Baroness Mair Eluned Morgan: Rŷch chi'n eithaf reit, a dwi'n meddwl bod rhaid inni fod yn wyliadwrus iawn. Mae'r effaith ar blant yn rhywbeth sydd yn mynd i effeithio arnyn nhw am amser hir os nad ydyn ni'n delio gydag e'n gynnar. Mi fyddwn ni'n cael update ar adferiad cyn bo hir, a dwi wedi gofyn i wneud yn siŵr ein bod ni'n ystyried plant wrth inni edrych ar y rhaglen. Ac rydych chi'n ymwybodol, wrth inni ddatblygu'r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, ac mae'n wir, mae yna lot fawr o bobl yn dioddef o COVID hir. Roeddwn i'n siarad gyda mam ddoe a oedd yn sôn wrtha i am ei mab hi sy'n dioddef o COVID hir, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod hon yn sefyllfa sy'n anodd iawn i'r rheini, yn arbennig y rheini sydd wedi ein gwasanaethu ni i gyd yn ystod y pandemig. A dyna pam rŷn ni wedi bod yn eithaf...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, fel y gwyddoch, rwy'n awyddus iawn i weld canolfannau llawfeddygol rhanbarthol yn cael eu datblygu. Rwyf wedi fy nghyfyngu gan faint o arian cyfalaf a roddwyd inni gan Lywodraeth y DU—dyna sy'n clymu fy nwylo ar hyn o bryd. A gadewch imi ddweud wrthych ein bod eisoes yn cychwyn y rhain; byddwch wedi gweld ddoe ein bod yn canoli ac yn cael un o'r canolfannau llawfeddygol hyn, ar gyfer...
Baroness Mair Eluned Morgan: Nid ydych yn cyfrif eu hanner, dyna pam.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, bydd Russell yn ymwybodol fod y ffigurau wedi codi ym mhobman yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; nid yw hon yn sefyllfa unigryw—maent wedi saethu i fyny ym mhobman. Ac wrth gwrs, rydym i gyd yn cael ein herio yn awr, o ran lleihau'r rhestrau hynny, a dyna pam y gwnaethom gyhoeddi ein cynnig ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yn ôl ym mis Ebrill, lle mae'r targedau wedi'u...
Baroness Mair Eluned Morgan: Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod nifer y bobl sy'n aros am ddwy flynedd wedi gostwng yn y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ychydig wythnosau'n ôl. Bu gostyngiad o 3.4 y cant. Felly, credaf fod hynny'n dangos ein bod, mewn gwirionedd, yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Yn amlwg, bydd gennym fwy o ffigurau'n dod allan yr wythnos nesaf, a fydd yn dangos i ni a yw'r newid hwnnw wedi parhau. Yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rwy'n treulio llawer o amser ar hyn, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych. Mae gennym brif swyddog deintyddol newydd, a chredaf ei fod o ddifrif yn ceisio deall y sefyllfa, ac mae'n deall difrifoldeb y sefyllfa. Nid yw'n sefyllfa sy'n unigryw i Gymru, mae'n fater sy'n her ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Rydym ymhellach ymlaen nag y maent yn Lloegr gyda'r contract newydd a...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Mae'r sefyllfa yn un anodd o ran deintyddiaeth ar draws Cymru. Wrth gwrs, rŷn ni dal mewn sefyllfa lle mae COVID wedi effeithio ar y gwasanaeth. Roeddem ni i lawr at 50 y cant tan yn ddiweddar iawn, ac rydym ni nawr nôl at tua 80 y cant. Wrth gwrs, mae lot o bobl nawr eisiau gweld deintydd ar ôl aros cyhyd. O ran yr academi newydd, rwy'n falch iawn y bydd adcademi newydd yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wrth i academi ddeintyddol gogledd Cymru gael ei sefydlu yn yr hydref eleni, a gan fod 96 y cant o gyllid deintyddiaeth yr NHS ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynd i bractisau sy’n rhan o'r broses diwygio’r contract, dwi’n disgwyl gweld gwelliannau sylweddol o ran mynediad i gleifion yn y gogledd yn y dyfodol agos.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Gadewch inni fod yn glir nad yw'r bwrdd i fod yn gynrychiolaeth ddaearyddol. Pe byddem yn dechrau hynny, byddai'n anodd iawn cael cynrychiolaeth o Gymru gyfan. [Torri ar draws.] Rwyf am barhau. Cefais y pleser o siarad â Dr Rajan Madhok. Mae'n rhywun a ymddeolodd i Gymru bedair blynedd yn ôl. Mae wedi cael gyrfa hynod o ddisglair. Bu'n feddyg iechyd y cyhoedd, bu'n...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n penderfynu ar flaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru. Maent yn ystyried anghenion eu poblogaeth leol, ac mae hynny'n seiliedig ar waith y byrddau partneriaeth rhanbarthol, sy'n cynnwys paneli dinasyddion. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr o bob cyngor iechyd cymuned...
