Rhun ap Iorwerth: A gaf i ddiolch yn fawr iawn am y diweddariad, ac, wrth gwrs, ddiolch yn fawr iawn i barafeddygon a gweithwyr y tu ôl i’r llenni, fel petai, yn y gwasanaeth ambiwlans am eu gwaith nhw? Wrth gwrs, rydw i’n edrych ymlaen at weld y monitro yn parhau o’r rhaglen yma. Yn sicr, y canlyniadau, neu’r ‘outcomes’, sydd fwyaf pwysig, ac felly mae’n anodd anghydweld â rhaglen sydd yn...
Rhun ap Iorwerth: Yn gyntaf, byddwn yn dymuno atseinio holl sylwadau Cadeirydd y pwyllgor. Rydw i wir yn gweld bod yna werth i’r ddeddfwriaeth yma. Mi fyddwn ni’n cydsynio iddi fynd i’r cam nesaf yn sicr, lle gobeithio y gallwn ni ei chryfhau a’i diwygio. Ond mae’n bwysig iawn, rydw i’n meddwl, ein bod ni, ar y pwynt yma, yn ymwybodol iawn o gyfyngiadau y Bil yma, rhag codi disgwyliadau pobl yn...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydw i’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu’r berthynas efo gogledd-orllewin Lloegr ac, wrth gwrs, mae hi’n berthynas naturiol iawn ac mae hi yn berthynas bwysig iawn. Ond, onid oes yna beryg o golli golwg ar bwysigrwydd datblygu economi gogledd Cymru ynddo fo ei hun, datblygu perthynas i’r gorllewin efo Iwerddon, a gyda...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi trafod pwysau’r gaeaf ar adrannau damweiniau ac achosion brys ar sawl achlysur. Erbyn hyn mae gennym y ffigurau ar gyfer mis Ionawr sy’n dangos mai 74.1 y cant yn unig o gleifion mewn unedau damweiniau ac achosion brys mawr sy’n cael eu gweld o fewn pedair awr. Nawr, pan gafodd y ffigurau hynny eu rhyddhau, rwy’n meddwl bod...
Rhun ap Iorwerth: Nid yw’n ffordd ryfedd o ofyn o gwbl. Mae’n gofyn am eich asesiad o’r sefyllfa rydym ynddi. Buaswn wedi hoffi clywed neges lawer cryfach fel ‘rhaid cael llawer mwy o welliant’. Y ffigurau hynny ar gyfer Cymru—74.1 y cant yn cael eu gweld o fewn pedair awr—carwn eich atgoffa bod y ffigur yn 82 y cant yn Lloegr, y perfformiad gwaethaf ers 13 mlynedd, sy’n cael ei ystyried yn...
Rhun ap Iorwerth: Mae’n ymwneud â mynd i’r afael â chanfyddiadau, fodd bynnag, ac rwy’n siomedig braidd unwaith eto. Mae data yn bwysig tu hwnt. Yn aml iawn, mae’r Gweinidog yn honni cyflawniad ac ni cheir unrhyw ddata i gefnogi hynny, pan fo data ar gael yn aml i ddangos lle y mae problemau’n digwydd yn y GIG. Ceir problem sylfaenol, wrth gwrs, yn y system gofal brys drwyddi draw. Gwyddom fod yna...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r cynnig yma ar 1 Mawrth, Dydd Gŵyl Dewi. Mae’n bleser dymuno Gŵyl Ddewi hapus i bawb yma yn y Siambr a thu hwnt. Mi allai rhai ofyn pa rôl sydd i ddyddiau nawddsant yn yr unfed ganrif ar hugain, ond ar draws y byd mae pobloedd a gwledydd yn defnyddio’r dyddiau yma i ddathlu a hybu eu cenedligrwydd, a hir y parhaed...
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n falch iawn hefyd o ddweud mai Ynys Môn oedd yr awdurdod addysg cyntaf i droi yn llwyr at addysg gyfun nôl yn nechrau’r 1950au. Felly, eto, mewn addysg, mae yna lwyddiannau ac arloesi y gallwn ni fod yn falch ohonynt. Llywydd, I’ve painted a picture, hopefully, of Wales’s past. The question is now: how do we learn from that experience and build on that legacy in order to paint...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl? I’ll thank everybody who’s taken part in the debate today. The Minister points to where she believes we are doing well. We’re right to celebrate our successes. We’re right that we should highlight successes and the achievements of great ordinary men and women in Wales across the public and the private sectors. I’m glad to...
