David Melding: Ac rwy’n croesawu cronfa Dydd Gŵyl Dewi yn fawr iawn. Credaf fod honno’n ffordd arloesol a chreadigol o wella lles bywydau llawer o blant sy’n derbyn gofal. Tybed hefyd faint o argraff a wnaed arnoch gan ganfyddiadau’r comisiynydd fod angen i’r adran gwasanaethau cymdeithasol, yr adran dai a’r adran addysg gydweithredu a chydlynu eu gwaith i wella annibyniaeth y rhai sy’n...
David Melding: Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r safonau cyfranogiad cenedlaethol yn nodi beth y gall plant ei ddisgwyl gan y gwasanaethau y maent yn cymryd rhan ynddynt. Cafodd y safonau hyn eu hadolygu y llynedd yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac o ganlyniad, roedd angen diweddaru canllawiau er mwyn i awdurdodau lleol wella eu gwaith hunanasesu. Rwy’n meddwl tybed a yw’r canllawiau...
David Melding: Prif—Prif Weinidog? Ysgrifennydd y Cabinet—[Torri ar draws.] Oedd, roedd hwnnw’n ddyrchafiad cyflym. Pe bai pawb yn y byd yn defnyddio cymaint o adnoddau ag a wnawn yng Nghymru, byddai angen 2.5 planed arnom. Roeddwn yn edrych ar yr adroddiad ‘Ecological and Carbon Footprints of Wales’ gan Sefydliad Amgylcheddol Stockholm yn 2015, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, rwy’n falch o...
David Melding: Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a chroeso’n ôl, gyda llaw. Dyma fy nghyfle cyntaf i ddweud hynny wrthych. Nid ydym ond yn cynhyrchu oddeutu 10 y cant o’r hyn a ddefnyddiwn, felly mae’r diffyg gymaint â 90 y cant, yn sicr o ran ffrwythau a llysiau y gellir eu tyfu yn ein hinsawdd. Gyda 2 y cant o dir amaethyddol Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffrwythau a llysiau, er bod...
David Melding: 2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r diffyg ffrwythau a llysiau yng Nghymru? OAQ(5)0150(ERA)
David Melding: 6. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella ôl troed ecolegol amgylcheddau trefol Cymru? OAQ(5)0144(ERA)
David Melding: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwreiddio egwyddorion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ei gwaith? OAQ(5)0145(CC)
David Melding: 8. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o adroddiad Breuddwydion Cudd Comisiynydd Plant Cymru? OAQ(5)0144(CC)
David Melding: Fel cadeirydd grŵp Plaid Geidwadol Cymru a'r unig Aelod a etholwyd gyntaf yn 1999, anrhydedd trist yw traddodi’r deyrnged hon. Pan ddaeth Rhodri yn Brif Weinidog ym mis Chwefror 2000 roedd datganoli yn strwythur digon simsan. Roedd wedi ei gymeradwyo gan yr etholwyr o drwch blewyn yn unig, roedd diffyg arweinyddiaeth bendant ac nid oedd wedi creu Llywodraeth sefydlog. Darparodd Rhodri yr...
David Melding: A gaf fi ddweud y bydd y grŵp Ceidwadol yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru hefyd oherwydd ein bod yn credu bod angen i ni gael mynegiant unedig, ar ran y pleidiau eraill o leiaf? Rydym yn dehongli’r alwad am bolisi rhyngwladol cynhwysfawr fel un sy’n gweithio drwy sefydliadau Prydeinig megis y swyddfa dramor a’r Cyngor Prydeinig, rhag ofn y bydd pobl yn meddwl ein bod wedi mynd i ganlyn...
David Melding: Mae Llywodraeth y DU wedi cael gwared ar gymorth uniongyrchol i Lywodraethau. Nid yw’n digwydd rhagor. Rydym yn rhoi cymorth i bartneriaid rhyngwladol fel UNICEF, i sefydliadau, i elusennau Prydeinig sy’n gweithio yno, ac i fentrau cydweithredol a’u tebyg cyrff cymunedol eraill yn y gwledydd hyn. Nid ydym yn rhoi arian i Lywodraethau tramor fel cymorth.
