Hannah Blythyn: Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le wrth iddo sôn am lefelau ailgylchu poteli plastig, o ran, mewn gwirionedd, un o'r heriau yn awr yw'r broblem o ailgylchu pan fydd pobl i ffwrdd o'u cartrefi, nid taflu sbwriel yn unig, sy'n ffactor sy'n cyfrannu. Ond hefyd ni allaf ond sylwi nawr, ble bynnag yr af, rwy'n chwilio'n benodol i weld a oes gan ardal siopa neu ganolfan drafnidiaeth...
Hannah Blythyn: Diolch ichi am eich cwestiynau a'ch cyfraniadau niferus yn y fan honno. Yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod yn croesawu eich cefnogaeth o ran gwneud yn siŵr nad ydym yn camu yn ôl ar unrhyw un o'n camau diogelu amgylcheddol wrth i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a bod y dulliau hynny ar waith o ran cadw'r camau diogelu hynny mewn gwirionedd a glynu wrth ein rhwymedigaethau rhyngwladol? O ran...
Hannah Blythyn: Gyda phwyslais Brexit ar hyn o bryd ar yr effaith economaidd a chymdeithasol, efallai ei bod yn hawdd colli golwg weithiau ar y bygythiadau amgylcheddol a oedd gynt yn ganolbwynt ein sylw ac sydd heb ddiflannu. Ni ddylid diystyru bygythiadau Brexit. Ond ochr yn ochr â hyn hefyd ni ddylem anghofio graddfa'r risgiau sy'n deillio o ddirywiad parhaus mewn bioamrywiaeth, neu gynnydd parhaus mewn...
Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd. Yng Nghymru, rydym ni'n ffodus o fod â thirwedd anhygoel a threftadaeth naturiol gyfoethog. Mae'n atyniad mawr i ymwelwyr â'n harfordir ac yn lle gwych i ni i gyd dreulio amser. Ond nid mater o hamdden yn unig yw ein hamgylchedd naturiol; mae'n dirwedd ar gyfer byw a gweithio, sydd yno, a dylai fod yno, er budd holl bobl Cymru. Mae'n fwy na dim ond man sy'n bodoli y...
Hannah Blythyn: Diolch am eich cwestiwn.
Hannah Blythyn: Credaf y bydd yn rhaid i mi droi at y Saesneg yn awr. Mewn perthynas ag ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfyngiadau o ran afonydd eogiaid yng Nghymru a'r ymgynghoriad yn 2017, clywais yr hyn a ddywedoch ynglŷn ag ysgrifennu at fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, byddaf yn cysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch yr argymhellion rydym yn aros amdanynt, ac os nad oes...
Hannah Blythyn: Mae'r cynlluniau rheoli basn afonydd, a gyhoeddwyd yn 2015, yn cynnwys asesiadau manwl o holl afonydd Cymru, a hefyd y mesurau rydym yn bwriadu eu cyflwyno er mwyn gwella eu hansawdd. Ar hyn o bryd, mae 37 y cant o'n hafonydd yn cyflawni statws da o dan y gyfarwyddeb fframwaith dŵr, a'r nod yw cynyddu hyn i 42 y cant erbyn 2021.
Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn gywir fod angen rhoi sicrwydd i bobl fod y camau rheoleiddio mwyaf effeithiol a gwyliadwrus ar waith. Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â phryderon pobl y Barri, yn enwedig, fel y clywsom eisoes heddiw, yn ystod y gwaith a wneir cyn comisiynu'r cyfleuster biomas. Ychydig iawn y gallaf ei ychwanegu at yr hyn...
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am godi hynny? Mae'n rhywbeth a godwyd gyda mi a Cyfoeth Naturiol Cymru. Deallaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymchwilio i gwynion am lwch gan drigolion lleol, a deallaf hefyd fod—[Anghlywadwy.]—botensial i achosi llwch. Deallaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu cyngor ac arweiniad i nifer o gwmnïau yn yr ardal er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am barhau i ofyn cwestiynau ynglŷn â'r maes hwn, a gwn ei fod o ddiddordeb i lawer o'i hetholwyr. Mae ein llythyr at y datblygwyr yn nodi sut roeddem yn bwriadu dosbarthu'r prosiect o fewn y categorïau a nodir yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017. Yn dilyn yr ymateb hwn gan y datblygwr, byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i'r...
