Hannah Blythyn: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw fel cyfle i drafod yr hyn sydd, mae'n debyg, yn ddyheadau a rennir ar gyfer coetiroedd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un ond un o'r argymhellion, ac rwy'n gwneud yn siŵr ein bod yn dechrau gweithredu arnynt. Mae cadeirydd y pwyllgor wedi ysgrifennu ataf, yn gofyn am eglurhad ynghylch ymateb y Llywodraeth, ond teimlwn y...
Hannah Blythyn: Yn hollol. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn yno. Rydym am adeiladu ar fentrau fel y cod carbon coetiroedd, lle y telir y rhai sy'n creu coetiroedd newydd am ddal a storio carbon, a hefyd mae'n galonogol gweld datblygiad cynnar y cod mawndiroedd, sy'n cefnogi'r ecosystemau gwerthfawr hyn. I gloi, credaf y gallai fod yn adeg gyffrous ar goedwigaeth yng Nghymru. Yng nghanol llawer o heriau...
Hannah Blythyn: Cyfarfûm yn ddiweddar â British Plastics Federation, RECOUP, Plastipak Holdings Inc. ac Iceland i drafod beth y mae diwydiant yn ei wneud i gynyddu ailgylchu a lleihau'r defnydd o ddeunydd pacio plastig. Rydym yn gweithio i'w leihau drwy nifer o gamau gweithredu, gan gynnwys y tâl am fagiau siopa ac astudiaeth ar ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr dros ddeunydd pacio bwyd a diod.
Hannah Blythyn: Credaf fod hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn—gwnaed pwyntiau pwysig iawn—ac rydych yn gywir fod malltod plastig yn uchel iawn yn ymwybyddiaeth y cyhoedd ar hyn o bryd. Mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar hynny ac yn gweithredu ochr yn ochr â hynny. Yn Llywodraeth Cymru, rydym yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ar flaen y gad mewn perthynas â hyn, ein bod wedi ymrwymo i fynd i'r...
Hannah Blythyn: Fel y soniais, disgwylir y bydd y gwaith ymchwil hwnnw gan Eunomia ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn adrodd yn ôl fis nesaf. Felly, rwy'n gobeithio y bydd gennyf y newyddion diweddaraf ar hynny ar gyfer y lle hwn heb fod yn rhy hir.
Hannah Blythyn: Rydych yn hollol gywir i sôn am Iceland, gyda'u cynigion i leihau deunydd pacio plastig yn eu brand eu hunain, erbyn 2023. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig fod y diwydiant yn ysgogi yn rhan o hyn i gyd hefyd, ac fel y soniais, cyfarfûm ag Iceland ychydig cyn y Nadolig a dysgu mwy am eu cynlluniau ym maes cynaliadwyedd. Cyfarfûm hefyd â Plastipak yn Wrecsam, sy'n defnyddio plastig...
Hannah Blythyn: Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw. Ymddengys bod consensws clir ar y mater hwn o ran yr angen i fynd i'r afael ag ef. Fel y dywedais o'r blaen, rwyf wedi cyfarfod â nifer o archfarchnadoedd mawr a chynrychiolwyr manwerthu i drafod y mater hwn fel rhan o'n hastudiaeth ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Fe arhoswn am ganfyddiadau'r astudiaeth honno cyn bwrw ymlaen.
Hannah Blythyn: Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw. Rydych yn hollol iawn yn dweud ei fod yn gam beiddgar i fanwerthwr mawr fel Iceland, a gobeithio y bydd hynny'n ysgogi eraill o fewn y sector i ddilyn eu hesiampl hefyd. Credaf mai dyna pryd y mae gennym gystadleuaeth iach o ran ticio'r blychau, ac mewn gwirionedd, gallwch weld pobl yn newid i fod yn fwy ymwybodol o'r deunydd pacio a beth y maent...
Hannah Blythyn: Yn Llywodraeth Cymru, ac yma yng Nghymru, rydym yn falch ein bod wedi arwain y ffordd yn y gorffennol o ran codi tâl am fagiau plastig a deunydd pacio plastig yn hynny o beth. Rydym yn parhau i weithio gyda diwydiannau ac awdurdodau lleol i ddod o hyd i farchnadoedd gwell yng Nghymru yn enwedig ar gyfer plastigion. Mae yna gyfleoedd gwych yng Nghymru i fusnesau edrych ar sut y gallant gymryd...
