Rhianon Passmore: 4. Pa gynlluniau wrth gefn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer pobl Islwyn yn dilyn cyhoeddi'r ddogfen Operation Yellowhammer? OAQ54347
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. Soniasoch ar ddechrau'r hyn rydych newydd ei ddweud wrth y lle hwn fod pawb am gael plaid wleidyddol sy'n cynnwys amrywiaeth eang o ddaliadau a bu ichi gefnogi hynny yn ei hanfod, felly beth yw eich barn chi am y ffaith bod Boris Johnson wedi diarddel dogn fawr o'ch cymheiriaid Ceidwadol yn San Steffan?
Rhianon Passmore: Roedd Harold Macmillan yn Brif Weinidog Ceidwadol a oedd, fel y dywedodd Neil Kinnock unwaith, yn cynrychioli cenhedlaeth o Dorïaid a oedd yn cydnabod dyletswydd ac yn mynd ar drywydd yr amcan o un genedl. Mae'r Prif Weinidog Torïaidd presennol, Boris Johnson, ar y trywydd iawn i fod y Prif Weinidog a dreuliodd yr amser byrraf yn 10 Stryd Downing, ac nid oes ganddo unrhyw fwriad o...
Rhianon Passmore: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fanteision Diwrnod Aer Glân i genedlaethau iau yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n dal i fod yn gwbl sicr fod cyni yn gymhelliant gwleidyddol i guddio ymosodiad ideolegol ar y wladwriaeth a'r sector cyhoeddus gan Lywodraeth Geidwadol y DU, ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro am ddweud hynny. Mae'n hollbwysig i'r cyd-destun a'r rhagolygon i Gymru a phobl Cymru, sef y datganiad yr ydym ni newydd ei glywed. Ac rwy'n ofni bod y...
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu'r proffesiwn addysgu gyflwyno'r cwricwlwm newydd?
Rhianon Passmore: Weinidog, ym mis Rhagfyr y llynedd rhyddhaodd Llywodraeth Cymru fwletin ystadegol, 'Walking and cycling in Wales', a luniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ac mae'r ffigurau'n dangos bod 44 y cant o blant yn teithio'n llesol i ysgolion cynradd; mae 34 y cant o blant yn teithio'n llesol i'r ysgol uwchradd. Felly, gan fod cyfleusterau addysg newydd o'r radd flaenaf yn cael eu hadeiladu a'u...
Rhianon Passmore: Diolch. Fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, a gaf i groesawu'r gwaith caled a phenderfynol gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r fwrdeistref sirol a arweinir gan Lafur Cymru wrth gydweithio i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol llygredd nitrogen deuocsid ar y A472 yn Hafodyrynys? Yn ddiweddar iawn, ymwelodd Mr Martin Brown, sy'n byw ar y stryd dan sylw, ag un o'm cymorthfeydd gyda'r cynghorydd...
Rhianon Passmore: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ansawdd aer yn Islwyn yn parhau i wella? OAQ54191
Rhianon Passmore: Gwnaf, yn fyr.
Rhianon Passmore: Cytunaf yn llwyr fod pwysau gwirioneddol a heriau gwirioneddol, ond nid y sector addysg uwch yn unig, o gofio pwnc y ddadl hon, sy'n eu hwynebu. Mae'r diwygiadau radical y mae'r Llywodraeth hon a arweinir gan Lafur Cymru wedi'u rhoi ar waith mewn ymateb i adolygiad Diamond yn radical a byddant yn creu setliad ariannu cryf a chynaliadwy. Bydd y dull radical a blaengar hwn hefyd yn golygu...
Rhianon Passmore: Mae'r sector addysg uwch, fel y gwyddom, yn chwarae rhan allweddol a hanfodol ym mywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru, ac felly mae cynnal a datblygu sector addysg uwch bywiog a llwyddiannus yn ganolog i weledigaeth Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu system addysg o safon fyd-eang. Yn anffodus, mae addysg uwch yng Nghymru, yn debyg i weddill y DU, yn wynebu pwysau ariannol...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Yn hynny o beth, a gredwch fod gan y cyfryngau hefyd rôl elfennol a chanolog bwysig iawn yn hyn o ran y modd y caiff gwleidyddiaeth, gwleidyddion a chymdeithas sifil eu portreadu?
Rhianon Passmore: Cwnsler Cyffredinol, fe wnes i gwrdd â chynrychiolwyr Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sy'n parhau i ymgyrchu ar y mater tyngedfennol hwn yn stoïcaidd ac yn gadarn. Pa sicrwydd, yn ychwanegol at yr hyn yr ydych chi eisoes wedi ei roi i ni, allwch chi ei roi y bydd Llywodraeth Lafur Cymru, yn rhinwedd ei swydd, yn parhau i wneud pob cynrychiolaeth gyfreithiol bosibl ac...
Rhianon Passmore: Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyd-Aelod Llafur yng Nghymru, John Griffiths AC am ddod â'r ddadl bwysig iawn hon gerbron y Siambr. Cytunaf â llawer o'r hyn a ddywedwyd gan y rhan fwyaf o'r Aelodau. Felly, gadewch inni fod yn onest: rydym yn byw mewn economi gyfalafol mewn byd sy'n cael ei ddominyddu gan gyfalafiaeth a'r pyramid economaidd ymrannol y mae'n ei gynhyrchu. Er bod hyn yn cynnig...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: O ran y sylwadau yn gynharach am gael gwead cymdeithasol a bod yn rhan o'ch cymuned, a ydych yn credu bod hynny'n bosibl mewn gwirionedd i rywun sy'n gweithio dau, dri, neu bedwar contract dim oriau weithiau?
Rhianon Passmore: Weinidog, cyhoeddodd y Prif Weinidog, pan oedd yn gyfrifol am bortffolio'r Ysgrifennydd cyllid, fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo £2.9 miliwn i ariannu gwasanaethau cyflogaeth a hyfforddiant arbenigol i bobl â nam ar eu synhwyrau, ac ar y pryd, dywedodd Rebecca Woolley, cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru 'Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael yr arian hwn. Bydd nid yn unig yn...