Rhianon Passmore: Prif Weinidog, mae Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates wedi bod yn rhagweithiol o ran nodi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerbydau sy'n addas ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd yn yr unfed ganrif ar hugain. Ym mis Gorffennaf y llynedd, dywedodd Ken Skates, a dyfynnaf, Rwyf wedi bod yn agored iawn ynghylch yr anhawster sydd ynghlwm ag ychwanegu cerbydau o safon uchel at y stoc sydd ar gael...
Rhianon Passmore: Ym mis Mawrth, cyhoeddodd The Economist erthygl o'r enw, 'The quiet decline of arts in British schools'. Defnyddient astudiaeth achos o Gymru o awdurdod lleol yr effeithiwyd arno gan doriadau ariannol. Soniwyd sut roedd cyllideb y gwasanaeth cerddoriaeth wedi lleihau cymaint â 72 y cant. Disgrifiodd pennaeth gwasanaeth cerddoriaeth y cyngor ar y pryd y peth yn gryno—'Bydd llawer yn...
Rhianon Passmore: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn rhoi munud o'r amser a neilltuwyd ar fy nghyfer i fy nghyd-Aelod, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Sayed. Bydd Aelodau'r Cynulliad yn gwybod bod hwn yn fater eithriadol o bwysig i mi, ond mae hefyd yn fater o bwys mawr i Gymru. Roedd gennyf gariad angerddol yn blentyn at gerddoriaeth a fy mhroffesiwn fel oedolyn oedd...
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu'r bobl dlotaf yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Iawn. Diolch. Mae'r grant amddifadedd disgyblion ar gyfer y dysgwyr ieuengaf—disgyblion tair i bedair oed—wedi cynyddu o £600 i £700, gan adeiladu ar ddyblu'r cymorth ariannol y llynedd o £300 i £600 y dysgwr yn y blynyddoedd cynnar, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Llywodraeth Dorïaidd y DU sy'n anrheithio cymorth ar gyfer dysgwyr tlotach. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu,...
Rhianon Passmore: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, fe ysgrifennoch chi at ysgolion yn Islwyn i roi gwybod iddynt ynglŷn â—
Rhianon Passmore: Dyna'r cwestiwn sydd gennyf o fy mlaen.
Rhianon Passmore: Fe lwyddais yn y pen draw.
Rhianon Passmore: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â dysgwyr dan anfantais yn Islwyn? OAQ52048
Rhianon Passmore: Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella'r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaeth iechyd rhywiol yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Gweinidog, croesawaf eich datganiad heddiw, a diolch yn fawr iawn am eich diddordeb personol ac am yr ymroddiad a ddangosoch yn bersonol i sicrhau bod ansawdd aer Cymru yn gwella. Fel y gwyddoch, yn fy etholaeth i, Islwyn, ceir pryderon am effaith ansawdd aer ar ganlyniadau iechyd hefyd, ac rwyf wedi pwysleisio, Gweinidog, effaith hynny a phryderon grŵp trigolion Cwm Sirhywi isaf ynghylch...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch ichi am hynny. A gaf fi ofyn, felly, o ran hynny, pa ymyriadau a wnaethoch, fel Ceidwadwyr Cymreig—a chyflwyno sylwadau—iddynt ynglŷn â'r mater hwn?
Rhianon Passmore: Diolch. A pha arsylwadau cynnar y gellir eu gwneud ar Awdurdod Cyllid Cymru, a'u gwaith rheoli a choladu?
Rhianon Passmore: 5. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau y bydd arian a godir gan y ddwy dreth ddatganoledig newydd yn cyfrannu tuag at fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ52000
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, cafodd y cynigion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 mewn etholiadau cyngor lleol gefnogaeth drawsbleidiol eang, ac, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ei ddatgan, 'Mae democratiaeth leol yn dibynnu'n llwyr ar y rhai sy'n cymryd rhan.' Prif Weinidog, mae'n ddyletswydd arnom i...
Rhianon Passmore: Diolch. A ydych yn cydnabod yn awr felly, heb ffurf ar undeb tollau—neu heb yr undeb tollau—y bydd treth dariff ar nwyddau a allforir o Gymru?
Rhianon Passmore: Diolch. Ers i'r prosiect ddechrau yn 2013, mae argaeledd band eang cyflym iawn ledled Cymru wedi mwy na dyblu. Arweinydd y tŷ, a yw Llywodraeth Cymru yn gallu nodi'r ganran o adeiladau Islwyn sydd â chysylltiad band eang cyflym iawn ar hyn o bryd, a pha gamau pellach y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod pob safle yn fy etholaeth yn cael eu cysylltu?
Rhianon Passmore: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddoch chi fod Llywodraeth Cymru yn darparu £30 miliwn i gynghorau yng Nghymru er mwyn gwella cyflwr y ffyrdd yn eu hardaloedd, a chroesawyd hyn gan bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol. Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyllid ac adnoddau, 'Edrychwn ymlaen at barhau i drafod yn...
Rhianon Passmore: 2. Will the Cabinet Secretary provide an update on the resources the Welsh Government has made available to local authorities to improve road surfaces? OAQ5180