Baroness Mair Eluned Morgan: I fod yn glir, caiff y porth cyngor cyflogaeth ei anelu at bobl economaidd anweithgar, di-waith a NEETs, ond mae Gyrfa Cymru ar gael i bawb, a'r un sefydliad ydyw. Felly, mae'r Cyngor, a'r posibilrwydd o fynd at Gyrfa Cymru am gyngor yn bodoli ac mae ar gael i unigolion ar hyn o bryd. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd yw ein bod yn edrych ar dlodi mewn gwaith. Mae honno'n broblem...
Baroness Mair Eluned Morgan: O ran targedau, rwy'n ymwybodol iawn mai'r hyn sydd gennym ni yma yw'r prif dargedau a byddaf yn gweithio gyda swyddogion i wneud yn siŵr ein bod yn cael targedau mwy penodol a'n bod yn eu torri i lawr, fel na fyddwn yn dod ar eu traws yn sydyn 10 mlynedd o nawr. Mae credu ei bod yn werth inni nodi, mewn gwirionedd, na allwn gyflawni hyn i gyd ar ein pennau ein hunain. Felly, os aiff yr hwch...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, yn gyntaf i gyd, rwy’n falch eich bod chi’n cydnabod bod hwn yn uchelgeisiol achos mae e, ond rwy’n meddwl dylem fod yn uchelgeisiol. Rwy’n meddwl dylem fod yn glir ynglŷn â ble rŷm ni eisiau cyrraedd. Nid ydym yn mynd i wneud hyn dros nos, ond beth oedd yn really bwysig i fi oedd ein bod ni’n hollol glir o ran ble roeddwn i eisiau cyrraedd a’n bod ni’n...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch ichi, Mohammad. Credaf fod rhai o'r targedau wedi cael eu nodi yn y ddogfen, felly gallwch fod yn sicr o'r llwybr a ddilynir yn y fan honno. Byddaf yn ceisio sicrhau mwy o fanylder; rwy'n credu ei bod yn bwysig inni edrych ar yr effaith ranbarthol, a sut olwg sydd ar bethau yn rhanbarthol, felly byddwn yn monitro hyn mewn ffordd gydlynol iawn. Ond byddwn yn gwneud hynny mewn modd...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae’r cynllun yma yn cynnig y weledigaeth hirdymor a’r fframwaith cenedlaethol sydd ei angen ar Gymru i helpu pobl i fyd gwaith heddiw, gan baratoi ar yr un pryd ar gyfer y newidiadau radical yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau ledled Cymru i gyflwyno camau gweithredu sydd yn y cynllun yma.
Baroness Mair Eluned Morgan: Ein nod yw cynnig cyfleoedd i greu unigolion cydnerth sy'n meddu ar sgiliau, brwdfrydedd, penderfyniad a chreadigrwydd i wireddu eu potensial, beth bynnag fo'u gallu, eu cefndir, eu rhyw neu ethnigrwydd. Mae'r cynllun hwn yn olwg tymor hwy ar sut y gallwn wireddu'r weledigaeth hon, a byddwn yn cymryd camau mewn pedwar maes allweddol. Yn gyntaf, byddwn yn darparu cymorth unigol ar gyfer y rhai...
Baroness Mair Eluned Morgan: Gan adeiladu ar y cynllun gweithredu ar yr economi, rŷm ni’n dynodi ac yn hyrwyddo llwybrau cynnydd o ran gyrfa a chyfleoedd datblygu o fewn sectorau’r economi sylfaenol. Yn rhan o’n nod o gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rŷm ni’n annog cyflogwyr hefyd i gydnabod sgiliau a chyfraniad gweithwyr Cymraeg eu hiaith. Mae cydnabod Cymraeg fel sgìl yn rhywbeth mae'n rhaid...
Baroness Mair Eluned Morgan: Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Cymru yn economi gyflogaeth lawn, uwch-dechnoleg, â chyflogau uchel ynddi. Rydym yn awyddus i fwy o bobl ymuno â'r byd gwaith neu ddychwelyd iddo. Rydym eisiau gweithlu mwy cynhwysol, gyda niferoedd uwch o bobl anabl mewn gwaith, a gostyngiad yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn ogystal â'r bwlch cyflog o ran pobl anabl, pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n dda gen i lansio'r cynllun cyflogadwyedd heddiw, ac a gaf i ddechrau trwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniadau nhw wrth ddatblygu’r cynllun, achos mae'r cynllun yma yn gynllun traws-lywodraethol? Un o brif gyfrifoldebau Llywodraeth yw addysgu, hyfforddi a pharatoi pobl ar gyfer y byd gwaith. Mae cael gweithlu mwy o faint a mwy cynhwysol yn dda i hybu...