Hannah Blythyn: Unwaith eto, mae'r Aelod yn nodi pwyntiau pwysig iawn ar hynny a phwyntiau rhagwybodus ar hynny. Rwy'n gyndyn o gynnwys enwau'r nifer o gwmnïau corfforaethol mawr, ond mae brand bwyd cyflym adnabyddus arall, rwy'n credu, hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cael gwared ar wellt a mathau eraill o blastig yn y degawd neu ddau nesaf. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn feiddgar yn ein...
Hannah Blythyn: Diolch am eich cwestiwn.
Hannah Blythyn: Fel y byddwch yn gwybod, mae'r dreth ar blastigion tafladwy yn un o bedair treth sy'n cael eu hystyried gan yr Ysgrifennydd cyllid ar hyn o bryd. Credaf fod hwnnw'n gwestiwn iddo ef yn y dyfodol, ond mae'n rhywbeth rwy'n ei drafod gyda'r Ysgrifennydd cyllid, a hefyd yn rhywbeth rwy'n ei gadw mewn cof ac yn gysylltiedig â'r cynigion a welsoch yng nghyllideb Llywodraeth y DU ar yr ail ar...
Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn hollol iawn i nodi'r pryderon sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn y mater hwn. Fel y dywedodd, mae'n amlwg iawn ei fod bob amser wedi cael ei ystyried yn fater amgylcheddol, ond mewn gwirionedd, os ydym am fynd i wraidd y mater a'i ddatrys a gwella ein hansawdd aer, mae'n rhaid iddo gynnwys gweithio ar draws y Llywodraeth a gwaith trawslywodraethol hefyd, o ran llywodraeth leol...
Hannah Blythyn: Fel y dywedais yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr, mae coedwigaeth yn un o fy mhrif flaenoriaethau. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu ffyrdd o barhau i ddarparu cymorth ar gyfer coedwigaeth fel rhan o'r cynigion rheoli tir cynaliadwy a fydd, yn y pen draw, yn dod yn lle'r polisi amaethyddol cyffredin cyfredol.
Hannah Blythyn: Rwy'n croesawu diddordeb gwleidyddol a phersonol pellach Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn y maes allweddol hwn, yn dilyn y ddadl a gawsom fis diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol fod yr ystâd goetiroedd yn ased cymdeithasol pwysig. Gwyddom fod manteision iechyd a lles yn deillio o allu cael mynediad ato, ac ymdeimlad o hunaniaeth a lle ar y lefel...
Hannah Blythyn: Gallai fod yn syndod i'r Aelod fy mod yn cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedodd. Ni fydd hynny'n digwydd yn aml iawn. [Chwerthin.] Fel y dywedais, mae coedwigaeth yn un o fy mhrif flaenoriaethau, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r pethau a ddywedodd. Mewn gwirionedd, roedd fy nghyfarfod cyntaf yn y swydd gyda Confor, lle y nodwyd materion tebyg ynglŷn â'r ffaith bod y galw yno, ond mae'n rhaid i...
Hannah Blythyn: Mae rhaglenni rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â risg ar draws gogledd Cymru. Bydd cynllun Llanelwy gwerth £5 miliwn, i ddiogelu 548 eiddo, yn cael ei gwblhau'n fuan. Yn ogystal, rydym yn buddsoddi dros £7 miliwn mewn dros 30 o gynlluniau llifogydd ar draws gogledd Cymru.
Hannah Blythyn: Diolch i chi am eich cwestiwn. Rydych yn iawn yn dweud mai'r risg yn Hen Golwyn yw'r bygythiad i'r seilwaith—y rheilffordd a'r ffordd—yn hytrach nag i gartrefi, ac fe fyddwch yn gwybod bod swyddogion wedi annog Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ofyn am gyfraniadau partneriaeth priodol gan y rhanddeiliaid hynny cyn gofyn am ragor o gyllid grant, ond mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy...
Hannah Blythyn: Diolch am eich cwestiwn.
Hannah Blythyn: Collais ddechrau'r cyfraniad. Ai gwahoddiad i ddod i ymweld ydoedd? Rwyf bob amser yn hapus i ymweld â gogledd Cymru. Rwy'n ymwybodol iawn o'r hyn a ddigwyddodd ym mis Tachwedd, ychydig cyn y Nadolig, ar draws Ynys Môn, a gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, ond os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny, fe...