Lesley Griffiths: Mae Neil Hamilton mor negyddol. Mae gwir angen i chi gydnabod yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni gyda datgarboneiddio. Mae'n ymwneud â diogelwch y cymysgedd ynni, ac rwy’n ymwybodol bod Llywodraeth y DU yn gyfrifol am hynny hefyd. Mae'n ymwneud â chost a fforddiadwyedd ac mae'n ymwneud â datgarboneiddio. Rydych chi’n son yn ddibaid am Tsieina ac India ac ati; rwyf i’n...
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr, Simon Thomas. Fel y dywedais yn fy atebion i David Melding, rwy’n meddwl y bydd angen targedau arnom ac rwy'n hapus iawn i’w cyflwyno, efallai yn y datganiad nesaf neu drwy ddatganiad ysgrifenedig. Ond rwyf am wneud yn siŵr bod y targedau hynny yn realistig ac yn ymarferol, a gwelais rai targedau uchelgeisiol iawn gan rai gwledydd, neu gan rai gwladwriaethau a...
Lesley Griffiths: Diolch i David Melding am ei sylwadau a’i gwestiynau. Fel y dywedais ar y dechrau, mae ein blaenoriaethau yn parhau i fod yn unol â’r hyn a nodir yn ‘Ynni Cymru: Newid carbon isel’, ‘Twf Gwyrdd Cymru’ a pholisïau eraill sydd wedi eu cyflwyno. Os dysgais un peth o fynd i COP22 yn Marrakesh, yr agenda datgarboneiddio gyfan oedd hwnnw a sut y mae angen i ni ganolbwyntio ar y...
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Mae ein system ynni yn mynd drwy newid sylweddol. Mae'r datganiad hwn yn adlewyrchu’r cyd-destun newidiol hwn, ac yn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad ag ynni. Cytundeb Paris sy’n llywio’r agenda ddatgarboneiddio rhyngwladol. Rydym yn gweld datblygiadau cyflym mewn ynni adnewyddadwy, storio a lleihau'r galw. Yn COP22 yn Marrakesh, cyfarfum ag...
Lesley Griffiths: Byddwn yn adeiladu ar y newidiadau a gyflwynwyd gennym yn 2014 i leihau ymhellach effaith datblygiadau newydd yng Nghymru ar yr hinsawdd. Rwy'n rhagweld y bydd y gwaith hwn yn dechrau tua chanol 2017. Rydym ni hefyd yn cynyddu buddsoddiadau mewn prosiectau arbed ynni yn y sector cyhoeddus. Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, rydym yn disgwyl y byddwn wedi buddsoddi tua £35 miliwn mewn...
Lesley Griffiths: Diolch, Gadeirydd. Rwy’n synnu bod Lee Waters wedi gweld wynebau dryslyd, oherwydd ar ôl i chi ddwyn hyn i fy sylw yn ystod un o fy sesiynau holi fis neu ddau yn ôl, cefais lawer o bobl yn dod ataf i sôn wrthyf am amaethyddiaeth fanwl. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn dda iawn ein bod wedi cael y cyfle hwn i drafod y pwnc ymhellach heddiw. Crybwyllodd Simon Thomas yn ei sylwadau fod...
Lesley Griffiths: Rwyf bellach wedi dod o hyd i’r ystadegau penodol sydd gennyf ynglŷn â pholystyren. Cynhaliwyd yr arolwg hwn gan Cadwch Gymru’n Daclus yn 2015-16, a gwelsant fod 5.2 y cant o sbwriel yn bolystyren, ond roedd y rhan fwyaf o hwnnw, 3.2 y cant, yn bolystyren arall—felly, nid deunydd pecynnu yn unig. Ond roedd 2 y cant yn eitemau bwyd brys. Rwy’n fwy na pharod i edrych ar ddeunydd...
Lesley Griffiths: Ni welais y rhaglen, ond rwyf wedi darllen amdani heddiw, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Cymru yn bendant yn arwain ym maes ailgylchu. Pe baem yn aelod-wladwriaeth yn Ewrop, byddem yn bedwerydd drwy Ewrop, ond yn sicr, rydym ar y blaen yn y DU. O ran eich cwestiynau penodol ynglŷn â pholystyren, nid wyf yn hollol siŵr pam eich bod yn credu hynny, gan ein bod wedi gwneud rhywfaint o...
Lesley Griffiths: Fe fyddwch yn gwybod bod swyddogion wedi bod yn trafod yn fanwl iawn gydag adrannau perthnasol y DU ynglŷn â’r darpariaethau caniatadau ynni yn y Bil. Aeth nifer o welliannau drwy Dŷ’r Cyffredin; rydym yn obeithiol iawn y bydd rhagor o welliannau’n cael eu gwneud i’r Bil wrth iddo fynd drwy Dŷ’r Arglwyddi i fynd i’r afael â’n pryderon eraill, a byddwn yn ei wylio yn ofalus iawn.
