Canlyniadau 1201–1220 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Hyd 2017)

David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, buoch yn sôn am, ac yn wir, pleidleisiodd eich plaid o blaid treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio ac na ellir eu hailgylchu yng Nghymru. Tybed a allwch roi rhywfaint o eglurhad inni ynghylch manylion ac ymarferoldeb y bwriad hwn a sut y gallech fwrw ymlaen â hynny, neu ai rhyw sicrwydd amwys i Blaid Cymru ydoedd fod ganddynt...

7. 7. Dadl: Yr Economi Gylchol (17 Hyd 2017)

David Melding: Os bydd hynny'n symud pethau yn eu blaenau, efallai bod hynny er gwell wedi’r cwbl. Wrth gefnogi gwelliant 4, nid ydym yn cymeradwyo mewn unrhyw ffordd yr ymdriniaethau o ran cyllideb sydd wedi digwydd. Nid oes gen i syniad pa gyfaddawdau sydd wedi bod, felly nid wyf i’n mynd i fod â rhan yn hynny o gwbl. Fe fyddwn ni’n gwrthwynebu gwelliant 5 mewn gwirionedd oherwydd, er ein bod yn...

7. 7. Dadl: Yr Economi Gylchol (17 Hyd 2017)

David Melding: Nid oes gennyf amser i ymhelaethu ar ein brwdfrydedd am gynllun adneuo, ond bydd gennym ddiddordeb mawr yn yr hyn sy'n digwydd gyda'r ymgynghoriad ar hyn o bryd. Efallai y bydd modd i’r Gweinidog ddweud rhywbeth am hynny wrth gloi. A, hefyd, sut y bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal—byddwn yn gwerthfawrogi pe byddai hi'n rhoi mwy o fanylion neu yn ysgrifennu ataf i am hynny. Eto,...

7. 7. Dadl: Yr Economi Gylchol (17 Hyd 2017)

David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n falch o gynnig gwelliant 3 yn enw Paul Davies. Mae hi’n gamp nodedig fod Cymru'n wlad flaenllaw mewn ymdrechion byd-eang i gynyddu cyfraddau ailgylchu, ac mae hyn yn gydnabyddiaeth o waith a phenderfyniad Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol, cynghorau lleol ac, yn wir, i bobl ledled Cymru sydd wedi ymateb i'r her hon gyda brwdfrydedd. Rwy’n...

3. 3. Datganiad: Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) (17 Hyd 2017)

David Melding: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Yn wir, yng ngoleuni ailddosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i'r sector cyhoeddus, mae Plaid Geidwadol Cymru yn credu y dylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Yn amlwg, byddwn yn rhoi sylw manwl i'r manylion yn y pwyllgor, ond rwy’n credu mai’r farn wleidyddol gyffredinol yw...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth
(11 Hyd 2017)

David Melding: Rwy’n cytuno â’r Aelod. Credaf fod defnyddio Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn ffordd bwysig o asesu’r gwahanol opsiynau ger ein bron. Ymddengys i mi fod y tri llwybr i liniaru tagfeydd ar yr M4 yng Nghasnewydd yn cynnig eu hunain i ddull o’r fath, a byddai’r dadansoddiad cymharol hwnnw, gan fod angen inni wneud rhywbeth, yn ddefnyddiol iawn tu hwnt.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Digartrefedd
(10 Hyd 2017)

David Melding: Prif Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith y Wallich. Mewn adroddiad diweddar a lansiwyd yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf, rwyf wedi canfod y bu cynnydd i’r rhai sy’n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd ac Abertawe a bod y rhai sy'n cysgu ar y strydoedd 70 gwaith yn fwy tebygol o farw o gamddefnyddio sylweddau ac 11 gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i...

10. 10. Dadl Fer: M4 sy'n Addas ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol ( 4 Hyd 2017)

David Melding: Rwy’n gobeithio nad y caneri yw cinio’r gath. Mae’r daith rydych yn ei gwneud yn swnio’n ddiddorol. Fel Tori ofnadwy o faleisus, rwy’n amheus o nwyddau am ddim, ac wrth gwrs, un o’r nwyddau rhataf sydd gennym yw’r ffyrdd. Pan fyddwn yn gwneud buddsoddiad cyhoeddus gwirioneddol enfawr fel hyn, rwy’n credu bod angen inni edrych ar yr holl dystiolaeth a rhagweld beth sy’n...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Lefelau Cyrhaeddiad mewn Ysgolion
( 4 Hyd 2017)

David Melding: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n ofynnol i ysgolion gynnwys manylion yn eu cynlluniau datblygu ynglŷn â sut y byddai’r corff llywodraethu yn ceisio bodloni targedau gwella ysgolion ar gyfer y flwyddyn drwy weithio gyda theuluoedd disgyblion yn yr ysgol. Mewn arolwg gan PTA Cymru, canfuwyd mai 66 y cant yn unig o rieni a ddywedodd fod ysgol eu plentyn yn cyfathrebu’n dda â hwy, o...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Lefelau Cyrhaeddiad mewn Ysgolion
( 4 Hyd 2017)

