David Melding: A gaf fi ychwanegu at bwynt Bethan, Weinidog? Mae pob un ohonom wedi cael gwaith achos yn y maes hwn, a dro ar ôl tro, mae pobl â dystroffi cyhyrol neu gyflyrau niwrogyhyrol eraill yn pwysleisio pwysigrwydd swyddi arbenigol fel nyrsys arbenigol sy'n gallu hyfforddi staff meddygol arall, ond sydd hefyd yn galluogi pobl i fyw gyda chyflyrau a all bara am flynyddoedd lawer, degawdau weithiau....
David Melding: Weinidog, adolygwyd y fframwaith cymwyseddau bwyd craidd gan holl weinyddiaethau'r DU yn 2014, a chyhoeddwyd canllawiau drafft 'Bwyd—ffaith bywyd' ym mis Chwefror. Tybed pryd y bydd y canllawiau llawn yn cael eu cyhoeddi, a sut y cânt eu cyflwyno i'r cwricwlwm newydd?
David Melding: Wel, mae'n amlwg yn waith sy’n mynd rhagddo, ac mae angen meddwl o ddifrif am faterion sy'n ymwneud â chydlywodraethu, oherwydd mae angen iddynt fod yn drylwyr ac yn annhebyg i ddim a gawsom o’r blaen mewn gwirionedd, yn ein strwythur mewnol ac o ran sut y mae'r gwahanol Lywodraethau yn yr undeb yn gweithredu. Felly, buaswn yn eich annog i fod yn amyneddgar, ond nid wyf yn diystyru...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod wedi cael dadl lawn ac adeiladol at ei gilydd, gydag ambell fflach o ddicter pleidiol, ond pan fyddwn yn dadlau ynghylch yr economi, rwy'n credu y dylai fod yna deimlad go iawn, felly efallai nad oes drwg yn hynny. Agorodd Russell George y ddadl fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, rwy’n credu, gan rywun ag awdurdod mawr ar y themâu hyn, gan siarad...
David Melding: Weinidog, gobeithio y byddwch cystal ag ymuno â mi i longyfarch clwb pêl-droed Prifysgol Met Caerdydd, sy'n dathlu’r ffaith mai hwy yw’r brifysgol gyntaf i gyrraedd Cynghrair Europa UEFA ar ôl gêm ail gyfle gyffrous yn erbyn Y Bala ddydd Sul—rwy'n ymddiheuro—pan wnaethant ennill 3-1 ar giciau o’r smotyn. Golyga hyn y bydd Met Caerdydd yn mynd ymlaen i'r rowndiau rhagarweiniol,...
David Melding: Weinidog, efallai eich bod wedi gweld cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y bydd cwmni adeiladu tai mwyaf Japan yn ymuno â marchnad dai’r DU ar unwaith ar ôl taro bargen gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn golygu y byddant yn gweithio gyda Homes England ac Urban Splash i ddarparu miloedd o gartrefi newydd ledled Lloegr. Mae'r cytundeb £90 miliwn yn cynnwys cyfanswm o £55 miliwn o...
David Melding: Weinidog, mae'n gyfreithlon cael ail gartref. Fodd bynnag, nid yw ond yn deg eich bod yn gwneud cyfraniad i'r gymuned rydych ynddi, yn enwedig mewn cyfnod pan fo cyllid a thai yn brin. Mae angen i ni sicrhau hefyd nad ydym yn creu cymhellion gwrthnysig i bobl ailddynodi anheddau domestig. Felly, credaf ei bod yn bryd cael golwg gynhwysfawr ar hyn a gweld sut y gallwn gael polisi mwy cyson...
David Melding: 4. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ariannu tai parod wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ53918
David Melding: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo treftadaeth lofaol fel atyniad twristiaeth yng nghymoedd y de?
David Melding: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am wneud ei datganiad? Rwyf ychydig yn siomedig; rwy'n credu bod yn rhaid i mi fod yn onest am hyn, o gofio ein bod wedi cael datganiad cynharach, yr un ym mis Mawrth, ac roeddwn wedi gobeithio y byddai mwy o frys a phwrpas yn natganiad mis Mai, a addawyd yn y datganiad cynharach. Ar hyn o bryd, gwyddom fod y Llywodraeth yn derbyn yr...
David Melding: A gaf fi ddweud, ar ôl Oscar, fy mod yn credu iddo grynhoi'r teimlad sydd gan ofalwyr tuag at y person y maent yn gofalu amdanynt? Mae'n weithred o gariad dwfn ond mae'n weithred anodd hefyd. Rwy'n credu ei bod yn dda ein bod yn cofio'r cyd-destun y cyflawnir y gweithgareddau hyn ynddo. A gaf fi ddechrau gyda sylw? Dyma'r ail wythnos y mae'r Prif Weinidog wedi eistedd drwy ddadl y...
