Canlyniadau 21–40 o 800 ar gyfer speaker:John Griffiths

8. Dadl Plaid Cymru: Lleihau'r pwysau ar y GIG (25 Ion 2023)

John Griffiths: Gwyddom o'r dadleuon hyn ac o'n profiad ein hunain, Ddirprwy Lywydd, fod y pwysau ar y GIG yn aruthrol. Yn aml, mae'n wasanaeth adweithiol iawn a hynny o anghenraid mewn sawl ffordd oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid i'r GIG ymdopi â'r hyn sy'n dod i'w ran, ac yn aml, mae'r hyn sy'n dod i'w ran yn hynod o heriol ac yn mynnu pob gronyn o'i adnoddau. Ond rydym hefyd yn gwybod, ac fel y dywedodd...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol — 'Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon' (25 Ion 2023)

John Griffiths: Credaf fod hwn yn adroddiad pwyllgor ac yn ddadl bwysig iawn. Mae gan y sector hamdden ran bwysig iawn i’w chwarae yn ein bywydau yng Nghymru, gan gynnwys gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Maent mor bwysig er mwyn mwynhau bywyd, ar gyfer iechyd a ffitrwydd ac ar gyfer ansawdd bywyd. A diolch byth, credaf ein bod wedi gweld cysylltiadau llawer gwell rhwng y byd chwaraeon a ffitrwydd a byd...

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Blaenoriaethau Economaidd a Chysylltiadau Llywodraeth y DU (17 Ion 2023)

John Griffiths: Gweinidog, rwy'n credu bod y rhyfel yn Wcráin wedi dangos yn glir pa mor ansefydlog ac anrhagweladwy yw'r byd yr ydym yn byw ynddo ac mae llawer o wledydd bellach yn gweithio'n galed iawn i gynnal a chefnogi eu diwydiannau allweddol, eu diwydiannau strategol. Roeddwn yn falch iawn eich bod wedi cyfeirio at y diwydiant dur ac yn wir y diwydiant lled-ddargludyddion yn eich datganiad, oherwydd...

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd (17 Ion 2023)

John Griffiths: Gweinidog, dros y penwythnos mewn ardaloedd yn Nwyrain Casnewydd, fel Llanwern, Langstone a St Julians, gwelwyd llifogydd ac nid digwyddiad anghyffredin mohonyn nhw'n anffodus, sydd wedi mynd yn fwy tebygol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o drigolion a busnesau yn cysylltu â mi a'm swyddfa i. Un o'r materion yr ydych chi'n siŵr o fod yn gyfarwydd â nhw, Gweinidog, yw canfod pwy...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: 'Asedau Cymunedol' (11 Ion 2023)

John Griffiths: Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn farn gyffredin fod angen inni ystyried amseroldeb gweithredu wrth fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adroddiad a'r cynnydd angenrheidiol mewn perthynas â'r materion hyn. Roedd yn dda clywed y Gweinidog yn ymateb i hynny ac yn datgan ei hymrwymiad ei hun i sicrhau amseroldeb wrth fwrw ymlaen ag ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a'r gwaith y mae'r...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: 'Asedau Cymunedol' (11 Ion 2023)

John Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i holl Aelodau'r Senedd a gymerodd ran yn y ddadl heddiw ar adroddiad ein pwyllgor a'r ffordd y gwnaethant hynny? Rwy'n credu ei bod yn glir iawn, onid yw, fod Aelodau'n gwerthfawrogi'r asedau cymunedol sydd ganddynt yn eu hardaloedd eu hunain ac yn gallu pwyntio at lawer o enghreifftiau o arferion da, ac yn wir, cyfeiriodd...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: 'Asedau Cymunedol' (11 Ion 2023)

John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar asedau cymunedol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, yn enwedig y grwpiau sy’n ymwneud â’r asedau cymunedol y buom yn ymweld â hwy: Maindee Unlimited, Canolfan Gymunedol y Fenni, Sinema Neuadd y Farchnad ym Mryn-mawr, Antur Nantlle, Ty’n...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ieithoedd Tramor Modern (11 Ion 2023)

John Griffiths: Diolch yn fawr, Lywydd.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ieithoedd Tramor Modern (11 Ion 2023)

