Mark Isherwood: Os caf ofyn dau gwestiwn yn ymwneud â’ch datganiad: rydych yn cyfeirio at ymchwiliad y pwyllgor i’r canlyniadau addysgol ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig. Tybed a allwch ddweud wrthyf a gymeroch dystiolaeth gan Ysgol Uwchradd John Summers yn Sir y Fflint, sydd wedi chwarae rhan fawr ac arweiniol wrth ymgysylltu â’r gymuned Sipsiwn/Teithwyr leol a gwella...
Mark Isherwood: Wel, fel y clywsom, yn y 1970au a’r 1980au, cafodd cynhyrchion gwaed a ddarparwyd i gleifion gan y GIG eu halogi â HIV neu hepatitis C. Cafodd tua 4,670 o gleifion sydd â’r anhwylder ceulo gwaed, hemoffilia, eu heintio, ac mae dros 2,000 wedi marw yn y DU o effeithiau’r firysau ers hynny, ac fel y clywsom, roedd 70 ohonynt yng Nghymru. Mae Llywodraethau olynol yn y DU wedi gwrthod...
Mark Isherwood: A wnewch chi gydnabod—[Anghlywadwy.]—nad oes angen i chi fynd yn ôl ymhellach na phum mlynedd at yr adeg yr oedd Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn anelu ymgyrchoedd at Aelodau’r Cynulliad yn eu rhybuddio y buasem yn cyrraedd y fan hon, fod 90 y cant o gysylltiadau cleifion yn gysylltiadau ag ymarfer cyffredinol ac eto fod cyllid fel cyfran o...
Mark Isherwood: Fel y dywedodd HSBC wrthyf pan gefais gyfarfod â nhw y llynedd i drafod cau’r banciau yn Sir y Fflint, ac fel yr atebodd NatWest i mi wrth i mi eu gwrthwynebu ac ysgrifennu atynt am gau’r gangen yn Nhreffynnon, ac fel y mae’r Yorkshire Building Society yn ei ddweud nawr, y newid o ddefnyddio gwasanaethau mewn banc i ddefnydd digidol yw’r rheswm am hyn. Wrth gwrs, mae hynny—fel y...
Mark Isherwood: Galwaf am ddatganiad unigol ar ganser ceg y groth, gan gydnabod mai Wythnos Atal Canser Ceg y Groth oedd hi’r wythnos diwethaf. Roedd yn tynnu sylw at y ffaith, er ei bod yn bosibl atal canser ceg y groth i raddau helaeth, mae nifer y menywod sy'n cael diagnosis o’r clefyd yng Nghymru yn bryderus o uchel, ac mae'r nifer sy'n mynd i gael sgrinio serfigol ar ei isaf ers 10 mlynedd. Mae mwy...
Mark Isherwood: Diolch. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach ar sail, fel y clywsom, oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Dywed yr adroddiad cydraddoldeb blynyddol hwn fod gwerthusiad Llywodraeth Cymru o'r cynllun...
Mark Isherwood: Mae grant byw'n annibynnol Cymru yn helpu pobl anabl i fyw'n annibynnol. Bythefnos yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog wrthyf fod y penderfyniad i drosglwyddo hyn i awdurdodau lleol yn dilyn cyngor gan grŵp cynghori rhanddeiliaid Lywodraeth Cymru. Ond mae sefydliad aelodaeth Anabledd Cymru yn cynghori na chafodd y dewis a ffafriwyd ganddynt o gronfa byw'n annibynnol Cymru ei gynnwys ar gyfer...
Mark Isherwood: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoli coetiroedd yng Nghymru?
Mark Isherwood: Croesawaf gyfeiriad Huw Irranca-Davies at adroddiad, canfyddiadau ac argymhellion Age Cymru. Fe gyfeirioch at yr ymgynghoriad ar gynllun tlodi tanwydd seiliedig ar alw ar gyfer y dyfodol, ond mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru wedi mynegi pryderon y bydd cyflwyno gofynion oedran yn y meini prawf cymhwysedd a gynigir yn atal llawer o gartrefi mewn tlodi tanwydd sy’n gymwys ar hyn o bryd rhag...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Wrth gwrs, roedd Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc yn gorff sy’n derbyn grantiau a gafodd gyllid uniongyrchol. Ar ôl i’r chwythwr chwiban gael eu cyfiawnhau, gyda chefnogaeth Janet Ryder, Eleanor Burnham a minnau, mentraf ddweud, a chafwyd euogfarnau yn y llys, cawsom ddau Adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru hefyd, un ar Blas Madoc yn benodol ac un ar Cymunedau yn Gyntaf...
Mark Isherwood: Wel, wrth gwrs, y pryder penodol oedd a oedd hwn yn gorff sy’n derbyn grantiau, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru yr holl flynyddoedd yn ôl o ran sicrhau bod rheolaethau effeithiol ar waith. Ond i symud ymlaen at fater cysylltiedig, fel y soniais wrthych o’r blaen, mae ffigurau’r ONS a gyhoeddwyd fis Gorffennaf diwethaf yn dangos bod gan...
