Lesley Griffiths: Mae troseddau tirwedd, gan gynnwys tipio anghyfreithlon a gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd, yn fater y mae Llywodraeth Cymru o ddifrif yn ei gylch ac yn ymrwymedig i roi sylw iddo. Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 yn darparu nifer o bwerau i ganiatáu i awdurdodau lleol ddelio â’r rhai sy’n cyflawni troseddau amgylcheddol.
Lesley Griffiths: Fel y dywedais, mae’n bwysig iawn, os ydym am gyflawni’r weledigaeth honno, fod gennym—. Mae hyrwyddo ansawdd a chynaladwyedd ein cynnyrch bwyd môr yn gam allweddol. Mae’n bwysig iawn fod unrhyw beth a wnawn yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar wyddoniaeth, ac er enghraifft, dyna a wneuthum pan gytunais i ymestyn y gwely cregyn bylchog yng Ngheredigion.
Lesley Griffiths: Lluniwyd y strategaeth drwy weithio—yn sicr, bu fy swyddogion yn gweithio—gyda’r diwydiant. Hwy a’i datblygodd. Fe’i lansiwyd gennyf fi, fel y dywedwch. A chredaf fod y Llywodraeth a’r diwydiant yn rhannu’r weledigaeth honno ar gyfer y strategaeth, sef diwydiant bwyd môr ffyniannus, bywiog, diogel a chynaliadwy yng Nghymru. Credaf ei bod yn hollol iawn ein bod yn hyrwyddo...
Lesley Griffiths: Diolch. Rydym yn gweithio i ddatblygu a hyrwyddo ein sector bwyd môr yng Nghymru ar gyfer marchnadoedd domestig a marchnadoedd allforio. Yn ddiweddar, lansiais y strategaeth bwyd môr newydd yn ystod Wythnos Bwyd Môr Cymru, gyda’r nod o dyfu gwerth economaidd y sector. Byddwn yn hyrwyddo’r sector eto yn nigwyddiad Seafood Expo Global yn 2017.
Lesley Griffiths: Wrth gwrs, rwy’n ymwybodol o ddyfarniad Uchel Lys Llywodraeth y DU. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fy mod yn ymgynghori ar hyn o bryd ynglŷn ag ansawdd aer a rheoli sŵn. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw yn parhau tan 6 Rhagfyr. Rwy’n bwriadu defnyddio’r dystiolaeth a’r ymatebion a gawn yn rhan o’r ymgynghoriad hwnnw—defnyddio’r dystiolaeth wrth fwrw ymlaen erbyn y bydd angen i ni...
Lesley Griffiths: Unwaith eto, nid wyf wedi edrych yn fanwl iawn ar fater cael llys. Mewn gwirionedd, byddaf yn cwrdd ag Andrea Leadsom yfory, felly mae’n sicr yn rhywbeth y gallaf ei drafod. Rydym wedi dweud yn glir iawn y bydd y pwerau sydd wedi’u datganoli i’r lle hwn ers 1999 yn aros yma. Efallai y byddant yn mynd i mewn i’r Ddeddf ddiddymu i ddechrau, ond bydd unrhyw bwerau yn dod i ni wedyn fel y...
Lesley Griffiths: Ni chafodd hynny ei ystyried ar y cychwyn fel rhan o’r goblygiadau, ond yn sicr, byddwn yn parhau i arfer y dull rhagofalus a fabwysiadwyd gennym dros y blynyddoedd diwethaf.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae ein deddfau blaenllaw, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, wedi sicrhau sylfaen gref cyn Brexit ac yn cyflawni mewn perthynas â’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, cytundeb Paris a nodau byd-eang y Cenhedloedd Unedig. Maent yn darparu cyfeiriad clir yn seiliedig ar rwymedigaethau rhyngwladol allweddol na fyddant yn newid o...
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi cael y drafodaeth honno gyda chynrychiolwyr ffermio, ond credaf fod hynny’n rhywbeth y gallaf ei ystyried, yn sicr. Hoffwn atgoffa’r Aelodau ein bod yn dal i fuddsoddi £55 miliwn ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac er i ni weld llifogydd yr wythnos hon, yn enwedig i lawr yn ne Cymru, credaf ein bod wedi eu gweld ar raddfa lai oherwydd yr amddiffynfeydd a roesom...
Lesley Griffiths: Wel, mae’n broblem ac rydym yn dod â phobl at ei gilydd ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i geisio dod o hyd ateb priodol. Ond gwn nad oes penderfyniad wedi’i wneud eto, oherwydd rydym angen i’r gwaith hwnnw gael ei wneud. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech chithau annog eich awdurdod lleol.