Baroness Mair Eluned Morgan: I regularly meet with the chairs and vice-chairs of all health boards and include specific focus on primary care services. My officials also regularly discuss issues around primary care services with the Cwm Taf Morgannwg University Health Board.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Joyce, ac mae hwn yn faes sydd, unwaith eto, yn un o'r meysydd hynny lle mae'n bwysig iawn ein bod yn dechrau siarad amdano'n gyhoeddus, oherwydd mae'n effeithio'n wirioneddol ar fenywod hŷn yn benodol, y mae llawer ohonyn nhw ag ofn gadael eu cartrefi yn awr oherwydd y stigma cymdeithasol y maen nhw'n ei deimlo os oes ganddyn nhw broblemau fel hynny. Rwy'n siŵr y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Buffy, ac rwy'n gwybod eich bod chithau hefyd wedi bod â phroblemau o ran iechyd menywod. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn siarad am y menopos nawr, ac mae'n wych bod pobl ychydig yn fwy agored am y peth. Ac rwy'n credu bod llawer y gallwn ni ei wneud i gefnogi menywod â'r menopos ac mae'n rhaid i ni ddeall—. Yn y gweithle hefyd, rwy'n credu bod gwaith i...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. O ran sgrinio serfigol, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod hefyd yn cymryd nid yn unig—. Mae'n amlwg yn fater o rywedd, ond mae mater anghydraddoldebau o fewn hynny. Felly, mae'n amlwg ein bod yn gweld llai o bobl o ardaloedd tlotach yn cyflwyno eu hunain i'w sgrinio, felly mae'n rhaid i ni ystyried hynny hefyd, a sicrhau ein bod yn gwneud iawn am hynny, nid yn unig o ran...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, yr hyn yr ydym wedi'i weld yw cynnydd o 40 y cant yn y galw dros y pum mlynedd diwethaf o ran HRT. A'r broblem wirioneddol yw nad yw gweithgynhyrchwyr wedi llwyddo i ateb y galw hwnnw. Felly, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, sydd, wrth gwrs, yn gyfrifol am gaffael hwn ar ein rhan, ac, yn amlwg, mae pobl yn cael eu cynghori i fynd at bethau amgen sydd ar gael...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn, ac rwyf wedi eich clywed ar sawl achlysur yn sôn am eich profiadau o ran iechyd amenedigol, a'r un peth gyda Buffy—profiadau trawmatig iawn, ac rydych yn gynrychiadol o filoedd lu o fenywod sydd wedi bod drwy gyfnod trawmatig iawn. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn meddwl yn ofalus, a dyma pam mae cwrs bywyd yn bwysig iawn. Nid...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. A, Jenny, hoffwn eich cefnogi chi o ran eich safbwynt ar hawl menywod i ddewis. Rwyf yn gwbl anobeithiol o ran yr hyn sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau, ac rwy'n credu ei fod yn gam trist iawn yn ôl i fenywod ac, yn wir, i ddynion yn y wlad honno. O ran endometriosis, byddwch yn ymwybodol bod gennym ni bellach ym mhob bwrdd iechyd nyrs endometriosis. Rwyf wedi cwrdd â nhw...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ei gwneud yn gwbl glir nad oes unrhyw wrthddweud yn y ffaith ein bod eisoes wedi dechrau gwneud gwaith ym maes gynaecoleg. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yw ehangu y tu hwnt i hynny, ac, yn sicr, roedd hyn yn rhywbeth a amlygwyd i mi yn gynnar iawn ar ôl i mi gael fy mhenodi, ac nid oeddwn yn ymwybodol ohono, y ffaith bod clefyd y galon yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Gwych. Diolch, Russell. Yn gyntaf oll, diolch i'r pwyllgor am gymryd y mater hwn o ddifrif. Mae'n debyg bod gennyf apêl fach i chi, fel pwyllgor—gwn eich bod yn annibynnol a gallwch wneud fel y mynnoch chi, ond byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallech chi wneud hyn yn eithaf cyflym fel y gallwch chi ddylanwadu ar y cynllun. Yr hyn rwy'n awyddus iawn i'w wneud â'r cynllun hwn yw cael pawb i...