Mark Isherwood: Rwy’n cytuno, oherwydd, yn anffodus, fel y gwyddoch, mae gan Gymru dlodi plant gwaeth na’r Alban, Gogledd Iwerddon a phob un ond dau o’r naw rhanbarth yn Lloegr. Rydym o leiaf wedi codi’n uwch na dau o’r rhanbarthau—Llundain a Dwyrain Canolbarth Lloegr rwy’n credu. Ond yr wythnos diwethaf, dywedodd coleg brenhinol y pediatregwyr mai tlodi oedd y bygythiad mwyaf i iechyd plant...
Mark Isherwood: Mae 11 mlynedd bellach ers i mi lansio CHANT Cymru ar gais ymgyrchwyr ledled Cymru a oedd yn ymladd dros gadw gwelyau lleol mewn ysbytai cymuned. Roedd ymgyrchwyr yn erbyn cau Ysbyty Cymuned Chatsworth House ym Mhrestatyn wedi gofyn i mi ffurfio CHANT Cymru—Ysbytai Cymuned yn Gweithredu’n Genedlaethol Gyda’i Gilydd—i ddod â grwpiau lleol at ei gilydd o bob rhan o Gymru a oedd yn...
Mark Isherwood: A wnewch chi ildio? A fuasech yn cytuno, gan gydnabod—[Anghlywadwy.]—bod angen adnewyddu hen adeiladau anaddas, na ddylid bod wedi gwneud hynny heb bontio a heb fod gwelyau eraill ar gael yn eu lle?
Mark Isherwood: Roeddwn yn cyfeirio at 2006, pan oedd yn amlwg iawn fod yna raglen o’r fath yn bodoli. Dyna pam y trefnwyd ymgyrch, gyda channoedd ar gannoedd o feiri a thrigolion ar y grisiau y tu allan. Yn baradocsaidd, ac yn rhyfedd, yn 2011, roedd y rhaglen gau a gyhoeddwyd gan y byrddau iechyd yr un fath yn union ag ymgyrch gau Llywodraeth Lafur Cymru bum mlynedd ynghynt.
Mark Isherwood: Nid yw tua 40 y cant o blant yn ymweld â'r deintydd yn rheolaidd o hyd. Mae traean o blant sy’n dechrau yn yr ysgol bob blwyddyn eisoes yn dangos arwyddion o bydredd dannedd, a dyma’r un rheswm mwyaf cyffredin pam mae’n rhaid i blant rhwng pump a naw oed gael eu derbyn i'r ysbyty. O gofio bod yr uned ddeintyddol symudol hon yn y gogledd wedi dod i ben fis Medi diwethaf, ac mai dim ond...
Mark Isherwood: Diolch, a diolch am y datganiad. Wrth gwrs, rydym ni’n rhannu gyda chi y gydnabyddiaeth na ellir cyflawni cymunedau mwy diogel gan un llywodraeth, gwasanaeth neu gymuned. Agenda a rennir yw hon. Gwnaethoch gyfeirio at y gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n mynd i’r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf. Fel y gwyddoch, y broblem yw’r aildroseddwyr sy’n aildroseddu’n...
Mark Isherwood: Fel y gwyddoch efallai, daeth Erin Pizzey, yr ymgyrchydd yn erbyn trais yn y cartref a agorodd y lloches gyntaf yn y byd yn Chiswick yn 1971, i’r Cynulliad yn ddiweddar. Dywedodd hi fod trais yn y cartref yn ymwneud â thrais teuluol rhwng y cenedlaethau, bod angen inni edrych ar rianta, ac os nad ydym yn ymyrryd, bydd y bobl hyn yn llenwi ein carchardai a’n hysbytai. Sut ydych chi’n...
Mark Isherwood: Tybed a wnewch chi nodi pa gynnydd yr ydych chi wedi'i gyflawni â hynny. Yn olaf, os caf, pwnc y byddech yn disgwyl imi dynnu sylw ato, o ystyried, y bu cynhadledd, yr wythnos diwethaf, ar gymunedau cynaliadwy a datblygu cymunedol yn seiliedig ar asedau yn stadiwm SWALEC yng Nghaerdydd: sut ydych chi’n ymateb i alwad y gynhadledd honno am ymagwedd sy'n hybu camau gweithredu a arweinir gan...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Er ein bod ni’n cytuno bod yn rhaid datblygu unrhyw gytundeb terfynol gyda phwyslais pennaf ar les gorau economi a chymdeithas Cymru, mae digwyddiadau wedi mynd yn drech na’r cynnig hwn gan Lywodraeth Cymru. Rwyf i felly yn cynnig gwelliant 1 i ddisodli hwn â chynnig i gydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r UE; i groesawu 12 amcan negodi Llywodraeth y DU...