David Melding: A gaf fi gymeradwyo Llyr am gyflwyno'r ddadl fer bwysig hon? Fel yntau, credaf fod 'Bwlch yn y Wybodaeth' yn adroddiad hynod o bwysig, ac rwyf am gofnodi fy niolch i Gymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn o allu cynnal a chadeirio lansiad yr adroddiad yn y Senedd. A gaf fi ddweud wrth Dawn ei bod yn gwneud pwyntiau pwysig iawn am yr ymarfer rhagorol yng Ngwent? Mae...
David Melding: A gaf fi ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn fod y grŵp trawsbleidiol wedi canmol y partneriaethau a ffurfiwyd gyda'r sector gwirfoddol, oherwydd gall y rhain arwain at rai o'r gwasanaethau mwyaf arloesol a pherthnasol sydd ar gael i'n cyn-filwyr? Hoffwn sôn am un enghraifft yn benodol, sef Woody's Lodge, sydd wedi'i leoli ar HMS Cambria yn Sili. Credaf fod nifer o bobl yn y...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Heddiw, cafodd y byd glywed dyfarniad hirddisgwyliedig achos y Cadfridog Ratko Mladić. Mae'r dyfarniad a'r ddedfryd gerbron y llys troseddau rhyfel Iwgoslafaidd yn yr Hâg yn nodi penllanw achos sydd wedi para dros 22 mlynedd. Cafwyd Mladić yn euog o 10 cyhuddiad, gan gynnwys hil-laddiad, troseddau rhyfel a throseddau yn erbyn dynoliaeth, gyda phob un ohonynt...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer rhaglen fuddsoddi wedi’i thargedu a arweinir gan adfywio, sy'n werth oddeutu £100 miliwn. Tybed pa effaith economaidd rydych yn disgwyl i'r rhaglen hon a dargedir ei chael yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru, fel cymoedd Morgannwg?
David Melding: A gaf i ddechrau drwy groesawu'r Gweinidog i'w swydd newydd? Rwyf yn ffyddiog wrth ddweud fy mod i'n rhagweld llwyddiant gwleidyddol mawr o'ch blaen. Ond bydd angen eich holl sgiliau arnoch chi, oherwydd eich bod efallai nawr yn gorfod ystyried penderfyniad, yr oedd yn ymddangos o'r hyn a ddywedasoch ym mis Ebrill, a oedd yn awgrymu nad dyna'r cyfeiriad y byddai'r Llywodraeth yn ei ddilyn yn...
David Melding: Prif Weinidog, roeddwn i'n falch iawn o glywed bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a'r Ysgrifennydd dros addysg wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed mewn ysgolion. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld rhywfaint o'r budd hwn mewn mannau fel Aberdâr.
David Melding: Prif Weinidog, mae hi'n wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yr wythnos hon, ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cymeradwyo'r holl fesurau ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd. Hefyd, yng Nghanol De Cymru, yn anffodus, mae'n rhaid i ni fyfyrio ar ddwy ddamwain angheuol ym mis Hydref, ac rydym ni'n anfon ein cydymdeimlad at deuluoedd y dioddefwyr. Rwy'n meddwl tybed a yw'n bryd nawr i gael dull llawer mwy...
David Melding: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch beicwyr yng Nghymru? OAQ51337
David Melding: [Yn parhau.]—yn drylwyr ar yr honiadau hynny. Rwy’n fodlon ildio.
David Melding: Rwy’n credu y dylem symud ymlaen mewn ffordd sy’n deg i bob technoleg, yn y bôn. Felly, rwy’n credu mai dyna beth sydd angen i ni ei gofio pan fyddwn yn edrych ar ddatblygu ffynonellau ynni, ein bod yn defnyddio’r un meini prawf. Rwy’n credu mai un o’r cwestiynau mawr y buasai’n rhaid i ffracio ei wynebu yw pa un a ellir ei gysoni o gwbl â’n hamcanion strategol ehangach, yn...
