Canlyniadau 621–640 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Troi Allan Heb Fai (17 Gor 2019)

David Melding: Efallai y gallaf ddod ag ychydig o gonsensws tawel i'r mater hwn. Mae'n bwysig ein bod yn taro'r cydbwysedd cywir yma—nad ydym yn gwneud i landlordiaid posibl a landlordiaid presennol beidio â darparu tai i'w rhentu. Ond mae angen ail-gydbwyso hefyd, ac mae Llywodraeth y DU wedi bod yn rhan o ddull gweithredu tebyg. Rwy'n eich annog i gofio'r hyn a ddywedodd Richard Lambert—sef prif...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Pryfed Peillio (17 Gor 2019)

David Melding: Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Comisiwn y Cynulliad ar y camau y mae wedi'u cymryd? Euthum i lawr uchaf adeilad y Pierhead ychydig wythnosau yn ôl, gyda'n staff ardderchog yno, gyda rhai ohonynt bellach yn wenynwyr arbenigol, ac yn wir, credaf fod rhai o staff cymorth Aelodau'r Cynulliad hefyd wedi ymuno â'r rhaglen. Gwelais ein dau gwch gwenyn, ac roeddent yn weithgar...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Polisi Tai (16 Gor 2019)

David Melding: Prif Weinidog, mae gan bolisi tai ran allweddol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddoe y bydd yn diwygio rheoliadau adeiladu fel y bydd gosod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydanol yn ofynnol ym mhob datblygiad tai newydd. Efallai y byddwch chi wedi sylweddoli, pan gyhoeddodd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ei strategaeth dai, mai hwn oedd...

7. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (10 Gor 2019)

David Melding: A wnaiff yr Aelod gymryd pwynt?

7. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (10 Gor 2019)

David Melding: Wel, mae'r Saesneg am ddeddfwrfa yn defnyddio'r gair benthyg 'parliament' o'r Ffrangeg, ac yn y Gymraeg, rydym yn defnyddio gair benthyg o'r Lladin, 'senedd'.

7. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (10 Gor 2019)

David Melding: Rwy'n gwybod bod fy amser ar ben, ond a gaf fi gofnodi fy niolch, fel cyn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y bydd yr argymhellion ar anghymhwyso yn mynd ati'n eithaf llawn yn awr i ddatblygu gwaith y pwyllgor yn y pedwerydd Cynulliad? Rwy'n falch o weld hynny.

7. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (10 Gor 2019)

David Melding: Ddirprwy Lywydd, gobeithio y maddeuwch i mi am ddechrau mewn hwyliau ychydig yn fwy dathliadol gan mai pwrpas canolog y Bil hwn o'm rhan i yw ymestyn yr etholfraint i grŵp pwysig iawn o bobl ac i mi, roedd y profiad o weld sut oedd pobl ifanc 16 a 17 oed wedi cyfrannu at refferendwm yr Alban yn 2014 yn gadarnhad go iawn fod hwn yn gam cadarnhaol. Yn hytrach na bod yn ddifater, fe wnaethant...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru (10 Gor 2019)

David Melding: Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon, er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan roedd yr adroddiad yn cael ei lunio. Rwyf wedi bod yn falch iawn o ddilyn y gwaith wrth iddo gael ei gyhoeddi a'i lansio wedyn, fel y nododd y Cadeirydd. Credaf ei fod wedi bod yn faes gwaith pwysig iawn, ac mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ffyrdd ymarferol iawn y gallwn wella’r diwydiant cynhyrchu ffilm a...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Fframweithiau Cyffredin y DU (10 Gor 2019)

David Melding: Nodaf, ar yr adeg hon yn y broses o ddatblygu fframweithiau cyffredin y DU, mai'r nod yw ehangu ymgysylltiad ac ymgynghoriad, ac yn wir, datganodd Llywodraeth y DU ar 3 Gorffennaf eu bod wedi datblygu cynllun ymgysylltu manylach i fandadu mwy o ymgysylltiad ac i wella tryloywder. Nawr, mae'n ymddangos i mi mai dyma'n union sut y dylai'r system weithredu. Sylwaf fod gennych rai pryderon, ond...

QNR: Cwestiynau i Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (10 Gor 2019)

David Melding: Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diogelu twristiaeth o'r UE ar ôl Brexit?

