Canlyniadau 101–120 o 400 ar gyfer speaker:Samuel Kurtz

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (26 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Ie. Diolch unwaith eto am hynny, Weinidog, ac mae’n braf gweld hynny. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom o amgylch y Siambr hon yn cytuno bod angen gwneud mwy a bod mwy'n cael ei wneud i sicrhau bod ein hymgeiswyr a'n haelodau etholedig yn cael eu hamddiffyn yn briodol. Ond unwaith eto, yn etholiad mis Mai, gwelsom 74 o seddi un ymgeisydd, gyda llawer o bobl yn awgrymu nad ydynt yn fodlon sefyll...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Perchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn (26 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: 1. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn? OQ58618

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (25 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Trefnydd, yr wythnos diwethaf, cefais i'r pleser o gyfarfod â Diabetes UK a'r Aelod Seneddol Syr James Duddridge i drafod y clefyd llai adnabyddus diabetes math 3c, rhywbeth y mae James a fy nhad yn dioddef ohono. I'r rhai yn y Siambr nad ydyn nhw'n ymwybodol, mae diagnosis math 3c yn digwydd pan fydd y pancreas nid yn unig yn stopio cynhyrchu inswlin ar gyfer y corff ond yn rhwystro...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi busnes (19 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Fel cyn-gynghorydd sir, ond heb gyrraedd uchelfannau statws arweinydd cyngor fel fy nau gyd-Aelod parchus sy'n eistedd bob ochr i mi, rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y refeniw y mae ardrethi busnes yn ei godi i awdurdodau lleol, ond rwy'n ymwybodol hefyd o annigonolrwydd y fformiwla gyllido bresennol a'r tro gwael a wneir â...

5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (12 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Diolch. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio, a hoffwn ddatgan buddiant hefyd; roeddwn ar fai na wneuthum hynny ar y dechrau.

5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (12 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Ond ar yr un pryd, y rheswm pam fod y busnesau hyn wedi methu cydymffurfio yn yr ystyr a ddywedwch yw am eu bod yn ceisio gwneud hynny; maent yn gwneud eu gorau glas i fynd at awdurdodau lleol i ofyn am y cais cynllunio, i ofyn am i’r cais cynllunio gael ei gymeradwyo fel y gallant osod y seilwaith, y lagwnau slyri sy’n angenrheidiol, ond maent yn cael eu gwrthod gan awdurdodau lleol.

5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (12 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma. Mae polisi parth perygl nitradau Llywodraeth Cymru, pwnc yr adroddiad hwn, wedi bod yn bolisi blaenllaw ond dadleuol gan y Llywodraeth hon a Llywodraethau blaenorol yng Nghymru. Felly, nid oedd ond yn iawn i'r Senedd ofyn i'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig adolygu'r rheoliadau hyn ar frys. Gwn fod y Gweinidog wedi bod yn...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Her Ysgolion Cynaliadwy (12 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Weinidog, nod yr her ysgolion cynaliadwy yw uwchraddio’r seilwaith ysgolion presennol i'w wneud yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, ond rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol o’r tân ofnadwy a fu yn ysgol gynradd Maenorbŷr yn fy etholaeth i ddydd Llun, a achosodd ddifrod enfawr i adeilad yr ysgol. Diolch byth, ni chafodd neb ei anafu. Mae hyn, yn rhannol, oherwydd arweinyddiaeth wych y...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (12 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau staffio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-22 ( 4 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Diolch Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi ar ei adroddiad blynyddol 'Cymraeg 2050' ac hefyd y datganiad y prynhawn yma. O'r dechrau, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy mhryderon am atebolrwydd y rhaglen hon. Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, mae'n bosibl na fydd ef na minnau yn y Siambr hon ymhen 28 mlynedd, felly mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: pwy...

10. Dadl Fer: Mapio moroedd Cymru: Buddsoddiad yn ein dyfodol gwyrdd a glas (28 Med 2022)

Samuel Kurtz: Mae'n bleser i ddilyn yr Aelod o Ynys Môn. 