David Melding: Diolch i chi, Llywydd. A gaf fi ddweud ein bod yn hapus i nodi’r cynnig heb ei gymeradwyo o reidrwydd? Mae gennyf safbwynt amodol ar hyn. Hefyd, mae’r sefyllfa ar hyn o bryd, sef, yn ei hanfod, moratoriwm ar geisiadau hyd nes y bydd y maes wedi’i ddatganoli, yn rhywbeth y credwn ei fod yn briodol fel bod Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn, i bob pwrpas, yn cael eu caniatáu i...
David Melding: Rhaid imi ddweud fy mod yn synhwyro awgrym o anogaeth yn y datganiad hwn, ac nid yw hynny bob amser wedi bod yn wir am faterion tai yn achos Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi anghytuno weithiau. Ond rwy'n croesawu agweddau ar y datganiad hwn yn arbennig felly. Er enghraifft, wrth adeiladu tai, mae’n dweud, ac rwy’n dyfynnu, bydd yn creu cyfleoedd enfawr ar gyfer swyddi a hyfforddiant,...
David Melding: Prif Weinidog, rwy’n cytuno â'r hyn a ddywedasoch am effeithlonrwydd ynni, ond mae hefyd yn ffaith eithaf syfrdanol, yn ôl Cyngor ar Bopeth Cymru, mai dim ond 12 y cant o'r rheini sydd ar yr incwm isaf sydd ar y tariffau isaf sydd ar gael, ac rwy’n credu bod gwaith i'w wneud yn y fan yma i hysbysu pobl am y tariffau sydd ar gael a'r rhai isaf. Gall Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a...
David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd yn y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd yng Nghanol De Cymru?
David Melding: Mae’n bleser cael cefnogi’r cynnig hwn ac rwy’n falch fod y dadleuon Aelodau unigol yn parhau i ddod â syniadau diddorol iawn i’r Cynulliad, a syniadau sydd at ei gilydd yn cael cefnogaeth drawsbleidiol. Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol iawn o’r cysylltiadau agos rhwng lefelau uchel o dagfeydd a llygredd aer, ac rwy’n credu y bydd cerbydau trydan yn cynnig ffordd i...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n cytuno â’r Aelod sydd newydd ofyn y cwestiwn fod angen edrych yn ofalus ar amddiffyn tenantiaid. Yn Lloegr, o ganlyniad i Ddeddf Dadreoleiddio 2015, ni all landlordiaid gyflwyno hysbysiadau adran 21 i breswylwyr os yw’r adeilad o safon wael ac os nad yw’n bodloni safonau deddfwriaethol. Ymddengys efallai fod hon yn ffordd briodol yn awr o reoleiddio’r...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, ymwelais â’r tŷ Solcer ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o waith y pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac roeddwn yn frwdfrydig iawn i weld y posibilrwydd o adeiladu cartrefi sydd erbyn hyn yn cynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd. Nawr, mae’r tŷ hwnnw’n costio tua dwywaith cymaint â thŷ wedi ei...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddwch yn croesawu’r cap ar brisiau ynni a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn ogystal â’r broses barhaus o gyflwyno mesuryddion deallus. Credaf fod gan fesuryddion deallus rôl enfawr i’w chwarae yn rhoi mwy o reolaeth i berchnogion tai dros faint o ynni y maent yn ei ddefnyddio, a’u hannog hefyd i newid darparwr. Fodd bynnag, mae rhywfaint o...
David Melding: Rwy’n ffyddiog y byddwch yn cynnal asesiad llawn, oherwydd yn y gorffennol, rydych wedi dweud bod angen i gynllun dychwelyd blaendal asesu goblygiadau hynny i filiau’r cartref o ddydd i ddydd, ac a allwch roi sicrwydd inni, mewn unrhyw dreth newydd y gallech fod yn ei hystyried, unwaith eto, y byddai’r effaith y byddai hynny’n ei chael ar filiau’r cartref yn cael ei hystyried yn llawn?
David Melding: Rwy’n cytuno â hynny, ac mae’n bwysig iawn, ond mae’r modd y defnyddir unrhyw dreth yn bwysig hefyd. Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, yn dechnegol, gellir ailddefnyddio cynhwyswyr bwyd polystyren. Credaf fod angen inni fod yn fanwl iawn o ran y camau rydym yn ceisio’u cymryd i sicrhau canlyniadau o ran lleihau llygredd o blastigion. Tybed a fyddech yn agored i gynnig mwy radical, un...