Baroness Mair Eluned Morgan: Mae’n bwysig ein bod ni’n gweld gwell cydweithrediad rhwng ysgolion ac addysg bellach. Wrth gwrs, rŷm ni'n edrych ar sut rŷm ni'n gallu gweld y cydweithredu yna drwy PCET, y newidiadau byddwn ni’n eu gweld yn y dyfodol. Byddwn ni’n cymryd cystadleuaeth mas o’r system achos mae honno’n gallu creu problem ar hyn o bryd. Ond rydw i’n meddwl ei fod yn werth dweud bod—mae yna...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae 'Symud Cymru Ymlaen', rhaglen y Llywodraeth hyd at 2021, yn nodi’n glir ein bod yn credu bod ffyniant a sefydlogrwydd ein cenedl yn y dyfodol yn dibynnu ar sgiliau a gwerthoedd ein pobl. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod bod dysgu yn y sector addysg bellach, p'un ai’n ddysgu gydol oes, yn ddysgu rhan-amser, neu’n ddysgu seiliedig ar waith, yn hanfodol i ffyniant unigolyn ac i ffyniant y...
Baroness Mair Eluned Morgan: A gaf fi dynnu sylw at y ffaith eich bod, pan fyddwch ar gwrs prentisiaeth, yn derbyn incwm, ac mae unrhyw incwm, mewn egwyddor, yn drethadwy? Felly, mae'n rhaid inni fod yn sensitif. Rydym wedi edrych ar beth sy'n bosibl, gan y cydnabyddir fod hwn yn fudd trethadwy. Felly, nid ydym yn cymharu afalau gydag orennau, rydym yn sicrhau mewn gwirionedd nad yw'r bobl hyn yn mynd i fwy o...
Baroness Mair Eluned Morgan: A gaf i jest ddweud ein bod ni wedi edrych mewn i'r mater yma? Un o'r problemau yw gan fod hwn yn fater lle rydym ni'n rhoi arian ychwanegol, gallai hynny gael ei weld fel taxable benefit, ac mae hynny'n creu problem achos nid yw'r cymorth yma ar gael i bob un. Felly, beth nad ydym eisiau ei weld yw sefyllfa lle maen nhw'n cael arian wedi'i gymryd oddi wrthyn nhw achos ein bod ni'n rhoi'r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rydym ni’n cymryd lles prentisiaid o ddifrif ac rydym ni’n cydnabod y gall costau teithio fod yn rhwystr i brentisiaid ifanc, er mai rhaglen â chyflog yw hon. Byddwn yn edrych ar ba gyfleoedd sydd ar gael i gael gwared ar unrhyw rwystrau i atal mynediad i’r rhaglen, a byddwn yn cynnwys costau teithio.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Mae yna gynllun gweithlu yn ei le. Rydym ni wedi ei gwneud yn hollol glir faint o athrawon fydd eu hangen yn ystod y blynyddoedd nesaf. Fy ngobaith i, ar hyn o bryd, yw sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod yna £5,000 ychwanegol os ydyn nhw'n awyddus i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yn cael gwybod am hynny achos nawr yw'r amser y mae pobl yn dechrau...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, i ddechrau, mae'n rhaid i ni edrych ar beth sy'n bodoli heddiw. Rydw i'n meddwl bod yn rhaid i ni edrych ar fwy o adnoddau ar gyfer athrawon sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith, ac rydw i wedi bod yn siarad yn uniongyrchol ag athrawon sydd yn y dosbarthiadau ac yn gofyn iddyn nhw yn union beth yw'r pethau y bydden nhw'n hoffi eu gweld fel help. Felly, mae fy swyddogion i'n edrych ar beth...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr am y cwestiwn. Byddwch chi yn ymwybodol ein bod ni wedi cael adroddiad Donaldson ers hynny a bod rhaid i ni ystyried y newidiadau yng nghyd-destun Donaldson. A allaf i wneud hi'n glir na fyddaf i'n barod i jest aros tan bod Donaldson yn ei le? Rydw i'n meddwl bod hwn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd ar ei ôl nawr. Rydw i wedi gofyn, heddiw, fel mae'n digwydd bod, i'm...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Un o'r pethau rwy'n awyddus i'w gwneud yn y cynllun gweithredu cyflogadwyedd yw sicrhau ein bod yn cysylltu â'r dull rhanbarthol newydd hwn. Felly, roedd yr hyn a glywsom ddoe gan Ysgrifennydd yr economi o ran, 'Iawn. Dyma'r flaenoriaeth. Rydym am ranbartholi'—gwyddom fod yna raglen ddatblygu economaidd, ac wrth gwrs, mae'n rhaid i'r sgiliau gyd-fynd â'r rhaglen honno....
