Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n credu ei bod yn glir iawn nad yw canllawiau mor gryf â gorfodi yn y gyfraith, a dyna pam yr ydym wedi parhau, yn enwedig yn y lleoliadau hyn sydd dan fygythiad, i fynnu ar wisgo gorchuddion wyneb yn y lleoliadau hynny. Ac mae'n amlwg nad yw'n ofyniad ar y bobl sy'n gweithio yno yn unig, ond mae hefyd yn ofyniad ar y bobl sy'n dod i mewn i'r adeiladau hynny i...
Baroness Mair Eluned Morgan: Ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod nad yw COVID-19 wedi mynd, ac y bydd yn aros gyda ni yn fyd-eang. Wrth i'r don bresennol o'r haint leddfu, fel roeddem ni'n gobeithio, rhaid inni baratoi ar gyfer tonnau newydd yn y dyfodol. Allwn ni ddim cymryd yn ganiataol y bydd amrywiolion y dyfodol yr un fath ag omicron. Fe allem ni weld amrywiolyn mwy niweidiol yn dod yn y dyfodol. Rhaid inni gofio...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd a chanlyniad yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws. Mae trosglwyddiad y don omicron BA.2 o COVID-19 yn y gymuned yn parhau ar lefel uchel iawn ledled Cymru. Yn ôl arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gan un o bob 25 o bobl yng Nghymru COVID. Mae tua 1,064 o gleifion yn yr ysbyty o...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am y cyfle i ddod â'r drafodaeth yma i'r Senedd.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rwy'n derbyn bod yr hyn yr ydym ni'n cychwyn arno yn y fan yma yn risg gyfansoddiadol; rwyf wedi gwneud hynny'n glir drwy gydol y drafodaeth ar y Bil Iechyd a Gofal. Rwyf yn credu, er hyn, o ran llawer o adrannau o'r Bil yr ydym eisoes wedi'u trafod, fod Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi symud cryn dipyn i'n cyfeiriad ni ac wedi gwneud rhai consesiynau sylweddol iawn i'n...
Baroness Mair Eluned Morgan: Pwrpas y gwelliant hwn, y gofynnir am gydsyniad y Senedd ar ei gyfer heddiw, yw i gael yr un effaith â’r gwelliant gwreiddiol ond mewn ffordd fwy syml drwy ei wneud yn drosedd i wladolyn o’r Deyrnas Unedig neu berson sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru neu Loegr gyflawni gweithred y tu allan i’r Deyrnas Unedig sy’n ymwneud ag organ ddynol ac sydd eisoes yn drosedd mewn perthynas...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf y cynnig, ac rwyf heddiw'n argymell bod y Senedd yn cydsynio i gynnig cydsyniad deddfwriaethol Rhif 4 ar Fil Iechyd a Gofal y DU. Mae'r gwelliant hwn yn benodol iawn ei natur ac mae'n ymwneud â thrafodion masnachol mewn organau i'w trawsblannu dramor—fel y'i gelwir yn dwristiaeth organau. Bydd Aelodau'n cofio bod cydsyniad eisoes wedi'i roi ar gyfer y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Rhun, ac yn sicr rŷn ni yn ymwybodol iawn bod yna bobl sy'n nerfus iawn o hyd ac sydd yn pryderu, a dyna pam mae'n bwysig bod pobl yn dilyn y cyngor, efallai, rŷn ni wedi'i roi gerbron, a gwnes i restru'r rheini ar y diwedd, a sicrhau bod pobl yn cael eu brechu—hwnna yw'r peth pwysicaf, wrth gwrs. Ond ar wahân i hynny, rŷn ni i gyd yn gwybod beth sydd angen ei wneud i'n...
Baroness Mair Eluned Morgan: Nid yw dileu'r gofynion cyfreithiol yn golygu nad oes angen i fusnesau a chyflogwyr ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws. Fodd bynnag, mae'n bryd iddynt asesu'r risgiau hyn ochr yn ochr â chlefydau trosglwyddadwy eraill, gan gynnwys y ffliw a norofeirws. Rydym wedi diwygio cyngor iechyd y cyhoedd i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau i'w helpu i barhau i weithredu...
Baroness Mair Eluned Morgan: Ymddiheuriadau i'r Llywydd, a hefyd i'r Senedd.