John Griffiths: Weinidog, mae gan y cwricwlwm newydd ymrwymiad i wneud Cymru'n genedl wirioneddol amlieithog. Hefyd, ceir yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i'r perwyl hwnnw ac fel y dywedwch, mae'r strategaeth 'Dyfodol Byd-eang' wedi'i diweddaru'n ddiweddar hefyd. Ond er hynny i gyd, Weinidog, gwyddom fod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio Almaeneg a Ffrangeg ar lefel TGAU a...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ieithoedd Tramor Modern (11 Ion 2023)

John Griffiths: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysgu ieithoedd tramor modern? OQ58927

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Newid Hinsawdd (11 Ion 2023)

John Griffiths: Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer yn Nwyrain Casnewydd?

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (10 Ion 2023)

John Griffiths: Pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant dur wrth drosglwyddo i ddyfodol mwy cynaliadwy?

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Datblygiad Economaidd (14 Rha 2022)

John Griffiths: Yn ddiweddar, cyfarfûm ag etholwyr sy'n gweithio yn Newport Wafer Fab a Nexperia, ac maent yn bryderus iawn, ynghyd ag eraill yn y gweithlu o 600 a mwy, am y sefyllfa bresennol, ac yn enwedig, wrth gwrs, am benderfyniad Llywodraeth y DU sydd wedi gorfodi Nexperia i werthu o leiaf 86 y cant o'i gyfran yn Newport Wafer Fab. Mae'r rhain yn swyddi uwch-dechnoleg medrus iawn sy'n talu'n dda iawn,...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Datblygiad Economaidd (14 Rha 2022)

John Griffiths: Diolch yn fawr, Llywydd, a Nadolig llawen.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Datblygiad Economaidd (14 Rha 2022)

John Griffiths: 9. Beth yw asesiad diweddaraf y Gweinidog o ddatblygiad economaidd yn Nwyrain Casnewydd? OQ58872

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau ( 6 Rha 2022)

John Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Fel yr ydym wedi clywed, mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol i wneud teithio ar fws yn fwy fforddiadwy a bod mwy ar gael yma yng Nghymru, ac mae fforddiadwyedd cymharol teithio ar fws o'i gymharu a char wedi bod yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Mae gennym ni fentrau amrywiol o ran teithio ar fysiau am ddim, Gweinidog—rhai...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ymgysylltiad Cymunedau â Ffermio (30 Tach 2022)

John Griffiths: Diolch am hynny, Weinidog. Rwy'n credu ei bod hi'n amlwg yn bwysig fod y gymuned ehangach yn deall ac yn teimlo cysylltiad â ffermio os ydym yn mynd i gael y math o gefnogaeth boblogaidd i'n polisïau a'r sector ffermio yr hoffem ei gweld. Mae'n ymwneud â deall yn well sut mae ein ffermydd yn gweithio, beth sy'n digwydd ar y tir a sut y caiff ein bwyd ei gynhyrchu. Rwy'n credu bod y...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ymgysylltiad Cymunedau â Ffermio (30 Tach 2022)

John Griffiths: 4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i annog cymunedau i ymgysylltu â ffermio? OQ58787

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (23 Tach 2022)

John Griffiths: Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd heddiw at ddadl sy'n bwysig iawn yn fy marn i? Rwy'n credu ei bod yn edrych yn debyg fod yna dderbyniad cyffredin nad yw Cymru yn y sefyllfa y dylai fod ynddi mewn perthynas â'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Rydym yn hoffi meddwl amdanom ein hunain fel gwlad sy’n gryf iawn ar hawliau dynol, a chaiff hynny ei...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (23 Tach 2022)

John Griffiths: Yn rhy aml, mae safleoedd wedi'u lleoli ymhell o wasanaethau ac amwynderau lleol, gan gynnwys ysgolion, ac fel arfer maent wedi'u lleoli ger prif-ffyrdd prysur a seilwaith diwydiannol. Clywsom gan yr Athro Jo Richardson o Brifysgol De Montfort, a nododd fod safleoedd yn aml wedi'u lleoli mewn ardaloedd anaddas, 'am mai dyna'r darn o dir gyda'r lleiaf o elyniaeth y gellid ei ddatblygu'. Mae...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.