Lesley Griffiths: Rwy’n mynd yn ôl at eich cwestiwn cyntaf: mae gweithredu’r gyfarwyddeb nitradau yn rhwymedigaeth Ewropeaidd, a thra byddwn yn dal i fod yn rhan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, ac rydym yn mynd i fod yn rhan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd am y ddwy flynedd a hanner nesaf o leiaf, rydym yn ymrwymedig i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hyn. Mae’n rhaid i mi ddweud bod safonau...
Lesley Griffiths: Oherwydd ein bod yn dal i fod yn yr Undeb Ewropeaidd.
Lesley Griffiths: Ydy, mae clywed am brofiad eich etholwyr gyda hynny yn peri pryder mawr. Ac mae’n dda iawn eich bod wedi codi’r mater yma yn y Siambr. Buaswn yn hapus iawn i ysgrifennu at froceriaid yswiriant Prydain ar unwaith i sôn am y mater, ac yn amlwg, byddaf yn rhannu’r wybodaeth honno gyda chi pan ddaw i law.
Lesley Griffiths: Rwyf wedi gwneud yr achos cryfaf posibl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a chewch wybod yr wythnos nesaf a fu’n llwyddiannus ai peidio.
Lesley Griffiths: Mae’n debyg ei bod yn bwysig i awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd os yw cynllun llifogydd yn croesi ffiniau awdurdodau lleol. Nid wyf yn siŵr y buasai rhanbartholi yn arbennig o fuddiol. Fodd bynnag, rydym bob amser yn annog awdurdodau lleol i gydweithio’n agosach â’i gilydd, felly, fel y dywedaf, os ydynt yn teimlo y buasai’n fuddiol, nid oes gennyf wrthwynebiad i hynny o gwbl.
Lesley Griffiths: Diolch. Gwn fod fy swyddogion yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint, ac rwy’n gwybod bod yr awdurdod lleol ei hun yn ailasesu ac yn adolygu’r gost. Oherwydd rwy’n credu, dros 10 mlynedd, yn amlwg, mae’r costau wedi cynyddu’n sylweddol ers y rhagfynegiad gwreiddiol. Felly, rwy’n deall fod yr awdurdod lleol yn gweithio gydag ymgynghorydd lleol i adolygu’r...
Lesley Griffiths: Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi cymunedau sydd mewn perygl ac adeiladu cydnerthedd drwy ddarogan llifogydd yn well, codi ymwybyddiaeth ac ariannu cynlluniau â blaenoriaeth. Mae £23 miliwn o’r rhaglen £54 miliwn ar gyfer eleni yn cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i awdurdodau lleol. Rydym hefyd yn cydweithio ar y rhaglen rheoli risg arfordirol, gan gynyddu ein gallu i...
Lesley Griffiths: Bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod gyda nodyn ar hynny.
Lesley Griffiths: Mae hwn yn fater y mae’n rhaid i mi edrych arno. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod digon o gapasiti ar y grid cenedlaethol. Cyfarfu’r Prif Weinidog gyda’r Grid Cenedlaethol yn ddiweddar i drafod hyn, ac mae’n rhywbeth y byddwn yn edrych arno yn y dyfodol, fel y dywedaf.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae cynllun Taf Bargoed yn enghraifft wych o bobl leol yn dod at ei gilydd, gan wneud y gorau o’r cyfleoedd sy’n bodoli yn eu cymuned, a’n gweledigaeth yw gweld llawer mwy o gymunedau a busnesau yn defnyddio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, ac ennill incwm yn y broses—rwy’n credu bod hwnnw’n beth arall i feddwl amdano. Soniais yn fy ateb cychwynnol ein bod yn...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes sefydledig o gefnogaeth yn y maes hwn, sy’n parhau ar hyn o bryd o dan y gwasanaeth ynni lleol. O ganlyniad i’n cymorth, mae naw o gynlluniau ynni lleol wedi cael eu sefydlu. Mae’n cynnwys Cyfeillion Taf Bargoed yn nyffryn Merthyr a phedwar arall sy’n cael eu sefydlu ar hyn o bryd.
Lesley Griffiths: Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi £1.6 miliwn mewn gwaith rheoli perygl llifogydd yn Arfon. Mae hyn yn cynnwys gwaith ym Montnewydd a chynllun Tal-y-bont a gwblhawyd yn ddiweddar. Mae’r cynllun yn Nhal-y-bont yn lleihau’r perygl i’r pentref ac i’r A55. Mater i’r awdurdod lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru yw cyflwyno cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Lesley Griffiths: The Welsh Government is working to support the agricultural industry to become more profitable, sustainable, resilient, and professionally managed. Farmers in South Wales Central benefit from the same support as is on offer to all other farmers in Wales, including measures through the rural development programme.
Lesley Griffiths: The living planet report shows the devastating impacts humans are having on wildlife and the natural world. It also shows how we can solve these problems. Our groundbreaking environment and well-being of future generations Acts are exemplars in implementing the international commitments to sustainable development and biodiversity.
Lesley Griffiths: I set out the Welsh Government’s priorities on energy in my statement of 6 December. I described the co-ordinated and coherent approach to energy, which will deliver a prosperous and secure low-carbon Wales.
Lesley Griffiths: Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Dylwn ddweud bod lefel y perygl o ffliw adar yn lledaenu i’r DU ar y lefel ‘ganolig’ ar gyfer adar gwyllt—mae’r lefel honno wedi cael ei chodi o’r lefel ‘isel ond wedi dwysáu’—ac mae’r lefel ar’ isel ond wedi dwysáu’ ar gyfer dofednod domestig. Fel y dywedaf, rwyf am ddweud yn glir iawn mai neges ragofalus yw hon. Nid oes neb wedi...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, anfonwyd y datganiad i’r wasg o fy swyddfa neithiwr, felly nid wyf yn hollol siŵr pam na chafodd y datganiad i’r wasg ei gyhoeddi. Yn amlwg, nid yw hynny’n rhywbeth y mae gennyf reolaeth drosto. Nid wnaed y penderfyniad ar y cyd â Llywodraeth y DU, gyda DEFRA, na’r Alban. Cefais sgyrsiau â’n prif swyddog milfeddygol ddoe. Mae hi wedi bod mewn cysylltiad agos iawn, yn...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwyf wedi datgan bod Cymru yn barth atal ffliw adar, mesur rhagofalus er mwyn helpu i atal pobl rhag dal heintiau gan adar gwyllt. Gan weithio’n agos â Lloegr a’r Alban, rydym yn monitro’r sefyllfa ac wedi cynyddu gwyliadwriaeth. Rwyf wedi annog ceidwaid i wella bioddiogelwch a bod yn effro i arwyddion o glefyd.
Lesley Griffiths: Ar hyn o bryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n cyflwyno datganiadau ardal. Byddaf wedyn yn gallu gweithio gydag awdurdodau lleol ar hynny. Nid wyf wedi penderfynu os bydd rhagor o ganllawiau, ond rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn weithio'n agos iawn arno—neu gall Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicr wneud hynny—gweithio mewn partneriaeth, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a...
Lesley Griffiths: Rydych chi'n hollol iawn, ac mae'r Gweinidog dros lywodraeth leol a chyllid yn clywed yr hyn yr wyf yn ei ddweud hefyd. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod y gwaith da sydd wedi ei wneud gan Arbed a Nest. Ond rydych chi'n iawn: mae’n rhaid i ni gyflymu rhaglenni fel hyn yn sicr os ydym ni’n mynd i gyrraedd ein targedau. Fel y dywedais, yr un peth y mae COP22 wedi’i ddysgu i mi, trwy...