Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, y morlyn llanw arfaethedig yn Abertawe fydd y cynllun cyntaf o’i fath yn y byd ac mae’n dechnoleg heb ei phrofi i bob pwrpas. Mae’r datblygwyr yn honni y bydd y cynllun yn darparu 320 MW o gapasiti gosodedig, ond nid oes gennym unrhyw ffordd o wybod faint o drydan fydd yn cael ei gynhyrchu mewn gwirionedd. Fel rydym wedi’i weld o gynllun llanw swnt Dewi, nid yw...
Caroline Jones: 6. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder ieuenctid? OAQ(5)0084(CC)
Caroline Jones: 9. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran trechu tlodi plant yn ne Cymru? OAQ(5)0081(CC)
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n braf nodi bod cynnydd wedi'i wneud o ran lleihau tlodi plant. Fodd bynnag, mae gennym ffordd hir ofnadwy i fynd os ydym i gyflawni’r nod yr ydym i gyd yn ei rannu o ddileu tlodi plant unwaith ac am byth. Sylwaf o'ch datganiad heddiw na fyddwch yn gallu cyrraedd eich targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020, ac i raddau yr ydych...
Caroline Jones: Ymddiheuraf am gwestiwn tebyg, ond, Brif Weinidog, gyda thua 400,000 o blant yn byw yn y de, mae'r ffaith bod y rhanbarth yn dal i fod heb wasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaeth pwrpasol yn ddychrynllyd. Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau yn cael eu darparu yn rhan amser gan riwmatolegydd oedolion, ond nid oes rhwydwaith clinigol ffurfiol na mewnbwn amlddisgyblaeth digonol. Pa...
Caroline Jones: Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o gyhoeddusrwydd a phryder ar hyn o bryd ynglŷn â ffioedd atodol mewn cartrefi gofal ac i ba bwrpas y defnyddir y ffioedd hyn. Sut y gallwn sicrhau perthnasau, a phreswylwyr yn wir, mewn cartrefi gofal bod eu ffioedd yn cael eu defnyddio’n briodol?
Caroline Jones: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn 2014, cwblhawyd adolygiad o ofal preswyl, ‘Lle i’w Alw’n Gartref?’. Daeth i’r casgliad fod gan ormod o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ansawdd bywyd annerbyniol. Er bod cyfres o ofynion ar gyfer gweithredu ar gartrefi gofal wedi cael eu gweithredu gan Sarah Rochira, ein comisiynydd pobl hŷn ymroddedig sydd a thîm o...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn hynod o boenus darllen yn y papurau am artaith teulu dyn 86 mlwydd oed a laddodd ei wraig 85 oed a oedd yn dioddef o ddementia, ac yna, ag yntau’n methu ag ymdopi, ei fod wedi camu o flaen trên. Ef oedd gofalwr ymroddgar ei wraig ac maent yn gadael chwech o blant sy’n teimlo’n siomedig ac yn honni nad oedd darpariaeth y gwasanaethau...
Caroline Jones: Rwy’n cynnig gwelliant 1 yn fy enw i. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Fel y darganfu’r Pwyllgor Materion Cymreig, mae’r gwahaniaeth cynyddol rhwng y systemau gofal iechyd trawsffiniol nid yn unig yn achosi dryswch i gleifion sy’n dibynnu ar wasanaethau trawsffiniol, ond hefyd mae’n peri anhawster i gael mynediad at...
Caroline Jones: Weinidog, mae plentyn yn fy etholaeth sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wedi bod yn aros ers dros saith mis am apwyntiad gyda gwasanaethau iechyd meddwl y plant a’r glasoed, ac yn y cyfamser, nid yw wedi bod yn cael mwy nag ychydig oriau’n unig o addysg bob wythnos. Sut y gallwn ddisgwyl i bobl ifanc fel hyn gyrraedd eu potensial llawn os ydym yn eu hatal rhag cael addysg gyflawn a...
Caroline Jones: 9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? OAQ(5)0053(EDU)
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Dr Atherton am ei adroddiad, a chofnodi fy niolch i'r Athro Jones am gynnal yr achos yn dilyn ymddeoliad Dr Hussey. Mae Dr Atherton yn ei gwneud yn glir mai’r her iechyd fwyaf sy'n wynebu ein cenedl yw mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn ein gwlad. Dylai’r ffaith fod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y rhai sy'n byw yn ein...
Caroline Jones: Brif Weinidog, gyda bron i 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, llawer ohonynt y gellid eu hatal, madredd yw un o'r lladdwyr mwyaf nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol ohono. Er bod addysgu'r cyhoedd i adnabod yr arwyddion, a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn y GIG i atal dechreuad madredd yn hanfodol, mae sicrhau bod ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn adnabod yr...
Caroline Jones: Gwnaf, yn sicr.
Caroline Jones: Diolch i chi, David. Mae’n mynd i fod yn anodd iawn dal i fyny â’r galw, gan fod un o bob dau ohonom yn mynd i gael canser, ond ni allwn ond gwneud ein gorau. Byddem hefyd yn cefnogi awgrym y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â gwasanaeth trin canser symudol, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig. Nid oes un ateb sengl i gyflawni gwelliannau i ofal canser yng Nghymru ond mae llawer o gamau...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Mae cynllun cyflawni canser Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd yn amlinellu maint y broblem sy’n ein hwynebu. Mae gofal canser wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd ac o ganlyniad, mae mwy a mwy o bobl yn goroesi canser. Fodd bynnag, rydym yn methu’n wael o ran diagnosis cynnar ac yma y mae rhai o’r cyfraddau goroesi...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi arian ychwanegol heddiw ar gyfer grant bloc Cymru yn sgil datganiad yr hydref. O ystyried yr heriau a amlinellir yng nghynllun cyflawni canser Llywodraeth Cymru, yn benodol y prinder offer sy’n llesteirio diagnosis cynharach o ganser a chyfraddau goroesi yn sgil hynny, a wnewch chi, os gwelwch yn dda, ymrwymo i wario cyfran fawr...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch o weld bod rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn parhau i lwyddo, yn enwedig cysylltiadau iechyd Cymru o Blaid Affrica. Roeddwn yn falch iawn o glywed ein bod, y llynedd, wedi gweld 38 o ymweliadau cyfnewid sgiliau o Gymru i Affrica. Fel y gwelsom gyda’r achosion Ebola, mae'n hanfodol ein bod yn cymryd ymagwedd ryngwladol at lawer o'r...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu'r cyfryngau yn adrodd bod Tata yn bwriadu buddsoddi’n sylweddol yn y gwaith ym Mhort Talbot o oddeutu £0.5 biliwn. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael â Tata ynghylch eu cynlluniau buddsoddi? A wyddoch chi pa un a ydynt yn bwriadu ail-leinio'r ffwrneisi chwyth neu gyflwyno ffwrneisi arc i safle Port Talbot? Diolch.
Caroline Jones: Brif Weinidog, diagnosis cynnar yw’r allwedd i wella cyfraddau goroesi canser. Felly, mae i’w groesawu’n enfawr bod y cynllun cyflawni ar ganser newydd i Gymru yn ailwampio atgyfeiriadau canser meddygon teulu trwy dreialu canolfannau diagnostig ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Fodd bynnag, mae'r cynllun cyflawni yn nodi bod gwella...