Lesley Griffiths: Gwnaf.
Lesley Griffiths: Ie, rydym yn sôn am ecosystemau. Felly, i sefydlu hyn, mae’r Ddeddf yn nodi fframwaith cyflawni cydgysylltiedig. Lansiais y cyntaf o’r rhain, adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, y mis diwethaf. Mae’n creu sylfaen dystiolaeth genedlaethol, ac yn nodi’r pwysau a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yn fuan,...
Lesley Griffiths: Gwnaf.
Lesley Griffiths: Nid wyf yn gallu bod yn bresennol, ond byddaf yn sicrhau bod uwch swyddog yn mynd yn fy lle. Fel y soniodd Simon Thomas yn ei sylwadau agoriadol, mae gennym bellach fframwaith deddfwriaethol sy’n mynd i’r afael â’r materion hyn. Mae ein deddfau arloesol, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn golygu mai gennym ni y mae’r sylfaen...
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Croesawaf y ddadl hon ar yr adroddiad sefyllfa byd natur yn fawr iawn ac rwy’n hapus i gefnogi’r cynnig. Rwy’n cydnabod y gwaith pwysig a wneir gan y bartneriaeth sefyllfa byd natur a diolch iddynt am gynhyrchu’r adroddiad pwysig hwn. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r gwaith hanfodol a phwysig a wnaed gan wirfoddolwyr yng Nghymru y cyfrannodd eu hymdrechion yn monitro a...
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Rwy’n falch iawn fod Plaid Cymru wedi cyflwyno’r ddadl hon ar newid yn yr hinsawdd heddiw, yn enwedig yn y cyfnod yn arwain at Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, COP22, ym Marrakesh, y byddaf yn ei fynychu i gymryd rhan mewn trafodaethau ar yr her fyd-eang hon. Fel y clywsom, y llynedd, roedd fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, yn ei rôl fel y...
Lesley Griffiths: Diolchaf i Dafydd Elis-Thomas, eto, am ei gwestiynau a’i sylwadau cadarnhaol. Ydw, rwy’n hapus iawn i edrych ar y ffin. Fel y dywedais, mae angen i ni edrych ar yr elfen lywodraethu, os ydym yn mynd i newid y rhanbarthau o'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd—am resymau amrywiol, rwy’n credu, y mae angen i ni wneud hynny. Rwy’n credu, o ran y mater a godwyd gennych ynglŷn â’r...
Lesley Griffiths: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau hynod gadarnhaol. Yn hollol, mae'n bwysig iawn, os oes gennym ddull wedi ei seilio ar dystiolaeth, ein bod yn gwrando, fel y dywedwch chi, nid ar ecolegwyr yn unig, neu ar wyddonwyr yn unig, ond ar bawb sydd â’r syniadau da hynny. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Ken Skates, o'r blaen, nid fi yw ceidwad yr unig syniadau da. Ni all unrhyw un person ddileu TB...
Lesley Griffiths: Rwy'n hapus iawn, fel bob amser, bod Aelodau’r pwyllgor yn craffu, ac yn sicr, os ysgrifennwch chi i ofyn am y dyddiad hwnnw, byddaf yn hapus iawn i ddod os wyf ar gael. Os nad ydwyf ar gael, fel y dywedwch, byddwn yn edrych am ddyddiad arall. Yr wyf yn gwybod eich bod wedi gofyn i'r prif swyddog milfeddygol i roi tystiolaeth yn barod, ond wrth gwrs byddwn yn hapus iawn i ddod i gael eu...
Lesley Griffiths: Rwyf wedi darllen llawer iawn o adroddiadau gwahanol. Rhoddwyd adroddiad newydd ar fy nesg yr wythnos diwethaf gan rywun a oedd wedi ymgymryd ag ysgoloriaeth Nuffield. Rwy’n darllen yn gyson am y peth, a chredwch chi fi, mae gennym ni bolisi. Rwy’n credu fy mod i wedi amlinellu ein polisi. Rwyf hefyd wedi sôn am fasnach. Nid yng Nghymru yn unig y mae TB buchol. Rwy'n credu ei bod yn...
Lesley Griffiths: Mae’n well gen i ddulliau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth, mewn gwirionedd, a chredaf fod hyn yr un peth â gwyddoniaeth. Wrth gwrs ein bod ni’n defnyddio gwyddoniaeth, ond credaf ei bod yn hynod bwysig ein bod yn parhau â’r dull hwnnw wedi’i seilio ar dystiolaeth. Credaf ei fod yn bwysig iawn i ni gynnal ymgynghoriad. Anogaf yr Aelodau i gyflwyno ymatebion—unrhyw rai y mae...
