Lesley Griffiths: Rwyf wedi cael y trafodaethau hynny gyda’r ffermwyr fy hun, yn sicr mewn sioeau amaethyddol yr ymwelais â hwy yn ystod yr haf, a chyda ffermwyr unigol, ac rydym yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod cyllid yn eu cyrraedd cyn gynted â phosibl.
Lesley Griffiths: Yn sicr, rydym yn ystyried pa gyfnodau ymgeisio y gallwn eu hagor. Rwyf am sicrhau bod cymaint o gyfnodau ymgeisio ar agor cyn gynted ag y bo modd er mwyn i ni allu sicrhau cymaint o arian â phosibl.
Lesley Griffiths: Rwy’n derbyn y gallai fod mwy o gostau i rai rhannau o’r gymuned ffermio. Bydd yn rhaid eu hystyried pan fyddwn yn edrych ar yr asesiad effaith llawn a fyddai’n gysylltiedig ag unrhyw reoliadau newydd. A chredaf fod yn rhaid i ni edrych ar unrhyw gynnydd yn y costau sy’n rhaid eu pwyso a’u mesur ochr yn ochr â’r manteision i’r amgylchedd.
Lesley Griffiths: Mae’r Aelod yn gywir—rydym yn amlwg yn ymgynghori ar hyn o bryd. Yn wir, ddydd Llun diwethaf, 10 Hydref, cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn Sir Benfro i drafod hyn, gyda ffermwyr lleol o Sir Benfro hefyd, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi clywed ei fod yn gyfarfod cadarnhaol iawn. Credaf fod ffermwyr yn awyddus iawn i ystyried y ffordd orau o...
Lesley Griffiths: Wel, nid oeddwn yn bod yn arbennig o benodol. Credaf mai’r hyn a ddywedais oedd pan fyddwn yn edrych, a phan fyddwn yn ymdrin—credaf i mi grybwyll bod 5,000 darn o ddeddfwriaeth yn fy mhortffolio yn ymwneud ag amaethyddiaeth a physgodfeydd—pan fyddwn yn ymdrin â hwy ac yn ystyried yr hyn sy’n benodol i Gymru ar gyfer y dyfodol, efallai y byddem yn atgyfnerthu peth o’r ddeddfwriaeth...
Lesley Griffiths: Gallaf, rwyf wedi cynnal trafodaethau gyda’r cwmni morlynnoedd llanw, ac un o’r manteision y cyfeiriasant ato, wrth sôn am y morlyn llanw posibl o amgylch ardal Bae Colwyn, oedd y ffaith y byddai’n cynnig gallu i wrthsefyll llifogydd. Felly, unwaith eto, mae’r trafodaethau hynny’n parhau.
Lesley Griffiths: Wel, nid ydym yn darparu’r mathau hynny o grantiau i berchnogion tai unigol; yn hytrach, rydym yn canolbwyntio ar ariannu cynlluniau llawer mwy er budd grwpiau o eiddo neu gymunedau. Rydym yn cefnogi gwydnwch ar lefel eiddo, pan gaiff ei gyflwyno fel ateb addas gan awdurdodau lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rydym yn darparu cyllid grant at y diben hwnnw. Credaf mai’r hyn rydym yn ei...
Lesley Griffiths: Fe fyddwch yn deall bod y trafodaethau hynny megis dechrau, bedwar mis i mewn i dymor y Llywodraeth hon, felly ni allaf roi dyddiad i chi pa bryd y bydd ar gael. Rwyf wedi dechrau trafod gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â hyn. Mae’n debyg fod yr ystyriaethau cynnar yn ymwneud ag edrych, efallai, ar ddarnau bach o offer, er enghraifft, drwy grantiau cyfalaf, ond fel y dywedais,...
Lesley Griffiths: Diolch. Fel llawer o rannau o Gymru, daw perygl llifogydd yng Ngorllewin Clwyd o afonydd, y môr a dŵr wyneb. Er mwyn lleihau’r risg hon, mae Gorllewin Clwyd wedi elwa o dros £20 miliwn o fuddsoddiad dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys gwaith ym Mae Colwyn, Rhuthun a Bae Cinmel.
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr, ac rwy’n falch iawn eich bod wedi derbyn gwahoddiadau’r undeb ffermio i ymweld â ffermydd yn eich etholaeth. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu’n rheolaidd ac yn gynhyrchiol iawn gyda rhanddeiliaid ffermio ynghylch Glastir, ac mae hynny’n cynnwys, yn amlwg, yr undebau ffermio. Mae rheolau’r Comisiwn Ewropeaidd yn ei gwneud yn ofynnol i gymorth...