Hannah Blythyn: Anfonwyd llythyr gan Lywodraeth Cymru at y datblygwr ar 14 Chwefror yn dweud ein bod yn bwriadu datgan bod asesiad o'r effaith amgylcheddol yn ofynnol. Mae'r datblygwr wedi ymateb, ac rydym yn ystyried y sylwadau a wnaed ar hyn o bryd cyn gwneud y penderfyniad terfynol.
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Fel yr Aelodau, perchnogion tir a pherchnogion tai, rwy'n bryderus ynglŷn â'r angen i reoli rhywogaethau goresgynnol estron, nid yn unig o ran eu twf, ond o ran eu hymlediad. Gwyddom eu bod yn un o'r rhesymau mwyaf dros golli bioamrywiaeth ledled y byd a'u bod yn achosi cryn ddifrod economaidd-gymdeithasol. Felly, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried o...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, cafwyd problemau eisoes mewn perthynas â rheilffyrdd a chlymog Japan, a chredaf eich bod yn nodi pwynt perthnasol a phwysig gyda'ch cwestiwn. Yn sicr, rwy'n fwy na pharod i gysylltu ac i siarad â'm cyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â sicrhau ein bod yn achub y blaen ar y broblem hon, gobeithio, o ran sut yr awn i'r afael â...
Hannah Blythyn: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda sefydliadau partner a'r cyhoedd i fynd i'r afael â bygythiadau rhywogaethau estron goresgynnol, sy'n parhau i gael effaith amgylcheddol, gymdeithasol ac economaidd sylweddol yng Nghymru. O ran clymog Japan, rydym wedi ariannu treialon arloesol gyda'i ysglyfaethwr naturiol, y llysleuen, ac ymchwil i driniaeth gemegol.
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Gwn eich bod wedi mynd ati'n ddiflino i gynrychioli eich etholwyr a'ch cymunedau wrth godi'r mater hwn, ac rydych yn llygad eich lle, mae'n achosi cryn ddifrod i'n hadeiladau a'n hamgylchedd lleol. Sylwaf fy mod yn cael y geiriau ffurfiol ar gyfer y rhain—mae'n cymryd peth amser i arfer ag ynganu rhai ohonynt. Rwy'n dysgu'n gyflym yn hynny o beth....
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod unwaith eto am ei gwestiynau ynglŷn â hyn? Rydych yn llygad eich lle o ran sut y mae diwrnodau di-gar yn rhywbeth cadarnhaol, ond cam bach yn unig ydynt i'r cyfeiriad rydym am fynd iddo, a'r hyn sydd arnom ei angen mewn gwirionedd yw newid moddol clir o ran sut rydym yn byw ein bywydau bob dydd, a sut y mae'r seilwaith yn gweithio. Dyna pam ei bod mor bwysig...
Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn tynnu sylw at bwynt pwysig iawn yn ymwneud ag effaith trafnidiaeth, yn enwedig yn ein hardaloedd trefol. Credaf imi sylwi, yr wythnos hon, fod cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi diwrnod di-gar eto eleni ym mis Mai, ac rwyf wedi cyfarfod â chyngor Caerdydd yn benodol i drafod y parth aer glân ar gyfer Caerdydd, a sut y gallwn fynd i'r afael â thagfeydd yn rhan o hynny. Dyna...
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n llygad ei le; mae hwn yn un o faterion pwysicaf ein hoes, ac mae mynd i'r afael ag ansawdd aer, fel yr eglurais cyn y Nadolig, yn flaenoriaeth i mi yn y rôl hon. Rydych yn gwybod am ein hymrwymiad i ymgynghori ar y fframwaith parth aer glân, a bydd hyn yn cyd-fynd â chynllun ansawdd aer y DU. Ond y syniad yw y bydd ymgynghoriad yn cael ei...
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwy'n cofio'r hen boteli Corona, mewn gwirionedd, ond mae'n debyg eich bod wedi fy ngholli i raddau wrth grybwyll y darn tair ceiniog. [Chwerthin.] O ran yr adroddiad ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a chan gynnwys dichonoldeb cynllun dychwelyd ernes, byddwn yn edrych ar yr holl faterion hynny ac yn eu gwerthuso, yna byddwn yn gallu llunio...
Hannah Blythyn: Diolch am eich cwestiwn. Credaf eich bod yn llygad eich lle, ac fel y dywedodd yr Aelod Julie Morgan, mae'n ymwneud â'r camau bach y gall pob un ohonom eu cymryd. A boed yn unigolyn, yn sefydliad, ar lawr gwlad neu yn y Llywodraeth, mae'n ymwneud â'r ffordd rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o fynd i'r afael â'r materion hyn. O ran y problemau posibl a berir gan blastig yn y system...