David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi hefyd ychwanegu fy nghefnogaeth i’r duedd hon sy’n datblygu? Deallaf fod dros 80 o gwmnïau a sefydliadau ledled Cymru bellach yn talu’r cyflog byw sylfaen, gan gynnwys, Llywydd, y Cynulliad Cenedlaethol a chyngor Chaerdydd. Credaf fod y pwynt a wnewch yn hollol gywir. Mae gennym argyfwng cynhyrchiant yn y wlad hon, ac mae llawer ohono’n deillio o...
David Melding: A gaf i groesawu’r datganiad hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet a diolch iddo am y crynodeb a roddodd i lefarwyr y gwrthbleidiau y bore yma a'r addewid o grynodebau pellach ganddo ef a'i swyddogion? Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod yn cael gwybod y diweddaraf, fel y dywedodd, am sefyllfa sy'n newid yn gyflym. A alla i ofyn iddo, o ran yr asesiadau uniongyrchol sydd wedi eu gwneud,...
David Melding: Prif Weinidog, canfu adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 'Gorchudd Coed yn Nhrefi a Dinasoedd Cymru’ bod 1 y cant o'r holl orchudd coed i’w ganfod mewn ardaloedd dwysedd uchel o dai, a nododd adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun ar reoli ansawdd aer lleol yng Nghymru bod cynyddu gorchudd coed yn allweddol i wella llesiant cyffredinol, i leihau nwyon tŷ gwydr ac i wella ansawdd yr aer. A ydych...
David Melding: Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog o ran datblygu economaidd yng Nghanol De Cymru?
David Melding: Rwy’n falch hefyd o allu cymeradwyo’r gwaith ar adfywio canol tref Aberdâr. [Torri ar draws.] Rwy’n hoffi bod yn hael. Mae’n sicr yn un o’r enghreifftiau gorau i mi eu gweld erioed o ddefnyddio’r math hwn o arian, ac mae’n atgoffa pobl o ‘Frenhines y Cymoedd’, fel roedd Aberdâr yn arfer cael ei galw, rwy’n credu. Rwyf eisiau siarad am adnewyddu tai. A wnewch chi ein...
David Melding: Rwy’n falch ei fod yn mynd rhagddo, gan fod hwn yn ddiwygiad pwysig i sicrhau bod y broses gynllunio’n fwy effeithiol ac effeithlon. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod hyn yn ofynnol ar gyfer datblygiadau mawr, megis datblygiadau tai o 10 neu fwy o dai, neu ddatblygiadau ar safleoedd un hectar neu fwy o faint. Nawr, un o’r prif amcanion yw cynnwys y gymuned leol a’u galluogi i leisio eu...
David Melding: Rwy’n cytuno â chi, gan y credaf mai mantais proses rag-gynllunio yw y gellir mynd i’r afael wedyn â phryderon real iawn y gymuned, a gall hynny wedyn roi ffurf i’r cais, ond gall y cais barhau yn ei hanfod ar ffurf wedi’i chymedroli a’i haddasu. Rhywbeth arall y credaf fod angen i chi edrych arno, oherwydd, yn y trafodaethau a gefais, er enghraifft gyda chymdeithasau tai,...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd adran 17 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gynnal ymgynghoriadau cyn ymgeisio gyda’r gymuned ac ymgyngoreion technegol. A ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o sut y mae’r broses hon yn gweithredu bellach a hithau wedi bod ar waith ers 15 mis?
David Melding: [Yn parhau.]—ond un sy'n cynrychioli rhan benodol iawn o'r Deyrnas Unedig ac nad oes ganddi fandad ehangach na hynny. Byddai’n well gen i beidio, ac rwy’n meddwl eich bod yn mynd i siarad yn y ddadl, ond os ydych yn pwyso arnaf, gwnaf ildio, ond mae gennyf ragor o bethau yr hoffwn eu dweud ac yr wyf yn meddwl yr hoffai’r Cynulliad eu clywed. Ydych chi am imi ildio?
