Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am reoleiddio e-sigaréts?
Huw Irranca-Davies: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond rwy'n mynd i ofyn iddo a allai fynd ymhellach fyth, gan edrych ymlaen. Rwy'n meddwl tybed a fyddai ef a'i Weinidogion yn y Cabinet yn agored i rai syniadau y mae'r awdurdod lleol yn gweithio arnyn nhw. Felly, er enghraifft, gallai datblygu canolfan drafnidiaeth i Ben-y-bont ar Ogwr ynghyd ag ail-reoleiddio'r bysiau gael y bysiau i fynd i'r mannau...
Huw Irranca-Davies: 3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith buddsoddiad economaidd yn Ogwr ers 2016? OAQ54920
Huw Irranca-Davies: Yn fyr. Tybed a yw wedi cael amser i fyfyrio ar un o'r cynigion mwy radical neu drafodaethau a gododd, sef: os yw'r undeb yn parhau fel y mae, ymddengys nad yw nofio yn erbyn y llif fel hyn yn erbyn yr hyn a wna Llywodraeth y DU yn barch cydradd, yn parchu'r hyn sy'n digwydd, yn cydweddu â'n polisïau. Felly, byddai'n ddiddorol gweld, ar fecanweithiau'r cyd-Weinidogion ac yn y blaen, a oes...
Huw Irranca-Davies: Efallai eich bod yn iawn, a chroesawaf y ffordd gynhwysfawr yr aethoch drwy rai o'r polisïau sydd gan San Steffan. Efallai eich bod yn iawn na fyddant yn newid, ond mae'n ddiddorol fod rhai o'r ASau hynny a etholwyd mewn ardaloedd Llafur yn flaenorol yn mynd i gael etholwyr yn heidio i'w cymorthfeydd yn awr gan ddangos realiti hyn yn glir iddynt. Felly, nid wyf yn credu y dylem anobeithio,...
Huw Irranca-Davies: Ac yn wir, mae'n ddadl y mae cyn-gydweithwyr i mi yn San Steffan a gynrychiolai'r ardaloedd glan môr hynny wedi ei chyflwyno'n eithaf cryf, dro ar ôl tro. Ac mae rhai o'r rhain yn ardaloedd ariannu thematig, a heb fod yn gyfyngedig i gyrchfannau gwyliau arfordirol. Felly, mae pethau fel yr hyn a fodolai unwaith—Cronfa Swyddi'r Dyfodol, a phethau fel hynny, gyda Llywodraeth y DU—roedd y...
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon o dan y teitl 'adfywio cymunedol', ac am resymau y byddaf yn ymhelaethu arnynt mewn munud, ni fyddaf yn cefnogi'r cynnig yn eu henw; byddaf yn cefnogi cynnig y Llywodraeth. Ond mewn gwirionedd, nid yw rhai o'r nodweddion rydych wedi sôn amdanynt sy'n effeithio ar drefi arfordirol—nid pob un ohonynt, ond rhai trefi arfordirol—yn annhebyg i'r...
Huw Irranca-Davies: Nawr, fel y dywedodd y Cadeirydd yn ei sylwadau agoriadol, bydd unrhyw argymhellion a wnawn yn fwyaf effeithiol os ydynt wedi'u gwreiddio mewn cefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus eang ei sail. Felly, mae ymgysylltu â'r cyhoedd ar y cam hwn a thrwy'r cyfan yn hollbwysig, ond mae'r ymgysylltiad gwleidyddol yn bwysig hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud. Felly, fy ail gwestiwn i'n Cadeirydd yw holi a...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi groesawu'r datganiad gan y Cadeirydd heddiw, ac wrth wneud hynny, hoffwn ddiolch iddi hi a fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am y ffordd golegol, agored, ddidwyll ac ymgysylltiol iawn yr aethom ati gyda'n gilydd i wneud gwaith y pwyllgor? Er y gallwn oll gyflwyno ein syniadau ein hunain, ac weithiau, ein rhagdybiaethau ein hunain, mae pawb ohonom wedi ymrwymo i fod yn agored ac i...
