David Melding: Rwy'n credu, ar y pwynt olaf, y dylech ddilyn y dystiolaeth wyddonol—byddwn i’n cymeradwyo hynny. Rwy'n credu ei bod braidd yn rhyfedd bod Aelod yn dyfynnu’r angen i ddilyn tystiolaeth wyddonol ac yna’n taflu rhywbeth i’r ddadl nad yw wedi ei archwilio gan y pwyllgor yn sicr, nac, fe ymddengys, gan Lywodraeth Cymru. Ond, fel y dywedais i, mae’n rhaid cymryd tystiolaeth o ddifrif...
David Melding: Llywydd, a gaf i ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet i estyn ein cydymdeimlad dwysaf â phawb sydd wedi colli anwyliaid ac i ddweud bod y dioddefwyr yn ein meddyliau a'n gweddïau ar hyn o bryd? Roedd tân Tŵr Grenfell yn wirioneddol ofnadwy ac mae'n rhaid iddo arwain at adolygiad cynhwysfawr o reoliadau diogelwch tân. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am wneud datganiad mor...
David Melding: Prif Weinidog, mae amlder a dibynadwyedd gwasanaethau yn hanfodol, ac o ran gwasanaethau Arriva, rwyf i wir yn meddwl bod angen i ni weld gwelliant sylweddol i arferion fel canslo gwasanaethau neu derfynu gwasanaeth hanner ffordd i fyny'r cwm. Os ydych chi eisiau mynd i Aberdâr, mae'n stopio yn Aberpennar ac mae'n rhaid i chi ddod oddi ar y trên ac aros am y trên nesaf. Mae'r rhain yn...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, ar drywydd ychydig yn wahanol, ond yn dal yn ganolog i’r cwestiwn hwn, rwy’n credu bod annog menter mewn ysgolion, ymysg y disgyblion yn arbennig, yn beth gwych i’w wneud. Rwyf wedi galw sawl gwaith am annog mentrau cymdeithasol—credaf y dylai pob ysgol uwchradd gael o leiaf un—a pham ddim defnyddio’r model cydweithredol? Pa ffordd well o drefnu’r math...
David Melding: Hoffwn ganolbwyntio ar y rhan o’ch datganiad sy’n sôn am lenyddiaeth, ac yn benodol, y ffynhonnell wych honno o arloesi ac entrepreneuriaeth, ac rwy'n siarad am y siop lyfrau fach annibynnol. Nawr, mae’r sector hwn wedi lleihau dros y blynyddoedd wrth i Amazon a’u tebyg ddatblygu, ond mae’r rhai sydd wedi goroesi yn fusnesau rhagorol, gyda chysylltiadau gwych â'r gymuned leol,...
David Melding: Prif Weinidog, mae gan lawer o fenywod hŷn broblem gyda symudedd—maen nhw’n eithaf bregus—ac mae angen i ni lunio polisïau cyhoeddus penodol gyda hynny mewn golwg. Er enghraifft, gyda thrafnidiaeth, mae'r gwelliant i wasanaethau bws, teithiau bws am ddim, ac ati, o gymorth, ond mae gwir angen i ni ganolbwyntio ar bethau fel cynlluniau cludiant cymunedol hefyd, sy'n caniatáu i bobl a...
David Melding: Prif Weinidog, a gaf i ddweud, fel chithau, rwy'n falch bod nifer y pleidleiswyr ddydd Iau diwethaf yn llawer agosach at y duedd hanesyddol yr ydym ni wedi ei chael yn y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar iawn amdano? Un peth sy'n bob amser yn fy nharo fel rhywbeth sy’n rhyfedd iawn yw pam yr ydym ni’n pleidleisio ar ddydd Iau. Bu un neu ddau o...
David Melding: Rwy’n awyddus ar y cam hwn yn y prynhawn i helpu i ddatblygu consensws. Mae arnom angen ystod o fodelau. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig tu hwnt. Dywedodd Mike Hedges y bydd llawer o bobl na fyddant yn gallu dod yn berchnogion tai yn y dyfodol y gellir ei ragweld, ac rwy’n credu bod modelau cydweithredol yn rhoi hynny—mae’n sefyllfa rhwng dwy stol braidd mewn nifer o ffyrdd, am...
