David Melding: Wel, os caf ddweud, dyna'r peth lleiaf sydd angen i chi ei wneud yn awr, ond nid yw'n rhoi cyfle inni ar y cam hwn—y cam olaf, i bob pwrpas, oni bai fod gennym broses eithriadol i gyflwyno Cyfnod Adrodd—i archwilio'r data. Dyna rwy'n ei olygu. Ond rwy'n credu ein bod eisoes wedi dod o hyd i'r cyfaddawd, Rhun, mae'n rhaid i mi ddweud, sef y dylai'r ddeddfwriaeth ddatgan yn glir iawn ein...
David Melding: Rwy'n cynnig fy ngwelliannau yn y grŵp hwn, sydd â’r nod syml o newid dynodiad Aelodau'r Cynulliad yn Saesneg o fod yn 'Members of Senedd Cymru’ i fod yn ‘Members of the Welsh Parliament’. Dyma oedd nod y gwelliannau a gyflwynwyd gan Alun Davies yng Nghyfnod 2, ac a gefnogwyd gennym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig. Teimlwn ei bod yn briodol ein bod ni unwaith eto’n rhoi’r opsiwn hwn...
David Melding: Ar ôl taflu sylw roeddwn yn anghytuno'n gryf ag ef atoch, a gaf fi ofyn ichi ymhelaethu ar yr hyn y dywedwyd eich bod wedi'i ddweud wrth Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn Abertawe yn gynharach yr wythnos hon? Mae'n rhywbeth rwy'n ei gymeradwyo. Fe ddywedoch chi: Nid gwerthu tai cyngor oedd y 'gwendid mawr' gyda Hawl i Brynu o reidrwydd, ond yn hytrach, peidio â chaniatáu i gynghorau...
David Melding: Wel, rwy'n falch eich bod wedi goleddfu'r sylwadau hynny ac wedi ychwanegu rhywfaint o ganmoliaeth i'ch gwerthfawrogiad o'r sector, oherwydd rwy'n credu eich bod wedi achosi llawer o ofid pan ddefnyddioch chi'r rhethreg honno am slymiau yn gynharach eleni. A'r pwynt yw, mae'n amlwg fod arnom angen marchnad dai sy'n dod â'r sector cyhoeddus a'r sector preifat, adeiladwyr tai mawr a bach, a...
David Melding: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A fyddech yn cytuno, Weinidog, yn dilyn eich cyhuddiad fod y diwydiant adeiladu tai preifat yn creu 'slymiau'r dyfodol'—sylwadau a wnaethoch yn gynharach eleni—fod Llywodraeth Cymru wedi creu amgylchedd braidd yn ddigroeso ar gyfer adeiladwyr tai yng Nghymru?
David Melding: Weinidog, mae'r broses o gyflwyno mesuryddion deallus—rhaglen y DU, wrth gwrs—ond rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei helpu i raddau helaeth, wedi arafu'n ddiweddar. Nid bai Llywodraeth Cymru yw hyn, ond mae'n bwysig ein bod yn mynd yn ôl ar y trywydd cywir, oherwydd, yn enwedig i'r rheini sydd mewn tlodi tanwydd, pan fyddwn wedi newid yn llwyr i dariffau sy'n seiliedig ar y mesuryddion...
David Melding: Prif Weinidog, mae gan y Llywodraeth, yn gwbl briodol, amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a noddir sy'n cyflawni tasgau penodol iawn, ac maen nhw'n rhai eithriadol o bwysig fel darparu gwasanaethau cyhoeddus enfawr. Yr hyn sydd ei angen, yn arbennig ar yr olaf o'r rhain, yn fy marn i, yw llywodraethu rhagorol ar lefel bwrdd, er mwyn i'r cyfarwyddwyr anweithredol, yn arbennig, allu sicrhau bod...
David Melding: Rwy'n falch o roi croeso cyffredinol i'r cynllun arbrofol hwn yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at gael yr adroddiadau parhaus ar ei dderbyniad gan y sector. Yn amlwg mae gennyf rai cwestiynau ynghylch sut y bydd yn gweithredu, ac rwyf wedi bod yn trafod gyda'r sector. Sylwaf fod gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl rai amheuon, yn enwedig ynghylch yr hyblygrwydd a fydd ar gael i landlordiaid...