Lesley Griffiths: Diolch. Y rhaglen datblygu gwledig yw’r prif fecanwaith ar gyfer cefnogi ffermwyr Cymru, gan gynnwys ffermydd mynydd a ffermydd ymylol llai o faint, megis y rhai yng Nghwm Cynon, drwy gynlluniau amaeth-amgylcheddol a chynlluniau buddsoddi y maent yn gymwys ar eu cyfer. Mae cymorth ar gael hefyd drwy Glastir a Cyswllt Ffermio.
Lesley Griffiths: Diolch i Simon Thomas am ei gwestiynau. Rwyf wedi dweud eisoes fy mod o’r farn na allwn ddyfalu ynghylch beth achosodd hyn. Ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n digwydd yn fuan iawn, dyna fydd yr amser, wedyn, i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gynnal ymchwiliad llawn. Hoffwn sicrhau yr Aelodau fy mod wedi gofyn i...
Lesley Griffiths: Diolch i chi, Lywydd, ac rwy’n diolch i Angela Burns am y sylwadau yna ac yn sicr am y sylwadau am y tîm trefn rheoli arian. Rydych chi yn llygad eich lle: roedd yn dda iawn gweld pa mor dda y llwyddodd Cyfoeth Naturiol Cymru i gydgysylltu’r ymateb amlasiantaethol hwnnw, ac mae’r tîm trefn rheoli arian wedi cyfarfod yn ddyddiol ac maent wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi. Rwy'n...
Lesley Griffiths: Diolch i chi, Joyce Watson, am y cwestiynau yna. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cwrdd â Valero a dylwn i fod wedi dweud bod Valero a Cyfoeth Naturiol Cymru yn hapus iawn i gwrdd ag unrhyw Aelod o'r Cynulliad i drafod y mater hwn. Rydych chi'n hollol iawn, dylem hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu presenoldeb. O ran yr A48, fe wnes i ddweud fy mod i’n derbyn y...
Lesley Griffiths: Diolch, Adam Price, am y cwestiynau yna. O ran y llinell amser, gallaf ddweud wrth yr Aelodau, ddydd Mawrth diwethaf—felly, 4 Hydref—cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru yr alwad ffôn gyntaf gan Valero am 10:46 pan ddywedodd Valero eu bod yn rhoi gwybod eu hunain am ddifrod i biblinell cerosin a’i lleoliad. Roedd maint yr arllwysiad yn anhysbys ar y pryd, ac roedden nhw wedi cymeradwyo...
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, ar 4 Hydref, rhoddwyd gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru am arllwysiad cerosin o'r biblinell wrth ochr yr A48 ger Nantycaws. Yn syth ar ôl y digwyddiad, defnyddiodd y gwasanaeth tân ac achub freichiau cyfyngu arllwysiad olew mewn argyfwng ar Nant Pibwr a sefydlodd Cyfoeth Naturiol Cymru ganolfan gydgysylltu aml-asiantaethol. Roedd contractwyr...
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno’r ddadl fer hon ac i Caroline Jones a Suzy Davies am eu cyfraniadau. Mae’r ffordd y mae cymdeithas yn rheoli gwastraff wedi newid yn sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi creu goblygiadau i bobl, yr amgylchedd ac o ran rheoleiddio. Wrth i wastraff gael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi ac i...
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o ymateb i’r ddadl hon ar ran y Llywodraeth. Fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â’n hymrwymiad i ddarparu cymorth i sicrhau cymunedau gwledig llwyddiannus a chynaliadwy. Mae ein rhaglen datblygu gwledig yn cefnogi ystod eang o unigolion, busnesau, sefydliadau a chymunedau, gan gynnwys teuluoedd fferm a busnesau fferm. Mae’n...
Lesley Griffiths: Yn ffurfiol.
Lesley Griffiths: O ran y brechu, mewn ymateb i rywbeth a ddywedodd Neil Hamilton, roeddwn yn mynd i ddweud nad yw’r ffaith nad oes gennym gyflenwad o’r brechlyn yn golygu nad oes gennym bolisi—wrth gwrs fod gennym bolisi ac mae’r rhan fwyaf ohono’n ymwneud, yn briodol felly, â mesurau rheoli gwartheg. Nid wyf yn gwybod pa bêl risial sydd gan Neil Hamilton, ond nododd y dyddiad 2023 ac na fyddwn yn...