Baroness Mair Eluned Morgan: Ond eto, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwneud lot o waith yn y maes yma yn barod. Felly, mae lot o waith eisoes yn cael ei wneud. Felly, ni allwn ddiystyru'r pethau eraill sy'n digwydd. Dim ond safonau yw'r rhain, a phan wnes i siarad yn y cyflwyniad agoriadol, dywedais fod yn rhaid inni edrych ar y safonau hyn mewn cyd-destun sydd lot yn ehangach. Ond, rwy'n gobeithio nawr y gallwn ni...
Baroness Mair Eluned Morgan: Gwnaf.
Baroness Mair Eluned Morgan: Beth rwy'n gobeithio y bydd yn digwydd nawr yw y bydd y comisiynydd yn siarad gyda'r gwasanaethau yma ac yn gweld beth sy'n ddelfrydol ac yn gwthio nhw yn yr ardaloedd lle mae hi efallai'n meddwl y gallwn ni wthio pobl ymhellach. O ran gofal sylfaenol, bydd y gofal a fydd yn cael ei roi yn uniongyrchol gan y byrddau iechyd yn dod o dan y safonau. Mae yna fater ymarferol ynglŷn â sut rydym...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, a diolch, yn gyntaf, i'r pwyllgor am yr adroddiad. Rydw i'n ymwybodol iawn nad ydych chi wedi cael lot o amser i edrych ar hyn, ond rydym ni wedi cydymffurfio â'r 21 diwrnod sydd fel arfer yn cael eu cydnabod. Ond rydw i yn derbyn efallai y gallwn ni edrych ar ehangu hynny, os mae hynny wedi creu problem y tro yma. Ond dyna'r ffordd y mae wastad wedi cael ei wneud. O ran...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Mae’n bleser mawr cael agor y drafodaeth hon ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018. Mae’r rheoliadau yn caniatáu Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau ar fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau iechyd, cynghorau iechyd cymunedol a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru. Maent yn gyrff sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd, ac ymhlith prif gyflogwyr Cymru. Bydd y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n falch o glywed y cwestiwn hwnnw, oherwydd credaf fod angen inni gydnabod y Gymraeg fel sgil yn ogystal â phethau eraill. Po fwyaf y gofynnwn i wahanol sefydliadau gadw at y safonau, y mwyaf y bydd angen inni recriwtio pobl â'r sgiliau angenrheidiol i roi'r cynlluniau hynny ar waith. Felly, ceir ymwybyddiaeth fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei bwysleisio. Rydym yn rhoi llawer...
Baroness Mair Eluned Morgan: i ddefnyddio'r Gymraeg mewn ffordd, efallai, i'w helpu nhw i ddeall ei bod hi'n rhan bwysig o'r sgiliau sydd ganddyn nhw hefyd.
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, mae lot fawr o bethau cyffrous yn digwydd yn y maes yma eisoes. Rŷm ni yn cael diwrnodau lle rŷm ni'n annog pobl ifanc i gael go—'Have a go' days—ac mae miloedd ar filoedd o blant ifanc wedi mynd i'r llefydd yma lle maen nhw'n cael access i weld pa fath o gyfleodd sydd yna ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Mae iechyd yn rhan o hynny. Mae'n rhaid i ni hefyd, wrth gwrs, bwysleisio'r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae Gyrfa Cymru yn wasanaeth gyrfaoedd diduedd sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i bobl ifanc ac oedolion. Mae hefyd yn hwyluso cysylltiadau rhwng addysg a chyflogwyr. Mae’r gwasanaeth wrthi’n cael ei ddiwygio ar hyn o bryd mewn ffordd eithaf cyffrous, a bydd mwy fyth o ffocws ar weithio gyda phobl ifanc a rhanddeiliaid ac ar ddatblygu gwasanaethau digidol.
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, nid yw 'Dyfodol Llwyddiannus' yn cyfeirio'n benodol at ddysgwyr ôl-16, ond rwy'n derbyn y pwynt ei bod yn bwysig sicrhau perthynas a bod pobl yn deall y dilyniant angenrheidiol rhwng ysgol ac addysg bellach. Felly, rydym wedi gofyn i Colegau Cymru bennu set o argymhellion ar yr hyn y gall addysg bellach ei wneud i ddatblygu cwricwlwm newydd, ond credaf mai'r pwynt arall yw...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae adolygiad yr Athro Donaldson, 'Dyfodol Llwyddiannus', wedi arwain at oblygiadau pellgyrhaeddol a radical ar gyfer y system addysg yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i ddatblygu'r cynllun a'r amserlen gyffredinol. Mae'r ffocws ar y sgiliau hanfodol a'r sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen ar bobl ifanc yn y dyfodol.