Hannah Blythyn: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw fel cyfle i drafod yr hyn sydd, mae'n debyg, yn ddyheadau a rennir ar gyfer coetiroedd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un ond un o'r argymhellion, ac rwy'n gwneud yn siŵr ein bod yn dechrau gweithredu arnynt. Mae cadeirydd y pwyllgor wedi ysgrifennu ataf, yn gofyn am eglurhad ynghylch ymateb y Llywodraeth, ond teimlwn y...
Hannah Blythyn: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Gallwch chi ddweud fy mod i'n dal yn ddibrofiad gan nad oeddwn i'n barod am hynna nawr. Hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac rwy'n croesawu'r consensws ar y mater hwn ac rwy'n credu bod consensws yn cydnabod pa mor bwysig yw'r mater hwn i ni i gyd fynd i'r afael ag ef, ac mae'n un y dylid rhoi sylw iddo mewn modd cydweithredol ac ar y cyd....
Hannah Blythyn: Heddiw, mae gennym ni aer glanach yng Nghymru nag yn y degawdau diwethaf, ond fel bob amser, rydym ni'n gwybod bod mwy inni ei wneud. Fy nod yw i ni fod yn arweinydd wrth ddarparu atebion arloesol ac effeithiol i fynd i'r afael â llygredd aer, gan sicrhau aer glân i bawb. Rwyf felly'n cymryd camau ar unwaith, drwy raglen waith traws-Lywodraethol gynhwysfawr, i wella ansawdd yr aer yng...
Hannah Blythyn: Diolch, Llywydd. Mae gwella ansawdd yr aer yn flaenoriaeth allweddol yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb', ac yn yr un modd mae'n flaenoriaeth portffolio allweddol i mi. Mae cymryd camau i wella ansawdd yr aer yn cyfrannu'n sylweddol at y rhan fwyaf o'r nodau llesiant yn ein deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol ac rwyf wedi ymrwymo'n gadarn i weithredu yn y maes...
Hannah Blythyn: Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n hollol ymwybodol y dylwn wneud y gorau o'r llongyfarchiadau caredig cyn inni fwrw ymlaen â'r busnes go iawn yn y Siambr. Mae'n faes pwysig iawn, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gallu cynnal hynny yn y dyfodol. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn deall, gan fy mod yn newydd i'r portffolio, fy mod yn dal i drafod sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hynny ar ôl 2020....
Hannah Blythyn: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl fawndiroedd sy'n cynnal cynefinoedd lled-naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy erbyn 2020 ac wedi sefydlu rhaglen gyflawni integredig i sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd. Mae'r rhaglen bresennol yn gwella cyflwr ein mawndiroedd, ac rydym wedi sicrhau arian ar gyfer camau pellach.
Hannah Blythyn: Diolch, a diolch unwaith eto am eich llongyfarchiadau. A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei ddiddordeb yn yr agwedd hon ar waith Llywodraeth Cymru? Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod yr holl gymorth i fawndiroedd, a chynefinoedd lled-naturiol, yn cael eu rheoli'n gynaliadwy erbyn 2020, ac wedi sefydlu rhaglen gyflawni integredig i sicrhau bod y targed hwn yn cael ei...
Hannah Blythyn: Diolch eto am eich llongyfarchiadau. Hoffwn nodi: y Gweinidog wyf fi, nid Ysgrifennydd y Cabinet. Nid wyf am bechu fy nghyd-Aelod ar y cam cynnar hwn. Mae plant ac unigolion yn arbennig o agored i effeithiau llygredd aer, ac felly mae angen i awdurdodau lleol fabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar risg wrth edrych ar sut rydym yn monitro'r sefyllfa. Ond yn sicr, credaf fod angen i ni, yn y...
Hannah Blythyn: Diolch, Suzy. Diolch am eich cwestiwn a diolch am eich llongyfarchiadau caredig. Rwyf wedi cael briff—rwy'n gyfarwydd â system Nowcaster. Rydych wedi codi pwyntiau dilys iawn, ac os ydych yn awyddus i fynd ar drywydd hynny drwy anfon llythyr ataf—. Ac rwy'n credu, yn y dyfodol, fel y dywedais, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod hyn yn uchel ar yr agenda, a gwneud yn siŵr ein bod yn...