Huw Irranca-Davies: Yr hyn y buaswn yn cytuno â Darren yn ei gylch yw y dylai pob Llywodraeth—y Llywodraeth hon, Llywodraeth y DU, yr Undeb Ewropeaidd, pob Llywodraeth—sicrhau, fel y bo'n briodol, eu bod yn codi materion ynghylch hawliau dynol gydag unrhyw genedl—unrhyw genedl a phob cenedl. Ond mae'r un mor briodol, ac mae'n rhaid i ran o hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, ymwneud â datblygu cysylltiadau...
Huw Irranca-Davies: Beth yw blaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru yn Ogwr?
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio? A gaf i nodi ar hynny, pan fyddwch yn ystyried elfen ddynol y stori honno—rwy'n siarad ag etholwyr mewn teuluoedd sy'n gweithio am gyflog isel iawn sydd, waeth beth fo'r feirniadaeth ynghylch faint ymhellach y gallem ni fynd â'r cynnig gofal plant, yn dweud wrthyf eu bod £200 neu £250 yr wythnos yn well eu byd oherwydd nad ydyn nhw'n talu am ofal plant mwyach...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn.
Huw Irranca-Davies: Oherwydd bod methiant Llywodraethau olynol, ond gan gynnwys y Llywodraeth Geidwadol bresennol, i allu sicrhau consensws yn San Steffan yn golygu y bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau llawn dychymyg, creadigol ac anodd ynghylch sut yr ydym yn ariannu nid dim ond iechyd, ond iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd. Un o'r penderfyniadau, Darren, y bydd yn rhaid i ni ei wneud fel...
Huw Irranca-Davies: Felly, mae'n drueni bod y wleidyddiaeth wrth arwain at etholiad nesaf—[torri ar draws.] Rydych yn gwneud yn union yr un fath ag y mae Llywodraethau Ceidwadol olynol wedi ei wneud—
Huw Irranca-Davies: Yn wir. Rwy'n ymddiheuro, Llywydd. Roedd yn grwydriad diddorol. Ymddiheuraf.
Huw Irranca-Davies: Wel, unwaith eto—. Llywydd, rwy'n gallu gweld bod yr amser yn drech na mi. Unwaith eto, rwy'n wirioneddol siomedig, oherwydd bod y methiant i symud ymlaen—[torri ar draws.]
Huw Irranca-Davies: A gaf i, wrth agor fy sylwadau, ddiolch i Lywodraeth Cymru, hyd yn oed gyda'r anawsterau o fethu â llwyddo i gwblhau setliad hirdymor amlflwydd, hyd yn oed gyda'r anawsterau o orfod aros tan fis Mawrth, ar ôl inni gyflawni ein cyllideb derfynol ni, ac yna gyflwyno cyllideb atodol i gynnwys yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud—yn wyneb y cyfan, hyd yn oed, dyma'r tro cyntaf mewn...
Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn am un ddadl heddiw yn unig? Mae'n wych gweld y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ei le hefyd, oherwydd mae'r ddadl yr wyf i eisiau gofyn amdani'n ymwneud â threftadaeth ddiwylliannol gerddorol anhygoel Cymoedd y De. Roeddwn i'n falch iawn rai blynyddoedd yn ôl—mae'n rhaid bod hynny tua 13 mlynedd yn ôl—o ddadorchuddio plac i goffáu perfformiad cyhoeddus...
Huw Irranca-Davies: Waeth beth fo datblygiad hanesyddol undeb y Deyrnas Unedig, mae'r undeb fodern yn un o gydsyniad, ac mae'r cydsyniad hwnnw'n gofyn am barch ymysg llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol a seneddau'r Deyrnas Unedig. Ond mae'r undeb hwn hefyd yn gyfnewidiol ac yn llawn straen, sy'n gallu ei ddal gyda'i gilydd ond sy'n gallu yn yr un modd fygwth ei dynnu ar wahân, mewn ymateb i densiynau...