Baroness Mair Eluned Morgan: Ydw, rwy'n hapus i gael y cyfarfod hwnnw.
Baroness Mair Eluned Morgan: Os nad oes ots gennych, hoffwn ymateb i hynna. Mae hwn yn ddatganiad yr ydym ni wedi bod yn ei baratoi. Yn amlwg, nid oeddwn i eisiau rhoi hynny ar unrhyw agenda nes i mi gael cyfle i siarad â chadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd, a digwyddodd hynny yr wythnos diwethaf. Ac ers hynny, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn ers y cyfarfod hwnnw ddydd Mawrth diwethaf i roi'r mesurau...
Baroness Mair Eluned Morgan: Os nad oes ots gennych chi, hoffwn i ymateb i hynna.
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n ymwybodol iawn o ddifrifoldeb y sefyllfa, ac mae'n amlwg bod y sefyllfa yn Betsi, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny yr ydym ni wedi tynnu sylw atyn nhw, yn annerbyniol. Mae hyn yn rhywbeth y gwnes i'n glir iawn i'r prif weithredwr a'r cadeirydd pan wnes i gyfarfod â nhw yr wythnos diwethaf. A gaf i fod yn gwbl glir bod y datganiad hwn wedi'i glustnodi cyn unrhyw awgrym o ddadl gan yr...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Fe wnes i, wrth gwrs, gynnig sesiwn friffio i'ch cynrychiolydd gwleidyddol ar y pwyllgor iechyd, ac yr wyf i'n siŵr ei fod wedi dweud wrthych chi beth yr oedd yr wybodaeth honno'n ei gynnwys. Nid oes dim byd gwasgarog ynghylch y dull gweithredu hwn. Roedd gennym ni fesurau ffurfiol o ran iechyd meddwl a llywodraethu, a nawr rydym ni'n anelu'r ymyriad ychwanegol hwn at yr...
Baroness Mair Eluned Morgan: Yn olaf, mae wedi dod yn amlwg mai systemau adweithiol, ar y cyfan, sydd gan y bwrdd iechyd ar hyn o bryd. Mae adolygiadau allanol wedi tynnu sylw at fylchau sylweddol mewn elfennau sylfaenol o'r safonau gwasanaethau clinigol. Mae hyn yn cynnwys cadw cofnodion, rheoli digwyddiadau, gweithio fel tîm, adrodd ar bryderon, arweinyddiaeth a morâl. Mae llawer o brosesau yn eu lle, ond does dim...
Baroness Mair Eluned Morgan: Yn dilyn y cyfarfod teirochrog rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, mae prif weithredwr y GIG wedi argymell y dylid ymestyn statws ymyriad wedi'i dargedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y tu hwnt i faterion iechyd meddwl a llywodraethu hyd at gynnwys Ysbyty Glan Clwyd, gan ganolbwyntio yn benodol ar y gwasanaeth fasgwlaidd a'r adran achosion...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn dilyn pryderon parhaus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y codwyd llawer ohonyn nhw yn y Siambr hon, fe ofynnais i i brif weithredwr GIG Cymru gynnal cyfarfod teirochrog neilltuol ar 26 o fis Mai yn rhan o fframwaith dwysáu GIG Cymru. Mae'r sefyllfa yn Betsi yn annerbyniol ac mae angen gwaith ac ymdrech ddifrifol arni i'w hadfer. Nid yw'r gwasanaethau...
