David Melding: Wel, Llywydd, ni fyddwch yn synnu nad wyf i wedi fy argyhoeddi yn llwyr gan amddiffyniad y Gweinidog, mewn gwirionedd, o gyndynrwydd y Llywodraeth, er gwaethaf y dystiolaeth a geir o’r pryderon gwirioneddol iawn. Un o'r ffynonellau a ddyfynnaf yw’r Goruchaf Lys. A gaf i, fodd bynnag, ddiolch iddi am ei gohebiaeth ac am o leiaf dweud wrthym beth yw safbwynt y Llywodraeth? Roedd hynny’n...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf welliant 30 yn fy enw i ac yr wyf yn siarad hefyd ynglŷn â fy ngwelliant 31. Mae gwelliant 30 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i awdurdodau gorfodi, cwnstabliaid a swyddogion awdurdodedig ar fynd i mewn i eiddo a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd, hynny yw, cartrefi pobl, o dan y Bil. Mae'n deillio o...
David Melding: Rwy’n cytuno â’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud o ran yr effaith debygol wirioneddol enfawr ar yr amgylchedd yn sgil dychwelyd at lo. Mae’n bwysig fod gennym gonsensws cyffredinol yn y Cynulliad hwn—un y mae Llywodraeth Cymru, rwy’n falch o ddweud, wedi’i roi ar waith o safbwynt polisi cyhoeddus—i ddatblygu economi carbon isel. Dyma’r peth iawn i’w wneud, ac nid ydym...
David Melding: Fel llawer o Aelodau Cynulliad heddiw, rwy’n meddwl fy mod yn gweld safbwynt UKIP yma yn un braidd yn rhyfedd. Mae’n rhyw fath o gymysgedd o lasganmol ac ystumio’r darlun braidd yn ddramatig. Ni allant gytuno’n hollol a yw cyfraniad Cymru i allyriadau yn 0.04 y cant, neu’n 0.005 y cant. Ond wrth gwrs, y broblem go iawn yw bod ein hallyriadau’n uwch na chyfartaledd y DU oherwydd...
David Melding: A gaf fi ganmol y pwyllgor plant—y Cadeirydd yn arbennig, ond yr Aelodau eraill hefyd—am gynhyrchu adroddiad mor eglur a phriodol? Rwy’n credu bod hwn yn graffu o ansawdd uchel, ac yn union y math o beth y dylai pwyllgorau Cynulliad ei wneud. Y mater allweddol, yn amlwg, yw’r hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn ymdrin â chwestiynau i gynyddu prif-ffrydio yn hytrach na chlustnodi. Mae...
David Melding: A ydych yn cytuno â mi mai’r pwynt allweddol yma yw bod yn arloesol? Yn amlwg, mewn sefyllfaoedd pan fo cyllidebau dan bwysau, mae’n rhaid inni edrych ar ffynonellau cyllid neu bartneriaethau eraill, ac o ystyried lefelau cyflogau prif weithredwyr ac uwch swyddogion gweithredol mewn llywodraeth leol—sy’n llawer uwch na chyflogau Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Phrif Weinidog...
David Melding: 7. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ag awdurdodau lleol i sicrhau defnydd arloesol o gyllid i ddiogelu gwasanaethau ieuenctid lleol? OAQ(5)0124(FLG)
David Melding: Diolch, Dirprwy Lywydd, am ganiatáu i mi gael fy ngalw. A gaf fi longyfarch Lee Waters am gynnig y cynnig hwn? Rwy’n credu ei fod yn gynnig craff iawn, a’r math o beth yn union sydd angen i ni drafod mwy arno, mewn gwirionedd, gan ddisgwyl a gadael i syniadau ffynnu. Rwy’n meddwl yn ôl pob tebyg y bydd y cyfnod rhwng 1945 a 1980 yn cael ei ystyried gan haneswyr fel oes fawr y...
David Melding: A gaf fi ddweud nad oes gan grŵp y Ceidwadwyr Cymreig unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i’r hyn y mae Simon yn bwriadu ei wneud, neu y byddai’n ei wneud pe bai’n cael cyfle i gyflwyno Bil yma? Fodd bynnag, rydym yn credu bod yr elfennau ymarferol yn chwarae rhan fawr iawn ac mae angen eu hystyried yn llawn, ac er tegwch, fe gyfeiriodd atynt yn ei araith. Ond rydym yn dechrau o’r...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn yn y maes hwn fod ein disgwyliadau a’n huchelgeisiau’n codi’n gyson, ac mae hynny’n beth da. Wrth gwrs, rydym wedi cyfrannu comisiynydd plant a’r strategaeth chwarae gyntaf, ac er tegwch i’r Llywodraeth yn y fan hon, rydym wedi mabwysiadu’r cyfnod sylfaen. Ond mae angen i ni edrych ar awdurdodaethau eraill yn ogystal i...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, canfu un o astudiaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau fod y bobl sydd ar gredyd cynhwysol 8 y cant yn fwy tebygol o ddod o hyd i swydd o fewn 270 diwrnod na’r bobl a oedd wedi hawlio lwfans ceisio gwaith. Felly, mae rhai agweddau ar y cynllun newydd hwn sy’n bendant yn gweithio. Gobeithio y byddwch cystal â chydnabod hynny.
