Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rwy'n pryderu'n fawr am yr ôl-groniadau; maent yn fy nghadw'n effro yn y nos. Y gwir amdani yw fy mod yn treulio'r rhan fwyaf o fy amser y dyddiau hyn yn ceisio sicrhau bod gennym gynllun adfer clir iawn. Bydd y rhaglen gofal wedi'i gynllunio, fel y dywedais, yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Rydym yn ceisio cwblhau'r manylion ar hynny. Yfory, fe fyddwch yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Russell, a hoffwn ymuno â chi i ddiolch i'n gweithwyr iechyd a gofal sydd wedi gweithio mor ddiwyd i'n cadw'n ddiogel ac i ddiogelu'r bobl yn eu gofal dros y cyfnod anodd iawn hwnnw, ond hefyd i gydymdeimlo â'r rhai sydd wedi colli anwyliaid mewn amgylchiadau anodd iawn, lle nad oeddent hyd yn oed yn gallu ffarwelio â hwy yn y ffordd y byddent wedi'i ddymuno, i ddathlu...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Mike, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni ddarparu dewisiadau amgen yn lle'r adran ddamweiniau ac achosion brys, sef un o'r rhesymau pam ein bod wedi buddsoddi £25 miliwn ychwanegol ac wedi nodi chwe cham blaenoriaethol yr ydym yn disgwyl i fyrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans eu cyflawni. Rydym yn gobeithio y bydd canolfannau gofal sylfaenol brys—mae £7...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Sam—diolch yn fawr am hynny. A hoffwn ymuno â chi i ddiolch i'n GIG cyfan ac yn wir, i'n gweithwyr gofal am y gwaith anhygoel y maent wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf. A chredaf ei bod yn werth myfyrio ar y pwysau a fu arnynt am y cyfnod hir hwnnw. Rhan o'r broblem sydd gennym yng Nglangwili mewn gwirionedd yw'r ffaith ein bod yn cael trafferth recriwtio, ac mae...
Baroness Mair Eluned Morgan: Dwi ddim yn derbyn bod yna greisis, ond dwi yn derbyn bod yna bwysau aruthrol ar y gwasanaeth ar hyn o bryd. Dwi wedi cael cyfarfod arall â phrif weithredwr y gwasanaeth ambiwlans y bore yma, fel dwi'n cael yn aml, achos ein bod ni'n benderfynol o wella'r sefyllfa. Wrth gwrs, y peth i'w gofio yw'r ffaith bod hwn yn rhan o system gyflawn, a'r ffaith, ar hyn o bryd, yw bod yna 129 o bobl yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Mae Bwrdd iechyd Hywel Dda yn gweithio'n gyflym i sicrhau bod pobl yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn cael mynediad amserol at ofal brys ac argyfwng. Rŷn ni'n cefnogi'r bwrdd iechyd trwy gyllid ychwanegol wedi'i dargedu fel bod modd gwella ansawdd ac amseroldeb y gofal yn yr adran damweiniau ac achosion brys yng Nglangwili.
Baroness Mair Eluned Morgan: We are providing health boards with up to £3 million in 2021-22 to boost access to NHS dental services and £2 million recurrently from 2022-23 to support increased provision. Health boards will be able to invest this funding in NHS dental services to address local needs and issues.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, nid yw’r safonau a welwn, yn enwedig yn y gwasanaeth hwnnw yn y gogledd, yn dderbyniol, a dyna pam y byddwn yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa a’r 22 argymhelliad. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall bod systemau wedi methu, yn ôl pob tebyg, a dyna pam, o’r 22 argymhelliad, fod y bwrdd iechyd wedi gwneud rhai ymrwymiadau clir iawn ynghylch yr...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Rhun. Rwyf wedi dweud, ac fe’i dywedaf eto, nad yw’r gwasanaethau fasgwlaidd a’r gwasanaethau a gynigir ym mwrdd Betsi Cadwaladr o safon dderbyniol. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 3 Chwefror yn dilyn yr adroddiad gan goleg brenhinol y llawfeddygon, ac roedd yn siomedig iawn clywed bod rhai pethau hanfodol a sylfaenol iawn nad oeddent yn digwydd—diffygion o ran...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rwy'n croesawu'r ymyriad a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru heddiw. Mae uwchgyfeirio'r gwasanaeth fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fod yn wasanaeth y mae angen ei wella’n sylweddol yn cefnogi’r argymhelliad cryf a roddais ar 16 Chwefror 2022 fod angen i’r bwrdd iechyd fynd i’r afael â materion yn y gwasanaeth ar unwaith.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, ac mae'n rhaid i mi ddweud y byddwn innau'n ategu eich barn fod y rhain wedi dod yn weithwyr medrus iawn. Maen nhw wedi gwneud gwaith rhagorol i ni, ac yn sicr wedi cadw'r cyfraddau yn is nag y bydden nhw wedi bod fel arall, oherwydd eu hymdrechion aruthrol. Wrth gwrs, rydym ni'n amharod i adael i'r bobl hyn fynd. Mae hi'n amlwg y byddai adeg pan y byddai'n rhaid i'r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Mark. Mae hwn yn fater sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers amser maith, felly er bod systemau Cymru a Lloegr yn siarad â'i gilydd a'u bod yn gallu cofnodi a gallwn ni wybod yn union a yw pobl wedi cael brechiad cyntaf ac ail frechiad yn Lloegr, nid yw'r system erioed wedi gweithio gyda'r Alban. Ac mae'r cyfrifoldeb am hynny a'r bobl sy'n arwain ar ochr ddigidol hyn gyda...