Lesley Griffiths: Wel, efallai pan fydd yr Aelod wedi dysgu rhywfaint mwy am Gymru fe welwch ein bod yn gyfoethog iawn mewn adnoddau adnewyddadwy. Mae’n ymwneud â chydbwysedd, felly yr ateb byr i’ch cwestiwn yw ‘na’.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae rhaglenni rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i fynd i’r afael â risg ar draws gogledd Cymru yn unol â’n strategaeth genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys gwaith mawr yn Llanelwy, arfarnu 20 o gynlluniau arfordirol posibl a thros 70 o brosiectau bach i wella’r gallu i wrthsefyll llifogydd a chyflawni gwaith cynnal a chadw hanfodol.
Lesley Griffiths: Rwy’n sicr yn cydnabod bod ffynonellau ynni sy’n bodoli’n barod, megis glo, yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac yn darparu ynni i ni, ond mae angen i ni edrych, nid yn unig ar y gymysgedd ynni ar hyn o bryd ond y gymysgedd ynni yn y dyfodol. Mae’n bosibl nad ydych am ymrwymo i gytundeb Paris ond rwy’n hollol hapus i ymrwymo iddo ac rwy’n credu y buasai’r rhan fwyaf o’r...
Lesley Griffiths: Wel, roeddwn yn falch iawn o ateb cwestiynau Simon Thomas am y gynhadledd bwysig iawn a fynychais yr wythnos ddiwethaf. Nid wyf am drafod a wyf yn credu rhywbeth gydag Aelod o UKIP, a bod yn onest. Mae’r wyddoniaeth honno wedi bod yno ers blynyddoedd lawer.
Lesley Griffiths: Mewn perthynas â ffermydd gwynt, rwy’n deall bod gan rai pobl bryderon yn eu cylch, ond buaswn hefyd yn credu y buasai gan y bobl hynny bryderon pe na bai’r golau yn dod ymlaen wrth iddynt wasgu’r swits. Mae’n ymwneud â sicrhau ein bod yn bendant yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy wrth symud ymlaen.
Lesley Griffiths: Rydych yn gywir yn dweud bod gennym Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol, mae gennym Ddeddf yr amgylchedd, mae gennym ddeddfwriaeth na welwyd mo’i thebyg, ac mae’r cyfan yn ymwneud bellach â’u gweithredu. Nid wyf yn credu bod fy asesiadau effaith strategol yn amwys. Rwy’n credu eu bod yn amlwg yn rhan bwysig iawn o’n cyllideb. Credaf y gellir eu gwella wrth symud ymlaen, ac rwy’n...
Lesley Griffiths: Ie, rydym wedi dechrau ar y broses o gael ein cyllidebau carbon yn eu lle. Unwaith eto, rwy’n credu bod angen i ni wneud mwy i sicrhau cysondeb rhwng y cyllidebau carbon a’n cyllidebau ariannol, a rhywbeth a ddysgais yn COP22 oedd sut y caiff hyn ei wneud mewn gwledydd eraill. Os gallaf gyflymu’r broses mewn unrhyw ffordd, fe wnaf hynny.
Lesley Griffiths: Ie, roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yr holl drydan a brynir gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o’r flwyddyn nesaf ymlaen yn adnewyddadwy 100 y cant, ac roedd llawer iawn o ddiddordeb gan wladwriaethau a gwledydd eraill ynglŷn â sut y byddwn yn cyflawni hynny. Byddaf yn gwneud datganiad y mis nesaf ynglŷn â pholisïau ynni ar gyfer...
Lesley Griffiths: Wel, nid wyf yn credu bod yna fwlch uchelgais, a soniais yn fy ateb blaenorol i Simon Thomas fy mod wedi cael cyfarfodydd dwyochrog gyda fy nghyd-Aelodau Cabinet cyn i mi fynychu COP22. Gwnaed hynny’n benodol iawn. Nid wyf yn credu bod diffyg uchelgais mewn unrhyw bortffolio ar draws y Llywodraeth. Er mwyn i ni gyrraedd ein targed o leihau allyriadau carbon erbyn 2020, rwy’n derbyn bod...
Lesley Griffiths: Diolch. Oeddwn, roeddwn yn falch iawn i fynychu’r COP22, ac nid wyf yn credu fy mod yn gor-ddweud pan ddywedaf ei fod yn brofiad a newidiodd fy mywyd. Cyfarfûm â phobl ysbrydoledig, ac rwy’n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ddarllen y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais neithiwr. Rydych yn hollol gywir yn dweud mai ein targed yw lleihau allyriadau carbon o 40 y cant erbyn...