein...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymdrin â Feirysau Anadlol (11 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae ein dull gweithredu yn pwysleisio mai brechu sy'n dal i gynnig yr amddiffyniad gorau rhag COVID-19 a'r ffliw. I'r rhai sy'n gymwys i gael eu brechu, dyna yw'r cam pwysicaf y gallan nhw ei gymryd i ddiogelu eu hunain ac eraill. Cafodd ein rhaglen frechu gaeaf yn erbyn firysau anadlol ei lansio ar 1 Medi ac, hyd yma, mae dros 360,000 o frechiadau COVID-19 wedi cael eu rhoi. Yn ein cyngor...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymdrin â Feirysau Anadlol (11 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rhoddais ddiweddariad i'r Aelodau ynghylch COVID-19 a phwysau'r gaeaf ar 20 Medi. Tynnais sylw at y ffaith ein bod yn paratoi ar gyfer trydydd gaeaf o fyw gyda COVID, ond bod y sefyllfa o ran feirysau anadlol yn fwy ansicr na'r blynyddoedd blaenorol oherwydd bod patrymau tymhorol wedi cael eu hamharu'n sylweddol oherwydd y pandemig. Mae'r cynnydd diweddaraf...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Effaith meigryn ar blant a phobl ifanc ( 5 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae bron pob un o'r plant a phobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio at y tîm yn ei chael hi'n anodd cyrraedd y cyfraddau presenoldeb disgwyliedig yn yr ysgol. Elfen hanfodol yw'r cydweithio â'r ysgol ac ymarferwyr gofal sylfaenol i helpu'r bobl ifanc i gael mynediad at addysg mewn ffordd sy'n addas ac sy'n briodol i'w hanghenion nhw. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, trafod gyda rhieni.  Mae'r...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Effaith meigryn ar blant a phobl ifanc ( 5 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. A hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am godi'r mater hynod bwysig hwn. Mark, gallaf bob amser ddibynnu arnoch i ddysgu rhywbeth newydd i mi yn y dadleuon hyn—mae gennych bob amser gymaint o ffeithiau a ffigurau ar flaenau eich bysedd, ac maent bob amser yn ddefnyddiol iawn inni eu nodi, ac yn sicr, byddaf sicrhau ein bod yn nodi’r rheini ac yn mynd i'r afael â rhai o’r...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol (28 Med 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Dywedodd Russell nad yw hwn yn fater pleidiol wleidyddol. Gallaf roi sicrwydd i chi nad wyf yn meddwl ei fod yn fater pleidiol wleidyddol, a dyna pam ein bod ni, fel chithau, am weld gwelliant yn y system, a dyna pam y byddwn ni yn y Llywodraeth ac ar feinciau Llafur yn cefnogi’r cynnig hwn.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol (28 Med 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Felly, i ateb yn benodol ynglŷn â sut y mae hyn yn mynd i gael ei gynnwys yn y cynllun menywod, mae hwn yn ddull gweithredu o'r gwaelod i fyny. Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo sy'n gofyn i fenywod gyfrannu: beth y dylem ei gynnwys yn y cynllun gofal iechyd menywod ar gyfer y dyfodol? Ac felly, mae hwnnw'n ddull gweithredu o'r gwaelod i fyny, felly os yw pobl am i hyn fod ar yr agenda...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol (28 Med 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae cymaint i'w wneud, a dwi'n gwybod bod ein rheolwyr a'n clinigwyr ymroddedig yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddiwallu anghenion pobl. Dyw codi'r pryderon hyn o ran systemau ddim yn feirniadaeth o gwbl o'u hymdrechion na'u hymroddiad nhw, a gallaf i eich sicrhau fy mod i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i i roi ffocws haeddiannol i hyn.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol (28 Med 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Felly, rwy’n cynnal uwchgynhadledd, uwchgynhadledd canser, ar 12 Hydref, a gallaf roi sicrwydd i chi y byddaf yn sicrhau fy mod yn rhoi dadansoddiadau o ganser ar sail rhywedd ar yr agenda honno er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld gwahaniaeth yn y ffordd y caiff gwahanol ganserau eu hystyried.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol (28 Med 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Dwi'n fwy na pharod i roi sylw arbennig i wella'r gwaith o gynllunio gweithlu canser ac i ystyried a yw ein darpariaeth ar gyfer y gweithlu yn ddigonol. A dwi'n bwriadu cyflwyno cynllun gweithredu gwasanaethau canser y gwasanaeth iechyd yn ystod yr wythnosau nesaf.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol (28 Med 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Felly, bydd y cynllun ar gyfer y gwasanaethau canser yn cael ei gyhoeddi yn yr ychydig wythnosau nesaf.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol (28 Med 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Ac yn y cynllun yma, byddaf i'n nodi yn fanylach sut rŷn ni'n cyflawni'r disgwyliad a nodwyd yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser a'n cynllun trawsnewid gofal sydd wedi'i gynllunio. Rŷn ni hefyd wedi cyflwyno cynllun gweithredu ar iechyd menywod i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion gofal iechyd penodol menywod yng Nghymru.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol (28 Med 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Ond, mae yna realiti i hyn i gyd. Mae'n mynd i gymryd amser i adfer, amser i dyfu ein gweithlu ac amser i gyrraedd lle mae angen inni fod. Nawr, dwi'n ymwybodol o safbwynt gwasanaethau canser nad yw'r amser hwnnw ar gael i bobl bob amser, ac nid gofyn i bobl i fod yn amyneddgar ydw i ond ceisio egluro beth sy'n achosi'r broblem a sut rŷn ni'n mynd i adfer y sefyllfa. Gallaf i eich sicrhau...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol (28 Med 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Russell a’r Ceidwadwyr am gyflwyno dadl bwysig arall ar wasanaethau canser. Hoffwn ddiolch i eraill hefyd am eu cyfraniadau pwerus a meddylgar iawn i'r ddadl hon. Wrth inni ddod dros effaith y pandemig, mae'n rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar adferiad mewn gwasanaethau canser a cheisio lleihau unrhyw effaith ar ganlyniadau. Rydym wedi nodi, mewn nifer o...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.