Baroness Mair Eluned Morgan: Jest o ran ventilation mewn ysbytai—
Baroness Mair Eluned Morgan: —mae llawer o adroddiadau ac asesiadau wedi'u gwneud o ran sicrhau bod pobl yn cymryd y sefyllfa honno o ddifrif, felly mae pob bwrdd iechyd yn gwybod yn union beth y mae angen iddo ei wneud yn y cyfnod hwn. Rwyf i wedi rhoi ateb ar statws y cyfranogwyr craidd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cefnogi ein gweithwyr iechyd a gofal ac yn rhoi'r cymorth meddygol sydd ei...
Baroness Mair Eluned Morgan: Bydd y profion llif unffordd yn parhau i fod ar gael o fferyllfeydd tan 31 Mawrth. Mae trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'n partneriaid i sicrhau bod y bobl hynny sy'n agored i niwed sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn gallu parhau i gael profion pan fydd eu hangen arnyn nhw ar ôl 31 Mawrth. Felly, mae cyfleuster i chi ffonio a chael y cymorth hwnnw, neu mae'n amlwg y gallwch chi archebu'r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, a dwi hefyd yn gobeithio mai hwn yw'r datganiad mawr olaf yn ymwneud â COVID, a gobeithio yn wir y gallwn ni fynd ymlaen a chanolbwyntio ar faterion eraill yn ymwneud â'r NHS yn y dyfodol. Jest o ran absenoldeb arian, pe byddai'n rhaid inni ailgydio mewn rhai o'r mesurau yma yn y dyfodol, wrth gwrs, mae wastad arian yn y reserves a byddai angen imi wneud achos i'r Gweinidog...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn, Russell. Rwy'n falch eich bod chi'n croesawu codi'r cyfyngiadau. Wrth gwrs, ein gwaith ni yw cadw Cymru'n ddiogel. Mae Llywodraethau eraill yn cadw eu pobl eu hunain yn ddiogel, ond ein cyfrifoldeb ni yw gwneud hynny yn y ffordd yr ydym ni'n credu sy'n gywir i ni, a gwnawn ni hynny drwy geisio dilyn y dystiolaeth a'r wyddoniaeth bob tro. Ond rydym ni bob...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rŷn ni'n gobeithio y bydd ein brechlynnau’n parhau'n effeithiol ac na fydd y gwasanaeth iechyd yn cael ei lethu. Fe fydd ein hymateb iechyd cyhoeddus yn dilyn y protocolau presennol, sydd wedi eu hen sefydlu ar gyfer clefydau trosglwyddadwy. Bydd y gwaith o gadw golwg ar ac adrodd am COVID-19 yn digwydd ochr yn ochr â'r trefniadau adrodd ar gyfer heintiau anadlol. Fe fyddwn ni'n dechrau...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i ddiweddaru'r tŷ yma ar y digwyddiadau diweddaraf o ran coronafeirws.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd, canlyniad yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws, a'n cynlluniau ni i symud y tu hwnt i'r ymateb brys i'r pandemig wrth i ni symud i fyw'n ddiogel gyda coronafeirws yn y tymor hwy. Rwy'n falch o adrodd bod achosion o coronafeirws yn parhau i fod ymhell o dan yr uchafbwynt y gwnaethom...