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi dweud o gwbl y bydd yna ddifa moch daear yn digwydd. Mewn difrif calon, nid wyf wedi dweud hynny. Yr hyn yr wyf wedi'i ddweud yw fy mod yn bwriadu cyflwyno cynlluniau gweithredu pwrpasol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n ystyried cynlluniau peilot o wledydd eraill, ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn, pan fydd gennym ni’r cynlluniau gweithredu...
Lesley Griffiths: Diolch. Roeddwn yn falch iawn bod Vikki Howells wedi ymgymryd ag ymweliadau a drefnwyd gan y ddwy undeb ffermio. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn, ac yn sicr ers i mi gychwyn yn y swydd, dyna oedd fy neges ar gyfer yr undebau ffermio: sef y dylem ni annog cynifer o Aelodau â phosibl i ymweld â ffermydd a dysgu mwy am y sector. Mewn cysylltiad â’ch dau gwestiwn penodol, mae...
Lesley Griffiths: Nid wyf yn cytuno â hynny o gwbl. Nid wyf yn credu y gallwch chi gymharu brechu a difa o gwbl. Mewn cysylltiad â'ch sylwadau ynglŷn â Gogledd Iwerddon, fel rwyf wedi dweud, rwy’n credu—yn sicr wrth ystyried yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud—ei fod wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y boblogaeth moch daear hefyd, ac rwy'n bryderus iawn ynglŷn ag iechyd a lles moch daear hefyd,...
Lesley Griffiths: Diolchaf i Paul Davies am ei sylwadau, a’r gyfres honno o gwestiynau. Rwyf o’r farn ein bod ni yn gweithredu dull cyfannol. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n ystyried yr offer sydd ar gael inni. Cofiwch mai ymgynghoriad yw hwn a byddaf yn sicr yn ystyried yr holl ymatebion a fydd yn dod i law cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Rwyf wedi dweud wrth swyddogion fy mod...
Lesley Griffiths: Diolch, Simon Thomas, am y cwestiynau hynny. Rwy’n gwrthod yr honiadau y bu diffyg gweithgarwch yn ein rhaglen dileu TB ers i ni gyhoeddi na fyddem ni’n brechu moch daear. Dim ond un rhan o'r rhaglen yw hynny; mae gennym fesurau eraill, ac mae hynny'n cynnwys y gyfundrefn profi anifeiliaid. Rydym ni wedi bod yn profi llawer mwy nag yr oeddem ni. Mae gennym ni’r pecyn Cymorth TB....
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â rhaglen dileu TB Llywodraeth Cymru sydd wedi’i diweddaru. Mae ein fframwaith 2012 ar gyfer dileu TB buchol yng Nghymru yn dod i ben eleni. Mae'n amser i asesu, adlewyrchu ar ein llwyddiannau, dysgu gwersi ac ystyried dull newydd. Ers 2012, rydym wedi gweld nifer yr achosion newydd o TB buchol mewn buchesi yng...
Lesley Griffiths: Diolch i Mike Hedges. Mae bob amser yn dda cael adborth cadarnhaol ar sut y mae ein cynlluniau llifogydd yn perfformio, ac rwy’n credu bod y cynllun £7 miliwn yn Abertawe yn enghraifft o sut y gall buddsoddiad llifogydd sicrhau manteision lluosog, ac yn sicr, ar ôl edrych arno, mae’n sicrhau manteision i fioamrywiaeth, er enghraifft, a gwelliannau i amwynderau.
Lesley Griffiths: Yn fy natganiad ar 28 Mehefin, nodais ddull gweithredu a blaenoriaethau’r Llywodraeth hon ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Rydym yn buddsoddi £55 miliwn eleni ar leihau risg a chynnal ein hasedau presennol. Mae hyn yn cynnwys gwaith mawr yn Llanelwy, Trebefered, Rhisga, Casnewydd a Thal-y-bont yng Ngwynedd.
Lesley Griffiths: Dywedais mewn ateb cynharach i Mohammad Asghar fod y ffordd rydym yn trin ein hanifeiliaid mewn gwirionedd yn adlewyrchu gwerthoedd ein cymdeithas. Fel y mae’r cod ymarfer yn datgan, ni ddylid defnyddio maglau ac eithrio lle nad oes dulliau eraill o reoli ar gael. Rwy’n hapus iawn i sicrhau’r Aelod y byddaf yn ei fonitro, ac os nad yw’n effeithiol, byddaf yn edrych ar gamau pellach....