Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rydw i’n falch i dalu fy nheyrnged i hefyd i Rhodri—cawr ein cenedl ni. Roedd yn wladgarwr, yn sosialydd democrataidd, ymarferol sydd wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol yn ein gwlad ni. Mi ddaeth e â sefydlogrwydd i’r lle yma mewn cyfnod cythryblus dros ben. Mae fy hanes i gyda Rhodri yn mynd yn ôl i’r 1980au, pan oeddwn i’n falch dros ben taw ein cangen ni o’r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy’n credu ei bod yn werth nodi bod yr addewidion gwag hyn, yn wir, yn wag.
Baroness Mair Eluned Morgan: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Baroness Mair Eluned Morgan: A yw’r Aelod yn meddwl bod yr addewidion hynny’n swnio braidd yn wag, mewn gwirionedd, yn enwedig yn achos Cylchffordd Cymru? Oherwydd maent yn esgus cefnogi, ond mae eu prif weithredwr wedi dweud ar goedd mai prosiect Cylchffordd Cymru yw’r prosiect mwyaf chwerthinllyd a dinistriol erioed. Dyna brif weithredwr Plaid Cymru. O ble y daw hynny? O flog. Blog sydd bellach wedi’i dynnu i...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod y digwyddiad yr wythnos diwethaf wedi codi llawer o gwestiynau, ac yn bwysicaf, oll sut y byddwn yn diogelu ein cleifion yn y GIG. Fel y dywedwch, mae’r adroddiadau wedi awgrymu bod 47 o ymddiriedolaethau yn Lloegr wedi cael eu heffeithio, a 13 yn yr Alban, am eu bod wedi methu cymhwyso diweddariadau diogelwch a allai fod wedi’u...
Baroness Mair Eluned Morgan: Pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi bod y seilwaith TG yng Nghymru wedi’i ddiogelu, a sicrhau gofal parhaus i gleifion Cymru yn dilyn yr ymosodiadau seibr yn y GIG yn Lloegr? TAQ(5)0173(HWS)
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae hynny’n braf i’w glywed, ond credaf hefyd y dylid tanlinellu’r pwynt nad heriau economaidd yn unig y mae’r GIG yn eu hwynebu; ceir problemau penodol mewn perthynas â recriwtio. Ac yn ogystal â mewn rhannau o Loegr, ceir problemau penodol yn y Gymru wledig mewn perthynas â recriwtio, lle mae bwrdd iechyd Hywel Dda, er enghraifft, wedi ymrwymo i ailgyflwyno’r gwasanaeth...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Clywsom yn ystod y refferendwm fod cefnogwyr Brexit fel R.T. Davies a Neil Hamilton wedi gwneud addewid ar ôl addewid—[Torri ar draws.]—ie, a chi, Janet Finch-Saunders, digon teg; fe wnaethoch chi’r addewidion hynny hefyd. Credaf fod angen dweud bod yr addewidion hynny wedi’u gwneud i ffermwyr Cymru a phobl Cymru, addewidion na fyddent yn gweld toriad...
Baroness Mair Eluned Morgan: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y gall Cymru wledig hybu ei heconomi? OAQ(5)0172(EI)
Baroness Mair Eluned Morgan: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu’r gwasanaeth iechyd sydd ei angen ar bobl Cymru yng ngoleuni’r heriau economaidd presennol? OAQ(5)0172(HWS)
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae gan Lywodraeth Cymru amcan i weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y nod yna, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gael cymaint o blant â phosibl yn dechrau eu haddysg nhw trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel rŷch chi wedi’i ddweud, mae’n anodd ichi drafod y mater uniongyrchol yma, ond jest fel mater o egwyddor, a ydych chi’n cydnabod yn yr ardaloedd cefn gwlad hynny ei bod...
Baroness Mair Eluned Morgan: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fabwysiadu'r cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru?
Baroness Mair Eluned Morgan: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai yng Nghymru?
Baroness Mair Eluned Morgan: Byddai’n dda gennyf pe baech yn dangos parch ataf fi, mewn gwirionedd. Mae’n iawn dangos parch at y Llywydd, ond hoffwn innau ymddiheuriad hefyd.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Hoffwn ofyn i’r Prif Weinidog am ei ddehongliad o’r llythyr a anfonwyd. Un o’r pwyntiau a wnaed oedd bod y Prif Weinidog wedi dweud y byddai’n cyflawni ei chyfrifoldebau fel aelod-wladwriaeth. A yw hynny’n golygu y bydd Llywodraeth y DU yn cyflawni ymrwymiadau a wnaed gydag aelod-wladwriaethau eraill, ac a allwn ddisgwyl talu biliau mawr felly? Roeddwn...
Baroness Mair Eluned Morgan: A yw’r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod heddiw yn ddiwrnod hynod o drist i’r genedl, a hefyd i’n plant a phlant ein plant? Ac wrth gwrs, y rhai a fydd yn talu’r pris uchaf am erthygl 50 fydd y rhai sydd leiaf abl i’w fforddio.
Baroness Mair Eluned Morgan: Tybed a allai’r Prif Weinidog ddweud wrthyf beth yw ei ddehongliad—[Torri ar draws.]
Baroness Mair Eluned Morgan: Nid yw Cylchffordd Cymru, wrth gwrs, yn gofyn am arian uniongyrchol, gan mai buddsoddiad preifat yw’r £425 miliwn. Maent yn chwilio am warant—am hynny y mae’r prosiect yn aros. Ac ar ôl rhoi pwysau eithafol ar Cylchffordd Cymru i sicrhau ymrwymiad o fewn pythefnos, pa hyder y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i fuddsoddwyr a chefnogwyr brwd y prosiect y bydd penderfyniad yn cael ei...
Baroness Mair Eluned Morgan: 6. Pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ar Gylchffordd Cymru? OAQ(5)0155(EI)
Baroness Mair Eluned Morgan: A wnewch chi dderbyn ymyriad?