David Melding: —ac maen nhw'n dymuno cael mynd—yn wir, rwy'n clywed Aelod arall, y gwn ei fod wedi mwynhau'r cyfleusterau hyn—i drefi marchnad a phentrefi cyfagos, sydd â chysylltiadau trafnidiaeth da pan fydd angen chi wneud y daith fechan honno o'r llwybr cerdded yr ydych chi'n ei ddilyn. Mae'r bobl hyn yn gwario llawer o arian. Maen nhw'n dwristiaid cefnog. Wrth feddwl am bobl sy'n cerdded, cawn...
David Melding: A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad amserol iawn hwn, a wnaed ganddi yn ystod yr ŵyl nodedig hon sef Gŵyl Gerdded Llwybr Arfordir Cymru? A gaf innau roi teyrnged i waith caled y Cerddwyr sy'n hwyluso llawer o'r dathliadau hyn? Ac a gaf i bwysleisio hefyd gerbron y Gweinidog a'r Siambr fy mod i'n ddefnyddiwr brwd o'r llwybr, yn enwedig yn Sir Benfro, Ceredigion ac yn fy...
David Melding: Wel, rhaid imi ddilyn sylw ysbrydoledig y Gweinidog sef, wyddoch chi, efallai mai dyma'r byd a fydd bellach yn nodi 20 mlynedd nesaf datganoli, lle byddwn yn trafod pynciau y byddwn yn cytuno'n fras arnynt, ond pynciau sy'n dal yn hanfodol i'n cymdeithas—ac yn yr achos hwn yr economi a'r diwydiannau creadigol. Ond a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon? Mae wedi bod yn...
David Melding: Mae'r potensial, Ddirprwy Lywydd, yn amlwg yn eang, ond eto, nid yw Cymru wedi chwarae ei rôl lawn na'r rôl y gall ei chyflawni, er gwaethaf rhywfaint o weithgarwch clodwiw, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyfeirio at hynny yn nes ymlaen. Ond dyma ddiwydiant sydd eto i gyflawni ei botensial llawn mewn gwirionedd, ac os gallwn fynd ati yn awr i fanteisio ar y tueddiadau hyn, gallwn fod...
David Melding: Nawr, mae e-chwaraeon wedi bod o gwmpas ers cyhyd â'r diwydiant gemau fideo ei hun, ac maent yn cyfeirio'n gyfunol at chwarae gemau fideo cystadleuol gan chwaraewyr proffesiynol ac amatur. Yn ôl yn y 1990au cynnar, roedd yn bodoli'n syml drwy fod grŵp o ffrindiau yn eistedd o amgylch consol Sega Mega Drive neu Nintendo 64. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd yn y nifer sy'n...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig ar bwnc sydd—credaf ei bod yn deg dweud—yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'n bwnc sy'n ffres ac yn gyffrous iawn yn fy marn i, ac mae iddo botensial ar gyfer twf sylweddol yng Nghymru os yw'n cael y gydnabyddiaeth a'r sylw haeddiannol yn sgil ei lwyddiant hyd yma. Ledled...
David Melding: Weinidog, mae'r maes awyr wedi wynebu ychydig o anawsterau yn ddiweddar—a chyhoeddiad Flybe yw'r gwaethaf. Nid wyf yn siŵr a fyddech wedi clywed bod Peter Phillips, cyn-uwch reolwr ym Maes Awyr Caerdydd a chyn-gynghorydd i feysydd awyr Brisbane ac Amsterdam, wedi dweud bod angen i Faes Awyr Caerdydd ddatblygu ei wasanaethau cludo nwyddau a'i barth busnes mewn ymateb i gyhoeddiad Flybe. O...
David Melding: 8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda swyddogion maes awyr Caerdydd ynghylch ehangu ei wasanaethau cludo nwyddau a'r ardal fusnes? OAQ53820
David Melding: A gaf i longyfarch y Prif Weinidog am wneud fy nghwestiwn atodol yn gwbl ddiangen? [Chwerthin.] Oherwydd roeddwn i'n mynd i alw am yr union safbwynt rhagosodedig hwnnw. Mae'n rhesymegol ein bod ni'n gosod y terfyn safonol mewn ardaloedd adeiledig yn 20 mya ac yna mae gan gynghorau'r grym i'w osod yn 30 mya ar gyfer y llwybrau mwy uniongyrchol hynny drwy eu hardaloedd trefol.