Baroness Mair Eluned Morgan: Fel rhan o'n rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol, mae yna ffrwd waith benodol hefyd ar atal a llesiant. Mae'r ffrwd waith hon yn nodi cynnig sylfaenol cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl a lles a fydd yn sylfaen i waith cynllunio a darparu lleol. Mae yna ymrwymiadau eraill o dan y rhaglen llywodraethu hefyd ar gyfer gwasanaethau cymunedol, a datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar am gyfle'r ddadl fer hon heddiw i drafod mater pwysig mynediad at wasanaethau iechyd. Nawr, o dan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru mae mwy o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill bellach yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag erioed o'r blaen: dros 104,000 o bobl ac 89,000 o staff cyfwerth ag amser llawn—3,600 yn fwy o staff nag ar yr...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae’r cynllun adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi’i gyhoeddi ac mae hwn yn gosod nifer o dargedau heriol i fyrddau iechyd eu cyflawni ar draws pob arbenigedd, gan gynnwys gwasanaethau gofal eilaidd gynaecolegol. Bydd y bwrdd gynaecoleg sydd newydd gael ei ffurfio yn datblygu cynlluniau i gyflawni'r targedau. Bydd hyn yn cynnwys amryw o gamau gweithredu, gan gynnwys e-gyngor, gwell...
Baroness Mair Eluned Morgan: Yn bendant. Credaf fod anghyfiawnder wedi bod yn digwydd ers gormod o amser, a'r union ffaith nad yw menywod mewn treialon, fod swm anghymesur o arian yn cael ei fuddsoddi mewn rhai meysydd ymchwil yn hytrach nag eraill—menywod sydd ar eu colled bron bob tro. Rhaid i hynny fod yn rhywbeth yr ydym yn mynd i'r afael ag ef. Mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol, yn hollol. Yn 2019, cyhoeddodd...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wrth gwrs.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch yn fawr am ganiatáu imi ymateb i'r ddadl hon gan yr wrthblaid ar iechyd menywod, y gwn fod y rhan fwyaf o bobl yn y Siambr yn ymwybodol ei fod yn fater rwy'n teimlo'n angerddol yn ei gylch, ac mae'n wych gweld bod consensws llwyr ar y mater, os nad ar y cynnig ei hun. Nawr, fel y gwyddom, menywod yw ychydig dros hanner ein poblogaeth a 47 y cant o'r gweithlu....
Baroness Mair Eluned Morgan: Yn ffurfiol.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wel, byddwn yn cytuno â chi, Carolyn, fy mod yn credu y byddai meddwl am ad-drefnu yng nghanol y pandemig, pan fo gennym y rhestrau aros hiraf erioed, yn weithred ddiangen. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobl, a’r hyn y maent ei eisiau yw cael eu trin yn dda a bod yn siŵr eu bod yn cael eu gweld mewn modd amserol. Credaf hefyd...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wel, yn sicr, rydym wedi gweld pwysau aruthrol yng Nglan Clwyd, ac mae hynny'n un o'r rhesymau pam yr euthum yn syth i'r ysbyty cyn gynted ag y gwelais yr adroddiad cyntaf, a threulio'r diwrnod yn yr ysbyty, nid ymweliad cyflym yn unig, ond treuliais amser gyda phobl ar y rheng flaen yn yr adran achosion brys, yn gweld y math o bwysau sydd arnynt, a gallaf ddweud wrthych...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, wrth gwrs, mae Glan Clwyd, ynghyd ag adrannau damweiniau ac achosion brys eraill, yn gweld cynnydd enfawr yn y galw, ac mae rhywfaint o'r galw hwnnw'n deillio o'r ffaith bod pobl na wnaeth geisio cymorth yn ystod y pandemig yn gwneud hynny yn awr. Ond mae'r sefyllfa yng Nglan Clwyd yn waeth nag mewn ysbytai eraill, a dyna pam y mae angen inni sicrhau ein bod yn tynnu sylw...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwyf am geisio tawelu'r sefyllfa yma rywfaint, a gadewch inni geisio bod ychydig bach yn fwy adeiladol. Nawr, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi dweud yn union beth sydd angen ei wneud yn y sefyllfa hon. Maent wedi dweud—maent wedi rhestru'r hyn y mae angen ei wneud. Nid oedd yr ymateb fel y dylai fod pan aethant yn ôl i mewn; bellach cafwyd ymateb gan y bwrdd iechyd. Felly, gadewch...
Baroness Mair Eluned Morgan: Os ydych yn credu mai ailstrwythuro yw'r ateb ar hyn o bryd—