Darren Millar: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Oherwydd eich diddordebau etholaethol eich hun fe fyddwch yn ymwybodol fod gan Gonwy a Sir Ddinbych economi dwristiaeth fywiog iawn. Roedd llawer o'r gweithredwyr twristiaeth a'r swyddi sy'n dibynnu ar y busnesau hynny ar eu colled dros dymor y Pasg oherwydd y cyfyngiadau symud yn gynharach eleni. Dechreuodd tymor yr haf yn hwyrach nag mewn unrhyw ran arall...
Darren Millar: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr economi ymwelwyr yng ngogledd Cymru? OQ55647
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad. Nid oeddwn i wedi bwriadu gwneud heddiw, ond rwyf wedi cael llond bol ar y lol a'r rwtsh llwyr sy'n cael eu hyngan gan y Prif Weinidog yn y Siambr hon heddiw, ac yn wir Aelodau eraill o'r Blaid Lafur ynglŷn â'r datganiad a wnaed gan Aelodau Seneddol ac Aelodau'r Senedd hon ar feinciau'r Ceidwadwyr. Ni wnaeth unrhyw aelod o'r Blaid Geidwadol mewn...
Darren Millar: —y mae'r ôl-groniad hwnnw yn effeithio arnynt ac y mae eu hansawdd bywyd yn dioddef o ganlyniad iddo. Felly, a gaf i ofyn beth gaiff ei wneud yn benodol ac yn bwrpasol er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad penodol hwnnw? Diolch ichi am eich goddefgarwch.
Darren Millar: Diolch, Gweinidog, am gopi o'ch datganiad cyn y sesiwn y prynhawn yma. Rwy'n croesawu cyhoeddi'r adroddiad 'Ailadeiladu ar ôl COVID-19—Heriau a Blaenoriaethau'. Rwy'n credu bod llawer i'w ddweud ynglŷn â faint o ymgysylltu y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud er mwyn cynhyrchu'r ddogfen honno, ac rwy'n croesawu llawer iawn o'r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi'i nodi o ran pethau yr...
Darren Millar: A gaf i ofyn i'r Trefnydd drefnu datganiad ar y mynediad i glybiau chwaraeon a hyfforddiant yng Nghymru, ar gyfer pobl ifanc, os gwelwch yn dda, ac, yn wir, i oedolion hefyd? Ers cyflwyno'r cyfyngiadau lleol yn ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych, mae llawer o rieni wedi cysylltu â mi i ddweud na allant fynd â'u plant i gyfleusterau hyfforddi sydd ychydig dros ffiniau'r siroedd cyfagos. Mae'n...
Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at fannau addoli yng Nghymru?
Darren Millar: Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr hyn a fu'n ddadl bwysig iawn yn fy marn i am yr angen i sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru, oherwydd, fel y dywedodd un fenyw wych, Margaret Thatcher, unwaith, Nid oes y fath beth ag arian cyhoeddus, dim ond arian trethdalwyr. Ac rydym ni yn y lle hwn yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cael ei wario'n ddoeth iawn. Mae'n ddrwg...
Darren Millar: Weinidog, mae'r cynnydd yn y galw i'w groesawu'n fawr iawn, fel y mae ymestyn y meini prawf cymhwysedd, ond yn anffodus, mae gennyf bobl yn fy etholaeth sydd wedi cael clywed na allant drefnu apwyntiad i gael pigiad rhag y ffliw yn eu meddygfeydd am fis arall, sy'n amlwg yn gwbl annerbyniol, yn enwedig i'r rheini yn y categorïau agored i niwed rydych eisoes wedi cyfeirio atynt. Ac wrth gwrs,...
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymateb, Weinidog, ac yn ddiolchgar iawn am yr arian sydd ar gael i bobl ifanc sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref. Un o'r heriau y mae llawer o'r rheini sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref wedi eu hwynebu dros y cyfnod arholi diwethaf, yn amlwg, yw nad ydynt mewn canolfannau lle gallai graddau fod wedi cael eu rhoi iddynt, ac o ganlyniad, mae llawer yn gorfod...