10. Dadl Fer: Mapio moroedd Cymru: Buddsoddiad yn ein dyfodol gwyrdd a glas (28 Med 2022)

Samuel Kurtz: Roedd hi'n bleser cael y wers hanes a'r wers wyddoniaeth honno hefyd, a dysgais fwy am fapio moroedd Cymru. Rwy'n credu bod y pwynt ynghylch cyllid yn un sy'n hollol bragmataidd. Rydym yn gallu goresgyn hynny, rwy'n meddwl, ar y ddau ben i'r M4, sy'n rhywbeth y byddwn yn hapus iawn i'w gefnogi hefyd, oherwydd os ydym am wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd yno ar ffurf egni adnewyddadwy oddi ar...

9. Dadl Fer: Dŵr yng Nghymru: Yr heriau sy'n ymwneud â thlodi dŵr a'i safon (28 Med 2022)

Samuel Kurtz: Ar 19 Awst, cafwyd gwaharddiad ar ddefnyddio pibelli dŵr mewn rhan fawr o fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ardal a wasanaethir gan gronfa ddŵr Llys-y-frân yn etholaeth fy nghyd-Aelod Paul Davies, sef Preseli Sir Benfro. Yn garedig iawn, fe roddodd Paul ganiatâd i mi fynd i mewn i Breseli Sir Benfro er mwyn imi ymweld â chronfa ddŵr Llys-y-frân i weld pa mor isel...

6. Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016' (28 Med 2022)

Samuel Kurtz: Cefais fy ysgogi, mewn gwirionedd, i gyfrannu at yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl dau ymweliad. Roedd yr ymweliad cyntaf ag Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn fy etholaeth dros doriad yr haf, lle cyfarfûm â staff a chefais drafodaeth ddi-flewyn-ar-dafod a gonest iawn gyda hwy ynghylch y lefelau staff nyrsio y maent yn eu gweld. Rydym yn hollol gywir i siarad am nyrsys yn gadael...

5. Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2021-22 (28 Med 2022)

Samuel Kurtz: Diolch i'r Llywydd am gyflwyno hyn, ac am yr holl waith pwysig y mae hi'n ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith ar lawr y Senedd hon ac ar draws ystad Senedd Cymru. Diolch hefyd i'r Aelod o Ynys Môn am agor y ddadl. Mae'n bwysig ein bod yn arwain drwy esiampl yma yn y Senedd, nid yn unig i gyflawni targedau uchelgeisiol 'Cymraeg 2050', y byddwn yn cael diweddariad arnynt yr wythnos nesaf,...

4. Datganiadau 90 Eiliad (28 Med 2022)

Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd, ac rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle i hyrwyddo’r diwrnod hwn a’r Gynghrair Llaeth Ysgolion a Meithrinfeydd ar lawr y Siambr hon. A wyddech chi y gall carton 189 ml o laeth hanner sgim ddarparu 42 y cant o'r cymeriant calsiwm dyddiol a argymhellir i blentyn saith i 10 oed, a 24 y cant o'r cymeriant protein a argymhellir? Mae hefyd yn...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Defnyddio Cewyll ar gyfer Anifeiliaid Fferm (28 Med 2022)

Samuel Kurtz: Weinidog, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar saethu a chadwraeth, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi anfon llythyrau atoch o'r blaen ynghylch ffliw adar a’r anawsterau a achosodd hynny mewn perthynas â mewnforio wyau i ddeorfeydd yma yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae digwyddiadau saethu adar hela yng Nghymru yn bwriadu datblygu eu rhaglenni bridio eu hunain fel nad ydynt bellach yn...

8. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (27 Med 2022)

Samuel Kurtz: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi o'i datganiad a Bil Amaethyddiaeth (Cymru), yn enwedig gan ei bod wedi cael prynhawn prysur iawn yn y Siambr. Nid yw'n danddatganiad i ddweud bod y ddogfen 45 tudalen hon, ynghyd â'r memorandwm 475 tudalen, yn cynrychioli'r ailwampio mwyaf a mwyaf arwyddocaol mewn polisi amaethyddol ers geni'r sefydliad hwn. Ar ôl...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (27 Med 2022)

Samuel Kurtz: A  gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gan i'r penwythnos diwethaf hwn weld amharu'n llwyr ar wasanaethau rheilffordd yn ne Sir Benfro. Nid oedd y gwasanaeth bysiau yn lle trenau, dywedir wrthyf, yn gallu cymryd defnyddwyr cadair olwyn na beiciau, a allai, o bosibl fod wedi gadael teithwyr heb fedru teithio. Ar ôl gweithio gyda...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.