David Melding: Diolch i’r Gweinidog am gofnodi nad ydym yn adeiladu digon o dai yn y Deyrnas Unedig. Mae’n iawn i ddweud hynny, a wyddoch chi, rwyf wedi clywed ei fyfyrdodau ar Lywodraethau Ceidwadol y gorffennol. Ym maniffesto presennol y Ceidwadwyr, mae yna ymrwymiad i adeiladu 1.5 miliwn o gartrefi rhwng yn awr a 2022. Byddai hynny’n golygu 75,000 yn fwy o gartrefi yng Nghymru yn yr un cyfnod....
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn o gynnig y cynnig hwn yn enw Paul Davies ac edrych ar yr argyfwng tai sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae’r naill lywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi methu â mynd i’r afael ag anghenion tai sydd wedi bod yn eithaf amlwg bellach ers cenhedlaeth neu fwy. Mae’r angen cynyddol am dai cymdeithasol, tanfuddsoddi ers datganoli, a’r...
David Melding: Rwyf eisiau siarad am amcangyfrif mwy rhesymegol o anghenion tai. Ac yma, rwyf o leiaf yn canmol Llywodraeth Cymru am gomisiynu adroddiad effeithiol a edrychodd ar hyn yn iawn, ac rwy’n cyfeirio at yr adroddiad ‘Future Need and Demand for Housing in Wales’, a luniwyd gan y diweddar Athro Holmans. Roedd yr adroddiad hwnnw’n amcangyfrif bod Cymru angen hyd at 240,000 o unedau tai newydd...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer yng Nghymru, roedd 6.6 y cant o’r holl rai a anafwyd mewn damweiniau traffig ar y ffordd yn feicwyr. Gwelwyd gostyngiad bychan ers y flwyddyn flaenorol, ond serch hynny, hwn yw’r ffigur uchaf ond un a gofnodwyd ers 1984. A ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid i gynghorau, a Llywodraeth Cymru yn wir,...
David Melding: A gaf i ddweud ein bod yn fodlon i nodi'r adroddiad, ac rydym yn gobeithio y bydd yn dechrau proses o ddatblygu polisi sy'n diogelu ein tirweddau dynodedig gan weld eu potensial economaidd, diwylliannol a chymdeithasol ehangach yn cael eu hymestyn? Rwy'n credu bod honno'n ffordd briodol o symud ymlaen. Mae'r adroddiad yn nodi cynnig newydd ar gyfer tirweddau dynodedig i fynd y tu hwnt i'w...
David Melding: Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi’n cytuno y dylem ni fod yn anelu am gytundeb da—cytundeb da i’r Deyrnas Unedig, cytundeb da i Gymru, a chytundeb da i'r Undeb Ewropeaidd—ac rwy'n hyderus iawn mai dyna fydd yn digwydd. Ond, a gaf i eich cyfeirio chi at ragolwg economaidd y DU a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016, a nododd—ac roedd hyn ar y tueddiadau cyn Brexit—bod ein...
David Melding: Wel, mae’n dod â mi’n daclus at y pwynt nad yw’n farchnad effeithlon na pherffaith.
David Melding: Gallaf glywed Aelod UKIP yn mwmian, ‘Nid oes ateb perffaith chwaith’, ac mae’n debyg bod hynny’n crynhoi’r anhawster rydym ynddo. Ond mae prisiau ynni yn uchel ac maent hefyd yn anodd iawn eu deall pan fyddwch yn cael eich bil ynni. Oni bai eich bod wedi gwneud mathemateg ddwbl ar gyfer Safon Uwch, nid wyf yn meddwl bod gennych obaith, ac efallai y bydd angen i chi fod wedi astudio...
David Melding: Gwnaf.
David Melding: A gaf fi ddechrau drwy fod yn gwrtais a chanmol menter Plaid Cymru yn defnyddio’r hyblygrwydd newydd yn adnoddau’r Cynulliad i gomisiynu prosiectau ymchwil? Yn gyffredinol, rwy’n meddwl ei fod yn syniad da ac er tegwch, rydych wedi cyflwyno eich syniadau a gallwn gael dadl ardderchog, rwy’n siŵr, ar y cynnig hwn. Felly, rwy’n credu bod angen mwy o hyn, ac rydych yn haeddu ymateb...
David Melding: Llawer iawn o fisoedd.
David Melding: A gaf fi ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad? Mae gorfodi deddfau lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd a physgodfeydd yn briodol yn bwysig iawn—mae’r rhain yn gyfrifoldebau pwysig. Ac wrth gwrs, gyda gorfodaeth effeithiol, ceir hunangydymffurfiaeth a chydymffurfiaeth naturiol gynyddol. Dyna, mae’n debyg, yw’r hyn rydym ei eisiau. Mae’r pwerau hyn wedi cael eu harfer gan...