David Melding: Dechreuodd Neil gyda thaith ar hyd strydoedd Caerdydd, ac rwy'n meddwl bod honno'n ffordd deimladwy a phriodol iawn i ddechrau. Rwy'n credu bod y trydydd sector yn bartneriaid hanfodol sy'n cynnig atebion da. Nid oes gennyf gydymdeimlad mawr â'ch sylwadau ar yr ochr honno i bethau, ond roeddwn yn meddwl bod ein hatgoffa, mewn gwirionedd, am ein prifddinas ein hunain yn bwysig. Leanne, ni...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan mewn dadl rymus iawn, ac adeiladol ar y cyfan, rwy'n credu—gyda rhai ymylon miniog; o ystyried natur y pwnc, mae'n debyg fod hynny'n gwbl briodol. Gadewch i mi fynd drwy rai o'r cyfraniadau.
David Melding: Mae hwn yn faes heriol, Ddirprwy Lywydd, a dyna pam y credaf fod angen dull trawsbleidiol o weithredu os gallwn gyflawni hynny. Nid oes a wnelo'r maes hwn—tai yn gyffredinol, rwy'n credu, ond yn enwedig pan fyddwn yn edrych ar ddigartrefedd a chysgu ar y stryd—â gwleidyddiaeth gystadleuol; mae'n ymwneud â'r mesurau ymarferol a all gyflawni'r amcanion y mae pawb ohonom yn sicr yn eu...
David Melding: Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw Darren Millar. Wrth wraidd y cynnig hwn mae'r farn y gellir dod â chysgu ar y stryd i ben fel problem systematig sy'n effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac y bydd adeiladu 40,000 yn fwy o gartrefi cymdeithasol yn y 2020au yn mynd yn bell i ddod â digartrefedd i ben yn gyffredinol. Credwn fod y rhain bellach yn...
David Melding: A gaf fi longyfarch Gofalwyr Cymru, a'r Llywodraeth yn wir, ar y dull o sicrhau mai elusen allweddol yn hytrach na ni sy'n gwneud y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol? Mae'r canfyddiadau'n ddigon i'ch sobri, gan y dywedant nad yw rhannau o'r Ddeddf yn gweithio fel yr hoffem iddynt ei wneud hyd yma. Efallai fod y Gweinidog wedi gweld mai 45 y cant yn unig o'r rhai a ymatebodd a ddywedodd eu bod...
David Melding: Diolch am eich ateb calonogol. Rwy'n siŵr y bydd y ffaith bod y Senedd Ieuenctid hefyd yn galw am fwy o ffocws ar sgiliau yn ein system addysgol yn eich calonogi. Mae'r sgil o fyw, y sgil o gynnal tenantiaeth, a'r sgil o wybod ble i ofyn am gymorth pan fydd pethau'n mynd o chwith yn un hanfodol, yn fy marn i. Yn y dosbarthiadau sy'n hyrwyddo dinasyddiaeth, ymwybyddiaeth gymdeithasol ac...
David Melding: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hysbysu ac addysgu pobl ifanc am ddigartrefedd drwy'r system addysg? OAQ54595
David Melding: 3. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Carers Wales, 'Dilyn y Ddeddf'? OAQ54593
David Melding: Pe baem ni dim ond yn sôn am yr unig fater o sut i drafod Bil mor fawr â hyn yn briodol, byddwn yn cytuno â chi; mae'n gofyn am amser ac mae'n amlwg na chaiff hynny. Fodd bynnag, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y prynhawn yma, yn y termau mwyaf pendant—ac mae'n angerddol drosto ac mae ganddo hawl i'w farn—nad oes arno eisiau unrhyw gytundeb; mae eisiau aros yn yr UE. A dyna'r...
David Melding: O, a oes amser imi ildio eto?
David Melding: Ildiaf.
David Melding: Ni all neb ragweld yn sicr beth fydd yn digwydd mewn etholiad cyffredinol, ond ni allaf weld unrhyw ffordd arall heblaw adnewyddu'r Senedd bresennol a cheisio ffurfio Llywodraeth sydd â mandad i weithredu. Efallai mai Llywodraeth glymblaid fydd honno—pwy a ŵyr? Ond dyna'r sefyllfa bob amser, ar adegau peryglus, mewn etholiad cyffredinol. Rhaid ichi wynebu'r etholwyr ac ymdrin â'r...