Baroness Mair Eluned Morgan: Nid ailstrwythuro yw'r ateb ar hyn o bryd. Byddwn yn cael cyfarfod teirochrog ym mis Mehefin a bydd hwnnw'n darparu argymhellion i mi ar y lefel briodol o uwchgyfeirio. Rwyf wedi gofyn am sicrwydd fod fy swyddogion yn barod ar gyfer unrhyw bosibilrwydd a ddaw o'r cyfarfod teirochrog hwnnw, ac mae gennym ddulliau gwahanol yn awr o sicrhau y gallwn gefnogi ac ymyrryd yn y ffordd fwyaf ymarferol...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n gwbl glir nad yw hyn yn dderbyniol. Mae'r sefyllfa—
Baroness Mair Eluned Morgan: Os gadewch imi orffen—nid yw'n dderbyniol. Cyn gynted ag y clywais fod problem, euthum i dreulio'r diwrnod cyfan yn yr ysbyty er mwyn gweld drosof fy hun beth oedd yn digwydd ac i weld y pwysau a oedd arnynt. A gallaf ddweud wrthych fy mod wedi cyfarfod â rhai aelodau o staff y bu'n rhaid iddynt roi'r gorau iddi am eu bod, mewn gwirionedd, yn eu dagrau oherwydd y pwysau a oedd arnynt. Wrth...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Mae hwn yn adroddiad siomedig, ac mae'r methiannau mewn gofal sydd wedi eu nodi yn annerbyniol. Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau i ni fod trefniadau goruchwyliaeth cadarn nawr mewn lle. Rŷn ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd weithio gydag Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru i gyflymu gwelliannau, ac mi fyddwn ni'n parhau i gynnig cefnogaeth er mwyn galluogi newid.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi bod yn gefnogol i'r pwynt hwn. Rwy'n credu ei fod yn cefnogi'r cam hwn oherwydd ei fod yn credu, tra bod y cyfraddau'n dal yn uchel iawn—felly, fod un o bob 35 yn dal yn weddol uchel, ac, wrth gwrs, cymerwyd y mesur hwn pan oeddem ni ar adeg pan oedd tua un o bob 20, a oedd yn uchel iawn, yn y gymuned—yna mae'n awyddus iawn i...
Baroness Mair Eluned Morgan: Yn ogystal â'r gofyniad cyfreithiol hwn i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o fewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, mae'r canllawiau presennol ar gyfer atal a rheoli heintiau COVID-19 hefyd yn cynghori'n gryf y dylai staff barhau i wisgo menig, masgiau a ffedogau wrth ddarparu gofal personol uniongyrchol. Dylid gwisgo offer llygaid hefyd wrth ddarparu gofal personol...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron. Ers yr adolygiad ar 14 Ebrill, rydym ni wedi bod yn adolygu'r data iechyd yn agos iawn i fonitro unrhyw gynnydd mewn ffigurau oherwydd cynnydd mewn cymysgu cymdeithasol dros wyliau'r Pasg. Rwy'n falch o gyhoeddi bod nifer sydd mewn ysbytai yn gysylltiedig â COVID wedi gostwng dros yr wythnosau diwethaf. Mae canlyniadau...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae'n bwysig nawr ein bod ni'n cynyddu capasiti'r gwasanaeth iechyd, ein bod ni'n blaenoriaethu diagnosis a thriniaeth, ein bod ni'n trawsnewid y ffordd rŷn ni'n darparu gofal dewisol, a hefyd mae'n bwysig ein bod ni'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth well i bobl. Rŷn ni wedi rhoi miliynau o bunnoedd yn ychwanegol i sicrhau ein bod ni'n gweld theatrau ac adnoddau endosgopi ychwanegol, ac...
Baroness Mair Eluned Morgan: Arhoswch funud—nid fy nghyfrifoldeb i fel gwleidydd yw gwneud hynny. Nid dyna fy swydd i. Gwaith byrddau iechyd y GIG yw hynny, a fy ngwaith i yw eu dwyn i gyfrif, a fy ngwaith i yw gosod targedau iddynt a'u gwneud yn atebol am y targedau hynny a'r canlyniadau hynny, a dyna rwy'n ei wneud. Ond ni fyddaf yn cymryd rhan yn y gwaith o ysgrifennu contractau i bobl, a chredaf ei bod yn bwysig...