David Melding: Rwyf wedi bod yn garedig gyda chi hyd yn hyn, ond nodaf eich sylw pryfoclyd. [Chwerthin.] Mewn ymgais i gyrraedd consensws, yn ôl yr adroddiad, er mwyn annog rhagor o gynlluniau sy’n eiddo i’r gymuned, mae angen inni ystyried rhagor o ddefnydd o fentrau cydweithredol er mwyn denu cyllid. Mae siarad mawr gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn ac mae’n cael llawer o gefnogaeth ar draws y...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, cyhoeddodd y Sefydliad Materion Cymreig eu hadroddiad ar ariannu prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru—yma yn y Neuadd, rwy’n falch o ddweud—ac roedd yn nodi’r anhawster i godi cyfalaf, neu’r anhawster penodol yng Nghymru. A hoffwn ofyn i chi a fydd Llywodraeth Cymru yn nodi argymhellion yr adroddiad hwn ac yn ymateb iddynt...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei dulliau’n uchelgeisiol yn ei holl weithgaredd er mwyn datblygu strategaeth ynni cynaliadwy, ac er bod gan Lywodraeth y DU rôl i’w chwarae hefyd, i ganolbwyntio ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud o ran ardrethi busnes, ond hefyd y sector cyhoeddus, sy’n brynwr ynni mawr, a bod angen i ni...
David Melding: Rwy'n meddwl bod dechrau gyda'r syniad o bartneriaeth strategol yn bendant yn ddechreuad gwell. Rydym, mewn meysydd eraill o bolisi cyhoeddus, yn edrych ar y manteision o bartneriaeth strategol, ond rwyf eisiau pwysleisio'r angen am annibyniaeth ddeallusol a'r gallu i feddwl yn greadigol. Mae'r rhain yn ganolog i sefydliadau treftadaeth, yn arbennig yr amgueddfa ac orielau cenedlaethol a'r...
David Melding: Wel gadewch imi ddefnyddio'r iaith fel y mynnaf. 'A gyda llaw, yr hyn yr hoffem i Lundain ei gael yw’r holl ymrwymiadau i ariannu’r polisïau yr ydym nawr yn mynd i’w rhoi ar waith.' A dweud y gwir, os nad oes gennym gymwyseddau swyddogaethol ar y lefelau sydd eu hangen arnom, sef y ddadl pro-Ewropeaidd a fu gennym erioed—nawr rydych chi’n Brexiteer bach wrth ddweud, 'Na, na, mae'n...
David Melding: [Yn parhau.]—marchnad fentrus integredig. Gwnaf.
David Melding: Wel, dywedodd gwas sifil doeth wrthyf unwaith mai’r gwir brawf o aeddfedrwydd yw'r gallu i fyw â pharadocs, ac rwyf wir yn meddwl bod yn rhaid inni gydnabod mai—. Wyddoch chi, y gwir mawr yma yw, yn 1997/8/9, pan symudodd y wlad hon at ddatganoli a Llywodraeth ddatganoledig, mai’r fframwaith oedd ein bod o fewn gwregys yr Undeb Ewropeaidd. Nid oedd unrhyw un yn meddwl ar y pryd—ar...
David Melding: Ym mis Mehefin 2017 dywedodd y dinasyddion, o fwyafrif bach ond digonol, ddau beth, rwy’n credu, wrthym. Nid oedden nhw eisiau aros yn rhan o lywodraethu Ewropeaidd. Rwy’n gwybod ein bod yn clywed yn aml am ein bod yn dal i fod yn Ewropeaid—wrth gwrs ein bod, ac rydym yn rhan o'r etifeddiaeth ddiwylliannol fawr honno, ond rydym wedi pleidleisio i gael gwared ar lywodraethu Ewropeaidd a...
David Melding: Prif Weinidog, rwy'n clywed, hyd yn hyn, y trefnwyd naw digwyddiad ymgysylltu, pum digwyddiad wedi'u targedu, a phedwar digwyddiad ymgysylltu ffurfiol arall, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod, neu’n bwriadu bod yn bresennol, ym mhob un o'r digwyddiadau ymgysylltu hyn. A allwch chi gadarnhau bod hynny'n wir? Byddwn yn gofyn sut y mae’r safbwyntiau hyn yn cael eu hadrodd yn ôl ac o...