Rhun ap Iorwerth: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am signal ffonau symudol ym Môn?
Rhun ap Iorwerth: Mi wnaf innau dynnu sylw’r Prif Weinidog at lythyr yr ydw i wedi’i dderbyn gan gangen y WI yn Llangoed, yn fy etholaeth i, yn rhoi’r achos dros fuddsoddi mewn gwasanaethau bydwragedd. Yn benodol, maen nhw’n bryderus am gynaliadwyedd y gweithlu. Ydych, mi ydych chi’n dweud bod yna fuddsoddiad wedi cael ei wneud mewn rhagor o lefydd hyfforddi, ond a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â...
Rhun ap Iorwerth: Diolch i chi am y datganiad yna. Rwy'n credu bod gen i bedwar cwestiwn y byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb iddynt. Mae cyfraddau goroesi wedi cynyddu yng Nghymru, fel mewn mannau eraill. Mae technoleg newydd a gwell triniaeth wedi sicrhau hynny ac, wrth gwrs, rydym ni’n croesawu hynny, a bu pwyslais eglur ar gyflwyno’r triniaethau newydd hyn ac ar wella...
Rhun ap Iorwerth: Rydw i’n falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud ei bod hi’n sylweddoli pwysigrwydd gwneud yn fawr o’r hyn sydd gennym ni ar ôl o’r rhaglenni Ewropeaidd sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Mi ydw i, yn y gorffennol, wedi trafod gyda hi a’i swyddogion y posibilrwydd o sefydlu parc cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn. A fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod i ystyried hynny rŵan, fel un...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu y cynnig yma gan y Ceidwadwyr? Ac mi wnaf i gynnig gwelliannau rydym ni’n credu sydd yn cryfhau y cynnig hwn ymhellach. Rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, o’r effaith mae sicrhau tai o ansawdd da, gofal iechyd, addysg a bod yn ddiogel yn y cartref, ac ati, yn eu cael ar ddatblygiad plentyn. Rwy’n siŵr bod rhai ohonoch chi yn cofio...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gael agor y ddadl yma. Mae hi’n ddadl digon syml mewn difri, ag iddi ffocws clir iawn. Dadl ydy hi am sut rydym ni’n amddiffyn rhai o’r teuluoedd mwyaf tlawd a mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae hi’n tynnu sylw at sefyllfa pan, mewn difri, gall polisi a allai fod yn un da ar y cyfan fod yn esgeuluso’r grŵp pwysig a bregus...
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n mynd i ganolbwyntio, os caf, ar pam rwy’n meddwl bod gwelliant y Llywodraeth i’n cynnig ni yn fethiant i sylweddoli a chydnabod beth sydd yn y fantol yma. Mae dogfen a gafodd ei hanfon at Aelodau Cynulliad ddoe—rwy’n siŵr bod llawer ohonoch chi wedi cael cyfle i’w gweld hi—yn nodi bod Gofalwyr Cymru, Contact a Family Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn siomedig iawn fod...
Rhun ap Iorwerth: Yn sicr.
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n credu eich bod yn ddireidus. Rydym yn sôn yma am gronfa na chymerir ei lle gan unrhyw fodel cyllid uniongyrchol arall gan y Llywodraeth. Dyna pam, yn fy marn i, ei bod wedi cael ei chadw gan Lywodraethau mewn rhannau eraill o’r DU. Mae angen i’r Llywodraeth sylweddoli, er gwaethaf cryfderau mesurau eraill a roddodd y Llywodraeth ar waith, o bosibl, i gefnogi’r teuluoedd hyn yn...
Rhun ap Iorwerth: Yn sicr.
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n ailadrodd y pwynt: nid oes cynllun taliadau uniongyrchol arall ar gael. Dyma yw gwerth Cronfa’r Teulu yn benodol. Oes, mae yna elfennau eraill o gymorth y Llywodraeth, sy’n anuniongyrchol ac wrth gwrs y gall gefnogi teuluoedd, ond nid oes dim i gymryd lle’r cyllid uniongyrchol sy’n mynd i’r teuluoedd tlotaf. [Torri ar draws.] Wel, mae’n wir, ac rydym yn sôn am y teuluoedd...