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy ( 9 Gor 2019)

David Melding: Rwy'n croesawu'r ysbryd, yn enwedig tua'r diwedd, o ran yr angen i weithio gyda'n gilydd a chynyddu cyflymder a graddfa adeiladu cartrefi cymdeithasol. Ond hefyd, yn gyffredinol, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar ein targedau a gosod uchelgais gwirioneddol ddifrifol ar gyfer y 2020au. Mae angen inni wneud hynny nawr er mwyn inni allu sicrhau bod yr holl ddulliau angenrheidiol ar waith er...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Heintiau sy'n gallu Gwrthsefyll Gwrthfiotigau ( 3 Gor 2019)

David Melding: Credaf fod Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud y gallai ymwrthedd i wrthfiotigau fod yn un o'r prif heriau iechyd sy'n ein hwynebu, gan y bydd heintiau cyffredin yn dod yn lladdwyr cyffredin unwaith eto os na fyddwn yn gwneud pethau'n iawn a bod llai o gyffuriau newydd yn cael eu cyflwyno. Un peth y gallem ei wneud yw annog pobl, yn hytrach na mynd at y meddyg i ofyn am wrthfiotig ar gyfer...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Teithio Llesol ( 3 Gor 2019)

David Melding: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad yn fy rhanbarth i yng Nghaerdydd, sy'n datblygu i fod yn arloeswr teithio llesol mewn ysgolion, nid yn unig yng Nghymru ond yng ngweddill y DU? Mae eu syniadau arloesol yn anhygoel: cynlluniau teithio personol ar gyfer y disgyblion a'r rhieni; parcio a cherdded, felly, pan fo'n rhaid...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Teithio Llesol ( 3 Gor 2019)

David Melding: 6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu disgyblion am fanteision teithio llesol drwy'r system addysg? OAQ54176

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal ( 2 Gor 2019)

David Melding: Mae'r Gweinidog wedi bod yn ddigon caredig i gyfeirio at fy ngwaith i yn cadeirio'r grŵp cynghori gweinidogol, ac rwy'n atgoffa'r Aelodau nawr am fy safle i yno. Dirprwy Weinidog, rwy'n credu ei bod yn bwysig—rydym wedi clywed cwestiynau a sylwadau craff iawn, ac mae'n anochel eu bod nhw wedi ystyried yr heriau. Ond dylem  atgoffa pawb fod canlyniadau da yn digwydd pan fyddwn ni'n llwyddo...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Caniatâd Cynllunio a Newid Defnydd Adeiladau ( 2 Gor 2019)

David Melding: Prif Weinidog, mae angen i ni fod yn ofalus iawn gyda'n hadeiladau mwyaf gwerthfawr. Efallai eich bod chi wedi clywed bod cynlluniau'n cael eu hystyried erbyn hyn—nid wyf i'n disgwyl i chi wneud sylwadau ar y rhain, ond mae cynlluniau'n cael eu hystyried ar gyfer datblygu siop Howells. Ac maen nhw'n ddiddorol iawn, a bod yn deg. Maen nhw'n haeddu cael eu harchwilio'n drylwyr. Ac, os trown...

11. Dadl Fer: Amser i sefydlu hawl gyfreithiol i dai digonol yng Nghymru (26 Meh 2019)

David Melding: A gaf fi gymeradwyo brwdfrydedd Dawn a'r ffordd glir y mae wedi cyflwyno'r ddadl dros gydnabod tai fel hawl ddynol sylfaenol, ac yn y cyd-destun hwn, yr hawl i weld tai digonol yn dod yn egwyddor ganolog ar gyfer trefnu polisi cyhoeddus? Pan fyddwn yn edrych ar yr angen mwyaf difrifol, byddai'n ffitio'n naturiol iawn i'n polisi tai yn gyntaf, er enghraifft, lle byddwn yn helpu pobl sydd â...

3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf (26 Meh 2019)

David Melding: Rwy'n ddiolchgar iawn, Weinidog, eich bod wedi cyfeirio at y ffaith y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â RhCT yn 2022; bydd yn gyfle allweddol i adeiladu ar y 28,000 o siaradwyr Cymraeg sydd eisoes yn Rhondda Cynon Taf. A chredaf ei fod yn gyfle pwysig i adfer iaith mewn rhan wirioneddol bwysig o Gymru, oherwydd, os ydym am fod yn genedl ddwyieithog, bydd angen i ni weld y cynnydd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Gyfradd Dreth Trafodiadau Tir (26 Meh 2019)

David Melding: Rwy'n eich annog, Weinidog, i edrych ar y sefyllfa yn yr Alban, gan y bydd y cwmnïau sy'n prynu ar sail debyg i'r rhai yng Nghymru yn talu 4.5 y cant—mae hynny'n is na chyfradd Lloegr, ac yn amlwg, 1.5 y cant yn is na'n cyfradd ni. Yn y mis pan wnaethant y penderfyniad hwnnw, cawsant eu cynnydd refeniw uchaf erioed, ac mae eu cynnydd blynyddol hyd yn hyn yn fwy na £13 miliwn. Felly,...

3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf (26 Meh 2019)

David Melding: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf? OAQ54125


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.