David Melding: Wel, amser a ddengys ar sefydlogrwydd yr holl drefniant hwn. Yn fy marn i, ac rwy'n mynd i fynd i drafferth ofnadwy nawr, yw mai dyn a ŵyr beth fydd yn digwydd ar ôl diwedd y trafodaethau Brexit. Ond rwy’n meddwl bod angen inni sefyll dros Gymru. Dyna pam mae'r Cynulliad Cenedlaethol yma. Mewn adegau o drafod dyrannu adnoddau gwladwriaeth y DU, yr ydym yn rhan ohoni ac wedi bod yn...
David Melding: Wel, rydym, ar hyn o bryd, yn ymdrin â chanlyniad yr etholiad cyffredinol, a dim ond dau opsiwn dichonadwy gafodd eu cynhyrchu ganddo. Un oedd Llywodraeth Geidwadol leiafrifol—yr un yr oeddwn i, gyda llaw, yn ei ffafrio, ond byddai hynny wedi bod yn fregus, yn amlwg—neu, yn ail, cyfuniad gyda'r DUP i greu cytundeb hyder a chyflenwi. Nid oedd dim cyfuniad arall a allai fod wedi cynhyrchu...
David Melding: Rwy’n sicr yn disgwyl iddo barhau. Ni allaf siarad ar ran y DUP ond gallaf siarad ar ran Plaid Geidwadol Cymru, ac rydym ni’n cydnabod newid yn yr hinsawdd sydd wedi ei achosi gan ddyn. Felly, ein ffordd ni o fynd ati yw cefnogi ac annog Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, i fynd ymhellach. Ond, beth bynnag, fe allem ni symud yn gyflymach yma, ac mae'n drueni nad ydym ni wedi gwneud...
David Melding: Fe wna i orffen y darn hwn. Felly, mae hynny'n golygu y bu saith mis o oedi cyn gweithredu lefelau cyllideb carbon y DU. Ildiaf.
David Melding: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn cynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies. Rwy’n croesawu’r ffaith ein bod yn cael y ddadl hon; Rwy'n credu ei fod yn bwnc pwysig. Rwyf hefyd yn croesawu'r camau breision a wnaed i leihau’r ôl troed carbon, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o arweiniad yn y maes hwn, ond byddwn yn dweud, cyn i mi roi’r argraff fy mod yn rhy hael, nad ydym ni...
David Melding: Prif Weinidog, byddwch yn gwybod bod Nantgarw wedi ei ddewis yn ddiweddar fel y ganolfan ar gyfer y llinell gymorth 24 awr newydd ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog. Bydd hyn o gymorth mawr ar hyd a lled Cymru, ond hefyd i Rhondda Cynon Taf a Chwm Cynon yn arbennig. Nawr, mae hyn yn rhan o adolygiad pontio cyn-filwyr 2014, a argymhellodd hefyd y dylai awdurdodau lleol gynnal archwiliad o'u...
David Melding: Eich bos chi yw’r Gweinidog lles, diolch yn fawr iawn.
David Melding: O, arglwydd. Y gorau y gallwch ei wneud. [Chwerthin.]
David Melding: Gweinidog, yn ôl yr Archwiliad Dinesig Ewropeaidd, Caerdydd yw’r ddinas orau i fyw ynddi yn y DU, a’r chweched brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop. Copenhagen oedd ar y brig: mae 45 y cant o’i thrigolion yno’n beicio i’r gwaith. Fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a wnewch chi osod targedau o ran nifer y teithiau difodur ar gyfer ein dinasoedd ac...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn groesawu’r ffaith fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol bellach wedi dechrau cyhoeddi data ar lefel awdurdodau lleol ar ddau ddull allweddol o fesur allbwn a ffyniant economaidd, sef gwerth ychwanegol gros ac incwm gwario gros aelwydydd. Rwy’n credu bod yna gryn botensial, a hoffwn pe bai Llywodraeth Cymru yn dweud beth y gallant ei wneud yn y maes hwn, i sicrhau...
David Melding: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa strategaeth sydd yn ei lle i gynyddu nifer y teithiau bws lleol gan deithwyr?