Baroness Mair Eluned Morgan: Altaf, gadewch i mi ddweud wrthych beth rwy'n ei wneud a beth nad wyf yn ei wneud. Yr hyn nad wyf yn ei wneud yw rheoli'r GIG. Nid dyna yw fy swydd i.
Baroness Mair Eluned Morgan: A gaf fi ei gwneud yn glir hefyd ein bod wedi clywed, yn uchel ac yn glir, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun gofal wedi'i gynllunio, nad oedd ganddynt gynllun ar gyfer y gweithlu ochr yn ochr ag ef? Wel, rydym yn ymwybodol iawn na allwn gyflawni hyn heb weithlu gweithgar iawn, ac rydym wedi recriwtio 8,000 yn fwy o staff i'r GIG nag a oedd gennym ym mis Medi 2019. Mae hwnnw'n...
Baroness Mair Eluned Morgan: Nid dyna a ddywedais—. Roeddwn yn ofalus iawn o'r hyn a ddywedais yn y fan honno.
Baroness Mair Eluned Morgan: Gallaf eich sicrhau nad wyf yn dweud wrthych am gadw'n dawel.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau, gobeithio, gan siarad ar ran y Siambr gyfan, drwy ddweud fy mod yn falch o weld Altaf Hussain yn ôl yn ei sedd. Rwy'n falch iawn ei fod wedi cael triniaeth dda gan y GIG, ynghyd â 200,000 o bobl eraill o Gymru bob mis sy'n cael triniaeth gan y GIG. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ddechrau gyda hynny. A gawn ni gydnabod, os gwelwch yn dda, nad...
Baroness Mair Eluned Morgan: Yn ffurfiol.
Baroness Mair Eluned Morgan: Dwi'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda chadeirydd ac is-gadeirydd y bwrdd iechyd, ac yn ystod y cyfarfodydd hyn rydym ni'n trafod mynediad at wasanaethau meddyg teulu. Mae fy swyddogion hefyd yn cyfarfod gyda chynrychiolwyr y byrddau iechyd, meddygon teulu a chleifion i drafod gwasanaethau meddygon teulu. Dwi'n gwybod bod meddygon teulu yn ymateb i alw cynyddol gan gleifion, er gwaethaf y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, roeddem yn falch iawn ein bod wedi cyflwyno lefel ddiogel o staff nyrsio yng Nghymru—y cyntaf yn y DU i wneud hynny—ac rydym yn falch iawn fod hynny'n cael ei asesu a'i ystyried ar hyn o bryd. Yn amlwg felly, rydym yn edrych i weld beth arall y mae angen inni ei wneud ynglŷn â hyn. Nawr, rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol, ac maent yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Buffy. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod y Dirprwy Weinidog iechyd meddwl wedi ymrwymo'n llwyr i'r mater hwn, yn sicr pan oedd hi'n Gadeirydd y pwyllgor o'r blaen, ac yn amlwg mae'n gyfrifol yn awr am sicrhau bod hynny'n cael ei weithredu yn ymarferol. Credaf iddi ymweld â chanolfan newydd Tonna a agorwyd yn ddiweddar iawn, y gyntaf o'i bath yng Nghymru lle gallwn roi'r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Nid ydym yn cadw'r data ar ganran y cysylltiadau a ddigwyddodd wyneb yn wyneb. Drwy gydol y pandemig, cynhaliwyd y rhan fwyaf o gysylltiadau ymwelwyr iechyd gan ddefnyddio telefeddygaeth i helpu i leihau cyfraddau trosglwyddo. Cyhoeddir data ar raglen Plant Iach Cymru bob chwarter, yn fwyaf diweddar ar gyfer y cyfnod o fis Gorffennaf i fis Medi 2021.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Fe wnaethom ddatblygu’r cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio gyda chlinigwyr a chyda’r byrddau iechyd. Maent yn dargedau uchelgeisiol ond realistig, a byddwn yn sicrhau eu bod yn cadw atynt. Hoffwn eich cywiro ar un peth, sef yr honiad cyson hwn fod 20 y cant o boblogaeth Cymru yn aros am driniaeth. Wel, dyna nifer y bobl ar lwybrau, ac weithiau, mae pobl ar fwy nag...