Hannah Blythyn: Diolch am eich cwestiwn, Dai Rees. Rydych yn llygad eich lle fod angen i ni edrych ar waith trawsadrannol, trawslywodraethol mewn perthynas â hyn, ac rwy'n siŵr y byddaf yn siarad â fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, ar sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn, nid yn unig ar draws y Llywodraeth o ran cynllunio, ond hefyd o ran trafnidiaeth, iechyd a llywodraeth leol.
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rydych yn llygad eich lle i godi'r mater pwysig hwn, ac mae'n rhywbeth a fydd yn uchel ar fy agenda yn y portffolio hwn yn y dyfodol. Gwyddom, yn hanesyddol, fod lefel uchel o lygredd PM10 ym Mhort Talbot, ac yn gyffredinol, tybir bod hyn, yn amlwg, yn deillio o natur ddiwydiannol yr ardal. Gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn...
Hannah Blythyn: Mae lefelau cyfartalog llygredd aer ledled Cymru, gan gynnwys yn ne-orllewin Cymru, wedi gwella dros y degawdau diwethaf, ond rydym yn dal i wynebu heriau sylweddol. Mae'n rhaid i ni wneud rhagor i wella ansawdd aer ym mhob ardal ac rwyf wedi cyflwyno dadl ar gyfer mis Rhagfyr i drafod cynlluniau ar gyfer gweithredu trawslywodraethol.
Hannah Blythyn: Yn hollol, ac fel y dywedais wrth Aelodau eraill mewn cwestiynau eraill, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro hynny, a byddaf yn disgwyl iddynt roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, ac rwy’n disgwyl i'r Aelodau wneud yr un peth hefyd.
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd am ei chwestiwn. Gwn eich bod yn gweithio'n ddiwyd iawn bob dydd ar ran eich etholwyr, ac rwy’n siŵr y byddwch yn monitro'r sefyllfa hon, fel y byddaf innau'n ei wneud hefyd. Ar ôl i'r broses gynaeafu fynd rhagddi, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynorthwyo’r rhywogaethau brodorol fel ffawydd, derw, bedw, ceirios gwyllt, coed criafol a choed cyll yn...
Hannah Blythyn: Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am ystadau coetir Llywodraeth Cymru. Rwy'n ymwybodol fod coed llarwydd sydd wedi’u heintio gan phytophthora ramorum yn cael eu cwympo yn Fforest Fawr ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli'r gwaith hanfodol hwn. P. ramorum yw'r clefyd coed mwyaf difrifol sydd wedi effeithio ar goedwigoedd yng Nghymru.
Hannah Blythyn: Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n ymwybodol fod ymgyrch ar waith a bod deiseb wedi'i lansio. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro'r sefyllfa ac yn ceisio dewis yr opsiwn gorau, sef adfywio naturiol. Ond os na fydd hyn yn digwydd, byddant yn edrych ar ffyrdd eraill o ailstocio'r coetir yn Fforest Fawr.
Hannah Blythyn: Through the Collections Blueprint the Welsh Government has advised restricting residual waste can help improve recycling rates and reduce financial costs. The design and delivery of local services, including refuse collections, is a matter for individual Local Authorities.
Hannah Blythyn: Quality green spaces and parks provide opportunities for healthy recreation, support biodiversity and contribute to reducing flood risk and air pollution. The Welsh Government directly supports environmental priorities identified by Torfaen County Borough Council with £1.6 million this year from our Environment Single Revenue Grant.
Hannah Blythyn: Rwyf wedi comisiynu astudiaeth i asesu dichonoldeb cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pecynnu bwyd a diod, gan gynnwys plastig tafladwy. Rydym hefyd yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer treth neu ardoll ar blasting tafladwy ac rydym wedi dyrannu 500 mil o bunnoedd er mwyn rhoi prawf ar ddichonoldeb Cynlluniau Dychwelyd Ernes.
Hannah Blythyn: The Welsh Government’s Code of Practice on snares places the welfare of animals at its core. The Code is actively promoted and its effectiveness is reviewed regularly. The ‘Taking Forward Wales’ Sustainable Management of Natural Resources’ consultation, which closed in September, included proposals on snares. My officials are evaluating responses.