Baroness Mair Eluned Morgan: Credaf fod rhai o'r ffigurau hynny yn achos pryder mawr, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn canolbwyntio'n benodol ar y meysydd hynny lle y mae angen inni sicrhau y gallwn wella'r sefyllfa. Awgryma'r ymweliadau diweddar gan awdurdodau lleol fod cynnydd da'n cael ei wneud yn gyffredinol o ran pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ond yr hyn sydd angen inni ei wneud yw...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, ers lansio ein fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid yn 2013, mae canran y bobl ifanc sy’n gadael ysgol nad ydynt yn mynd i mewn i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Ngorllewin De Cymru wedi gostwng o 4 y cant i 2.3 y cant. Mae ein hymrwymiad ni i’r fframwaith yna yn parhau, a dyna pam rŷm ni wedi buddsoddi £1.1 miliwn yn ychwanegol eleni ac rŷm ni’n dal i gefnogi...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, rŷch chi’n eithaf reit. Un o’n targedau ni yw sicrhau bod pobl ddim jest yn gallu siarad Cymraeg, ond eu bod nhw actually yn defnyddio’r Gymraeg, ac felly mae e’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r cyfleoedd hynny. Mae busnesau bach—mae sicrhau bod pobl yn ymwybodol eich bod chi’n gallu defnyddio’r Gymraeg pan fyddwch chi’n delio â busnes yn hollbwysig. Felly, mae yna...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, rŷm ni yn cydweithredu. Rydw i’n meddwl mai’r peth cyntaf i’w ddweud yw bod yna ddealltwriaeth bod yn rhaid i chi ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar yna, ac mae’n deg i ddweud bod strategaeth gyda ni mewn lle ar gyfer gofal plant, ac mae’n bwysig, mae’n hanfodol—ar gyfer pob peth sy’n mynd trwy’r Llywodraeth nawr, mae e’n gofyn beth ŷch chi’n ei wneud i...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Mae cynlluniau a thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg wedi’u cynnwys yn rhaglen waith 2017-21 strategaeth 'Cymraeg 2050'.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Rhianon. Yn sicr. Rydym yn ceisio gweithio'n drawsadrannol. O ystyried bod gennym gyllideb o oddeutu £15 biliwn, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o bob ceiniog, ac mae gweithio'n drawsadrannol yn gwneud synnwyr llwyr. Yr hyn rwyf wedi bod yn ei wneud yw cyfarfod yn annibynnol ac yn unigol gyda gwahanol Weinidogion i sicrhau eu bod yn canolbwyntio...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar yr agwedd yma o salwch meddwl. Mae yna gymaint o hynny'n digwydd yng Nghymru, ac mae'n bwysig ein bod ni yn sicrhau ein bod ni'n gweithio i'r unigolyn a sicrhau ein bod ni'n newid pethau ar gyfer yr unigolyn. Beth rydym ni'n trio ei wneud yn y cynllun newydd yma yw sicrhau ein bod ni'n gweithio ar draws y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Yn sicr. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r agenda hon. Yn y flwyddyn newydd, fe welwch y byddwn yn cyflwyno cynllun gweithredu cyflogadwyedd, a bydd rhan o'r cynllun gweithredu hwnnw yn ymwneud â sicrhau bod pobl—. Mae gennym raglen arbennig, Cymru'n Gweithio, a phan fydd pobl yn dod drwy borth penodol—bydd pawb yn dod drwy borth penodol, gan fod cymaint o wahanol raglenni ar...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau, yn y cymunedau mwyaf difreintiedig, ein bod yn cynnig cymorth wedi'i deilwra, a'n bod yn ymwneud llawer â'r cymunedau. Rydym yn rhoi cymorth i aelwydydd di-waith, i aelwydydd heb waith, i bobl sy'n anabl, wedi colli eu swyddi, ac wrth gwrs, i bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Ac rydym yn mentora a chefnogi pobl i sicrhau eu bod...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, rydw i'n meddwl beth sydd angen inni edrych arno yw ble mae'r llwyddiant wedi bod ynghylch twf iaith. Mae yna enghreifftiau yn Ewrop: mae Gwlad y Basg, er enghraifft, wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydw i'n siŵr bod yna enghreifftiau eraill. Byddaf i'n mynd ati nawr i edrych ar y rheini. Ond beth sy'n bwysig, rydw i'n meddwl, yw ein bod ni jest yn cadw'n golwg ni ar—. Mae'n gwestiwn o...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, nid wyf yn Ysgrifennydd Cabinet, ond fe wnaf i ymateb i'r cwestiwn, a hynny yw bod yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, wrth gwrs, wedi dod i ben tua 15 diwrnod yn ôl. Mae amser gyda ni nawr i fynd drwy'r ymatebion ac fe fyddwn ni'n dod â rhyw fath o ymateb yn ystod yr wythnosau nesaf.