Lesley Griffiths: Diolch. Ar hyn o bryd rydym yn gwerthuso ein strategaeth wastraff er mwyn sicrhau y rheolir adnoddau i gynhyrchu manteision cynaliadwy i Gymru. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant pecynnu a sefydliadau megis WRAP i hybu’r broses o optimeiddio pecynnu ac i gyfyngu arno lle bo hynny’n bosibl, waeth beth fo’r deunydd.
Lesley Griffiths: Wel, fel y dywedais, rydym yn annog cymunedau ledled Cymru i ddod at ei gilydd i rannu syniadau ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy lleol. Mae gennym bot o arian. Credaf, ar hyn o bryd, fod gennym wyth. Credaf fod wyth wedi eu cwblhau a bod chwech ar y gweill, neu’r ffordd arall efallai, ond rwyf wedi gweld un neu ddau fy hun dros yr haf. Soniais am y cynllun ynni dŵr. Euthum i ymweld â...
Lesley Griffiths: Diolch. Fy mlaenoriaeth yw cyflymu’r broses o newid i gymysgedd ynni carbon isel gyda pholisïau sy’n cefnogi ein hamcanion strategol fel Llywodraeth, fel y nodir yn ‘Symud Cymru Ymlaen’. Byddaf yn gwneud datganiad ym mis Rhagfyr a fydd yn amlinellu fy mlaenoriaethau ynni ar gyfer Cymru gyfan.
Lesley Griffiths: Gwnaf, yn sicr. Byddwn yn fwy na pharod i weithio gyda thrigolion lleol. Mae wedi bod yn braf iawn gweld prosiectau ynni cymunedol da iawn dros yr haf; agorais gynllun ynni dŵr yn ddiweddar nid nepell o Ferthyr Tudful. Felly, mae’n wych gweld y cymunedau hyn yn dod at ei gilydd, yn cyflwyno syniadau ar gyfer y cynlluniau hyn, a byddem yn hapus iawn i’w cefnogi â chyllid os yw hynny’n...
Lesley Griffiths: Byddwn yn sicr yn fwy na pharod i edrych ar yr hyn a wneir yn Llydaw. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd ar weithrediad y gyfarwyddeb nitradau yng Nghymru. Credaf fod yr ymgynghoriad yn dod i ben yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly, unwaith eto, byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i ddarllen yr ymgynghoriad ac i ymateb yn unol â hynny, ond wrth gwrs, rwy’n...
Lesley Griffiths: Wel, fel y dywedais yn fy ateb i Joyce Watson, mae’n bwysig iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda rheolwyr tir a rhanddeiliaid eraill, ac mae hynny’n cynnwys awdurdodau lleol. Rwyf wedi rhoi arian ychwanegol i fynd i’r afael â materion penodol, ond mae’n bwysig iawn fod y rhanddeiliaid a’r holl bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd mewn perthynas â’r mater hwn.
Lesley Griffiths: Diolch. Rydych yn llygad eich lle yn dweud bod 37 y cant o’r holl grynofeydd dŵr yng Nghymru wedi cyflawni statws ‘da’ neu well, ac rwy’n bwriadu cynyddu hynny yn y dyfodol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn targedu eu hadnoddau i weithio gyda rheolwyr tir a rhanddeiliaid eraill i wella arferion gwaith, a chredaf y bydd hynny’n arwain at welliannau o ran statws. Rydych yn iawn ynglŷn...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda rheolwyr tir a rhanddeiliaid eraill i wella arferion gwaith a sicrhau gwelliannau i statws crynofeydd dŵr Cymru. Eleni, mae 97 o’n 103 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig wedi cael eu dosbarthu’n ‘ardderchog’ neu’n ‘dda’, gan sicrhau bod traethau Cymru ymhlith rhai o’r goreuon yn Ewrop.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn drosedd, felly mae’n fater i’r heddlu, ond rydym yn annog rhanddeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd i weithio gyda’r heddlu a phartneriaid eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol, i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn. Credaf ein bod wedi gweld cynnydd yn y math hwn o weithgaredd, felly mae’n bwysig iawn,...
Lesley Griffiths: Rydym wedi buddsoddi llawer yn brwydro yn erbyn hyn, ac mae’n drosedd ac yn anghyfreithlon. Rydym wedi ariannu mentrau Taclo Tipio Cymru ers 2007 ac yn gweithio’n agos iawn gyda hwy. Un peth rydym yn ystyried ei wneud, wrth symud ymlaen, yw—mae rhai awdurdodau lleol wedi dweud wrthyf, ‘Weithiau, efallai mai dim ond un bag bin du a adawyd yno.’ Felly, rydym yn ystyried ymgynghori...
Lesley Griffiths: Diolch. Dyluniwyd cynllun rheoli cynaliadwy gwerth £10 miliwn ein rhaglen datblygu gwledig i ddarparu nifer o fanteision gan gynnwys mynd i’r afael â gweithredoedd gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon yn ein tirwedd fynyddig werthfawr. Unwaith eto, hoffwn annog pawb sydd â diddordeb yn hyn i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb. Fe sonioch am y pecyn cymorth troseddau tirwedd a gyflwynwyd...