Baroness Mair Eluned Morgan: Llywydd, cynigiaf y cynnig sydd ger ein bron. Er fy mod yn gobeithio bod yr Aelodau wedi mwynhau toriad y Pasg, ni fyddan nhw wedi anghofio bod coronafeirws yn dal i fod gyda ni, ac rwy'n falch o gyhoeddi bod y niferoedd yn yr ysbytai wedi sefydlogi dros yr wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, mae'r niferoedd yn parhau i fod yn uchel. Yn ei gyd-destun, ar 22 Ebrill 2022, roedd 1,360 o gleifion yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, rydym ni'n sicr yn ceisio taflu popeth dan haul ato, a gallaf i ddweud wrthych chi nad wyf i'n credu bod y system wedi torri. Dydw i ddim yn meddwl fod system sy'n gweld 200,000 o bobl y mis yn system sydd wedi torri. Ac rwy'n credu y dylem ni werthfawrogi'r gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud yn wythnosol gan yr arwyr sydd yn ein system, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. A gaf i ddweud wrthych fod endometriosis yn faes yr wyf i wedi ceisio canolbwyntio arno mewn gwirionedd, gan fy mod i'n credu ei fod yn faes sydd wedi'i esgeuluso am lawer gormod o amser? A dyna un o'r rhesymau pam, erbyn diwedd y tymor hwn, y byddaf yn llunio cynllun iechyd menywod, gan fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn canolbwyntio ar iechyd menywod. Mae...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Dyna'r ffordd i ofyn cwestiynau, James. Diolch yn fawr. [Chwerthin.] Fe gawn ni weld os gallaf ateb mewn ffordd sydd yr un mor effeithlon. Yn gyntaf, o ran deintyddion, edrychwch, rydym eisoes ar drywydd hyn o ran prentisiaethau. Felly, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym yn gofyn iddyn nhw edrych yn wirioneddol ar beth arall y gallwn ei wneud yn y maes hwnnw, lle rydym yn defnyddio...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n fwy na pharod i'ch ateb chi, Darren. Ond gadewch i ni ei wneud mewn ffordd ffurfiol. I mi, y peth pwysig yw ein bod yn edrych ar effeithlonrwydd ond hefyd ar y costau. Felly, gall Cwm Taf osod clun newydd yn rhad iawn o'i gymharu â rhai o'r ardaloedd eraill, felly mae'n rhaid i ni ddysgu oddi wrthyn nhw ac mae rhai ohonyn nhw yn ymwneud â gofal dydd. Felly, yn sicr, byddai hynny'n...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Jenny. Ac, yn sicr, mae cataractau yn faes yr ydym yn canolbwyntio'n fanwl arno, oherwydd, fel y dywedwch, mae miloedd o bobl yn aros, yn llythrennol. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn ymdrin â nhw mewn system o flaenoriaeth, felly mae'r rhai sy'n fwy tebygol o golli eu golwg yn mynd i flaen y ciw. Cefais brawf llygaid y bore yma ac roedd fy optegydd wrth ei fodd o...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Rhun. Yn sicr, mae pethau wedi newid ers i'r pandemig fwrw. Mae'r ffaith ein bod ni i gyd yn defnyddio technoleg mewn ffordd hollol wahanol i'r ffordd roedden ni cyn y pandemig yn golygu bod yna bosibiliadau nawr nad oedd yna cyn y pandemig. Ac felly rŷn ni eisiau manteisio ar y rheini er mwyn newid y system ymlaen. Ond rŷch chi'n eithaf reit, beth sydd angen arnon ni yw...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae'n wahanol iawn.
Baroness Mair Eluned Morgan: Nid yw'n fwriadol. Rydym eisiau—[Torri ar draws.]
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae angen i ni fod yn dryloyw gyda'r cyhoedd. Rydym ni'n credu, er enghraifft, ei bod yn bwysig cynnwys pethau fel diagnosteg a therapïau yn ein hamseroedd rhestrau aros oherwydd, mewn gwirionedd, mae miloedd o bobl yn aros amdanyn nhw. Nid ydyn nhw wedi'u cynnwys yn ffigurau Lloegr, felly gofynnaf i chi roi'r gorau i gymharu afalau a gellyg.