David Melding: 2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r effaith y bydd cynyddu cyfranogiad rhieni yn ei chael ar lefelau cyrhaeddiad mewn ysgolion? (OAQ51127)

6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol ( 3 Hyd 2017)

David Melding: Yn y rhaglen gyflenwi, rydych chi’n dweud y bydd dadansoddiad pellach o ddulliau eraill yn lle iawndal yng Nghymru, ac rwyf yn gofyn i chi adolygu’r cam i ddileu’r terfyn uchaf. Fe glywsom ni dystiolaeth glir gan yr undebau ffermio y bydd hyn yn cael effaith wael ar fuddsoddiad ac yna ansawdd y gwartheg. Ac mae'n doriad eithaf llym o £15,000 i £5,000. Rydych chi’n iawn nad yw'n...

9. 8. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: ‘Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru’ (27 Med 2017)

David Melding: Mae’n rhaid i mi ddweud bod llawer o’r dadleuon hyn yn gyfarwydd iawn. Rwy’n credu bod y rhai ohonom sydd wedi gwasanaethu ers 1999 yn cael ein galw’n ‘garcharorion oes’ yn y Cynulliad—[Chwerthin.]—ac mae’n teimlo felly weithiau. Gwelaf fod dau garcharor oes arall yn y Siambr. Yn wir, etholwyd Dr Lloyd yn gyntaf yn 1999, ond oherwydd ei ymddygiad da, cafodd gyfnod byr o...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Egwyddorion Buddsoddi i Arbed
(27 Med 2017)

David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y bydd yr Aelodau’n falch o glywed bod adolygiad annibynnol wedi canfod bod pob £1 a fuddsoddwyd wedi arwain at oddeutu £3 mewn arbedion. Mae hynny’n wirioneddol dda ac yn arwydd o gryn arloesedd. Rydym yn awyddus i weld mwy o hynny. Fodd bynnag, 0.4 y cant yn unig o fuddsoddiad o bron £14 miliwn y mae tai wedi’i gael o dan y cynllun hyd yn hyn. Tybed a...

6. 6. Datganiad: Ynni (26 Med 2017)

David Melding: Mae llawer o haenau i'r datganiad hwn ac ni fyddaf yn profi eich amynedd, Llywydd, trwy fynd trwy'r cyfan. Ond rwyf eisiau dechrau trwy ddweud bod ystod eang o gonsensws gwleidyddol yma yn y newid i ynni adnewyddadwy ac i ddatgarboneiddio ein sector ynni. Felly, yn y modd hwnnw rwy'n cynnig y sylwadau a'r cwestiynau hyn. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn i ddweud bod angen...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA
(26 Med 2017)

David Melding: Prif Weinidog, rwy’n cymeradwyo'r hyn y mae eich Llywodraeth a'r weinyddiaeth flaenorol wedi ei wneud i ddenu digwyddiadau lefel uchel a sut yr ydych chi wedi gweithio gyda'r cymdeithasau chwaraeon priodol. Rwy'n credu bod honno'n bartneriaeth allweddol, ac mae'r mathau hyn o gyflawniadau yn rhodd sy'n parhau i gyflawni gan fod y gwerth marchnata—. Mae pobl yn dal i sôn am y diwrnodau...

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynghorau Iechyd Cymuned (20 Med 2017)

David Melding: Diffyg chwilfrydedd yw hynny.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cymhellion i Adeiladu Mwy o Gartrefi
(20 Med 2017)

David Melding: Cymeradwyaf bwynt Eluned Morgan ynglŷn â’r angen am fwy o fusnesau adeiladu bach a chanolig fel sector allweddol sydd, mewn degawdau blaenorol, wedi darparu ar gyfer llawer o dwf. Un peth y gallech ei wneud yw atgynhyrchu’r cynllun yn Lloegr, lle y caiff grant y Trysorlys i awdurdodau lleol ei gynyddu yn ôl gwerth y cynnydd yn y dreth gyngor a ddaw gydag adeiladu tai newydd. Buasai...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Inswleiddio Diffygiol ar Waliau Ceudod
(20 Med 2017)

David Melding: Yn 2015, dywedodd y Sefydliad Ymchwil Adeiladu fod angen mwy o ddata arnom ynglŷn â hyn yng Nghymru. Mae angen astudiaeth genedlaethol i weld maint y broblem. Credaf mai’r broblem yn hyn o beth yw’r eiddo presennol sydd wedi mynd drwy’r broses hon, ac mae wedi bod yn ddiffygiol. Gan fod hyn yn ganolog i gymaint o’n strategaeth adnewyddu, lleihau ynni, Cartrefi Clyd—mae’n...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (20 Med 2017)

David Melding: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd plastig yng Nghymru?

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (19 Med 2017)

David Melding: Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer denu buddsoddiad i Aberdâr?

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.