David Melding: A gaf fi ddweud fy mod wedi fy nghyffroi’n fawr—roeddwn yn dal i fod yn yr ysgol mewn gwirionedd—pan gyflwynodd comisiwn Brandt eu hadroddiad? Rwy’n gwybod na fydd hyn yn ei wneud ronyn yn fwy apelgar i blaid benodol ond wrth gwrs, Edward Heath oedd un o’i brif aelodau. Sefydlodd y comisiwn y targed o 0.7 o’r cynnyrch gwladol gros y dylid ei neilltuo ar gyfer cymorth rhyngwladol....
David Melding: Nid wyf wedi newid fy marn, ac rwy’n synnu braidd eich bod wedi gwneud y cysylltiad hwn. Yr hyn sydd angen i ni gytuno yn ei gylch yw bod angen inni adeiladu mwy o gartrefi, ac mae angen i lawer o’r cartrefi hynny fod yn y sector cymdeithasol. Mae’n ymddangos i mi nad oes unrhyw anghytundeb am hynny yn y Siambr hon, ac ar hynny y dylem ganolbwyntio.
David Melding: Gallaf ddweud fy mod yn cydymdeimlo’n fawr â chynnig yr Aelod, a hyd nes y gwelais hyn ar y papur trefn nid oeddwn yn gwybod ei fod yn arfer mor gyffredin ag y deallwn yn awr. Ac rwy’n ei llongyfarch am gyflwyno syniad sy’n amlwg yn cyfeirio at angen mawr ar hyn o bryd, a ffordd o newid y gyfraith i’w gwneud yn llawer mwy addas i’r diben a diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed.
David Melding: Os yw’r arfer hwn yn amlwg—ac rwy’n credu ein bod wedi clywed tystiolaeth o hynny hyd yn oed yng Nghymru, ac mae’n sicr yn amlwg mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig—ac yn un sy’n tyfu, mae’n ddrwg gennyf ddweud, mae’n amlwg yn arfer sy’n foesol wrthun. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw un edrych ar ffeithiau’r mater hwn a theimlo fel arall. Fel y dywedodd Dawn, gall y...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, gwyddoch fod yr ystod eang o gyfarpar diagnostig newydd yn ddrud iawn ac yn effeithiol tu hwnt, gan arwain, weithiau, at fwy o archwiliadau, ac mae defnyddio’r cyfarpar newydd mor effeithlon â phosibl yn allwedd i leihau rhestrau aros—yn y nos, er enghraifft, ac ar benwythnosau, sy’n aml yn cynnig amseroedd apwyntiadau mwy cyfleus i bobl sy’n gweithio, er...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, canfu arolwg diweddar gan INRIX Roadway Analytics fod busnes yng Nghaerdydd yn cael ei effeithio’n arbennig o wael gan dagfeydd. Credaf fod angen inni fod o ddifrif ynglŷn â’r arolygon hyn ar lefel y DU. Nawr, un ffordd o leddfu traffig ar adegau prysur yw buddsoddi mewn gorsaf drenau parcffordd Caerdydd yn Llaneirwg, a chyfleusterau parcio a theithio...
David Melding: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd aros y GIG yng Nghanol De Cymru?
David Melding: Wel, rwy’n cymeradwyo'r astudiaeth honno, oherwydd, os edrychwch chi ar yr Almaen, mae parthau aer glân wedi bod yn hynod lwyddiannus yn eu dinasoedd nhw, gan leihau allyriadau huddygl o bibellau gwacau o fwy na 50 y cant yn Berlin, er enghraifft. Ond mae’r polisïau hyn yn gofyn am newid ymddygiad, annog beicio ac ati, mynediad at ardaloedd o ddinasoedd a pharcio am ddim i gerbydau...
David Melding: Gweinidog, mae addysg alwedigaethol yn bwysig iawn i blant sy’n derbyn gofal, ac a gaf fi groesawu’r newyddion da iawn a gawsom heddiw ynglŷn â nifer y plant sy’n derbyn gofal ac sy’n cyrraedd y trothwy cynwysedig Lefel 2, sef 23 y cant erbyn hyn? Mae hynny’n dal i fod 37 y cant yn is na’r grŵp cyfoedion, ac yn amlwg mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod mor agos â phosibl at y...