Darren Millar: Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pa gymorth ychwanegol sydd ar waith i ddysgwyr a chanddynt bobl hynod agored i berygl COVID yn eu cartrefi? Mae gennyf ddysgwr yn fy etholaeth a hoffai barhau gyda'i haddysg ôl-16, ond yn anffodus mae ei choleg lleol wedi dweud wrthi fod yn rhaid iddi fynychu safle'r coleg er mwyn dilyn pynciau Safon Uwch o'i dewis. O ganlyniad i hynny, ni all gymryd rhan mewn...
Darren Millar: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i ddysgwyr sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref yng Nghymru? OQ55597
Darren Millar: Sylwaf fod y cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o'r siroedd hyn hefyd yn effeithio ar bobl â ffydd mewn ffordd arwyddocaol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid ystyrir ei fod yn esgus rhesymol i deithio y tu hwnt i ffin eich awdurdod lleol i fynychu man addoli o'ch dewis. Nawr, mae llawer o bobl â ffydd sy'n teithio ar draws ffiniau eu sir er mwyn mynd i wasanaethau mewn eglwysi a synagogau...
Darren Millar: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n amlwg y bydd llawer o bobl yn y gogledd yn eithaf pryderus am y cyfyngiadau newydd y byddan nhw yn eu hwynebu nawr. Cyfeiriwyd eisoes at yr angen am ddata mwy lleol, ac, wrth gwrs, cyhoeddir yr wybodaeth hon fesul ward yn Lloegr, ond, yn anffodus, nid felly yma o ran nifer yr achosion mewn ardaloedd cyfagos. Ac, wrth gwrs, ein gwaith ni yw sicrhau...
Darren Millar: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un o ganlyniadau'r cynnydd i nifer y bobl sy'n gweithio gartref yw ein bod ni wedi gweld gostyngiad sylweddol i draffig ar lawer o'n ffyrdd, ac, yn anffodus, oherwydd bod llai o draffig, mae hynny yn aml wedi arwain at gynnydd mewn goryrru, ac mae hynny'n gwbl wir ar gefnffordd yr A494 rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug, y mae llawer ohoni yn fy etholaeth i....
Darren Millar: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru? OQ55598
Darren Millar: Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol mai castell Gwrych fydd ffocws miliynau o wylwyr o fis Tachwedd ymlaen pan fydd I'm a Celebrity...Get Me Out Of Here! yn cael ei ffilmio yno, mewn lleoliad tylwyth teg. Yn amlwg, mae hynny'n rhoi cyfle enfawr inni roi gogledd Cymru'n fwy amlwg ar y map i ymwelwyr, nid yn unig yng Nghymru, ond ym mhob rhan o'r y byd. A allwch...
Darren Millar: A gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog? Mae'n dod ar adeg bryderus iawn i lawer o bobl gyda'r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion positif. Rwyf braidd yn bryderus, serch hynny, ynglŷn â rhai o'r manylion yn eich datganiad. Rydych yn cyfeirio at gyfradd bresennol o 46.8 o achosion o heintiau positif ym mhob 100,000 o'r boblogaeth yn eich datganiad, ac eto mae'r data a...
Darren Millar: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i dwristiaeth yng ngogledd Cymru? OQ55559
Darren Millar: Gweinidog, diolch am eich datganiad. Adroddwyd yn y cyfryngau fod Dr Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi awgrymu bod nifer o awdurdodau lleol yn cael eu monitro ar hyn o bryd ac y gallent wynebu cyfyngiadau lleol. Mae'r awdurdodau lleol hynny'n cynnwys Conwy a Sir Ddinbych, y mae'r ddau ohonynt yn pontio fy etholaeth. Rwyf newydd fod yn edrych ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae'n...