Darren Millar: Diolch, Lywydd. Rwyf eisiau cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Paul Davies yn ffurfiol. Rwy'n ddiolchgar iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw, ac rwyf eisiau cofnodi fy niolch i Estyn, hefyd, am y gwaith y mae’n ei wneud ledled Cymru. Mae ei arolygiadau, wrth gwrs, yn rhoi cipolwg gwerthfawr iawn i ni ar yr hyn sy'n digwydd yn ein hysgolion ledled y wlad, ac, yn wir,...
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi’n cytuno â mi felly, bod yn rhaid i ni hefyd ystyried y system bwrsariaethau, er mwyn defnyddio hynny efallai i ddenu pobl, yn enwedig yn y meysydd hynny y cyfeiriasoch chi atyn nhw lle y ceir prinder?
Darren Millar: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyflenwad digonol o bren o Gymru ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru? OAQ(5)0106(ERA)
Darren Millar: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau mynediad cyfartal i gyrsiau rhianta cadarnhaol yng Nghymru?
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod adroddiad dangosyddion diweddaraf Coetiroedd i Gymru wedi datgelu mai dim ond 348 erw o goetiroedd newydd a grëwyd yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2016, sy’n llai o lawer na’r 16,000 erw a mwy a blannwyd ar gyfartaledd yn ystod pob un o’r pum mlynedd hyd at 2014. Ymddengys bod y newid sylweddol hwnnw o ran plannu wedi cyd-daro...
Darren Millar: Mae’n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon ar iechyd plant, ac roeddwn eisiau rhoi ychydig o amser, os caf, i dynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i gyfleu negeseuon iechyd i blant ac i rieni, ac yn wir i addysgwyr proffesiynol yn ein hysgolion. Un o’r arfau a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i gyflwyno’r negeseuon pwysig hyn oedd ein gweithlu nyrsio ysgolion, a chefais y pleser o...
Darren Millar: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am addysg ôl-16 yng Nghymru? OAQ(5)0503(FM)
Darren Millar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr achos o danseilio diogelwch data a effeithiodd ar staff y GIG sy'n defnyddio mesuryddion dognau o ymbelydredd? EAQ(5)0135(HWS)
Darren Millar: Diolch i chi am yr ateb yna, arweinydd y tŷ. Bu llawer o sôn am yr angen am barch cydradd rhwng addysg uwch ac addysg bellach yn y Siambr hon yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ond mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu â chyflawni ar y sgwrs na’r uchelgais honno. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, mewn gwirionedd, wedi cadarnhau mewn adroddiad diweddar ar oruchwylio cyllid colegau...
Darren Millar: Diolch i chi am y datganiad yna, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hwn yn achos o danseilio diogelwch data rhyfeddol sy'n effeithio ar filoedd o weithwyr y GIG ledled Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn gwybod bod staff y GIG ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael gwybod, pob un o’r 654 ohonynt. Rydym yn gwybod hefyd bod ymddiriedolaeth Felindre wedi hysbysu ei aelodau staff,...
Darren Millar: Diolch am y datganiad, Weinidog. I’m very pleased that you’ve brought this statement forward today, because you will know as well as I do that both the Welsh Language Commissioner, Rhieni dros Addysg Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg and many, many others—a chorus of voices, in fact—have expressed their concerns about the quality and lack of ambition of the Welsh in education...
Darren Millar: Diolch, Lywydd. A gaf i gynnig gwelliant 3 yn enw Paul Davies sy’n galw am gyflawni canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy cylchol yma yng Nghymru? A, chyn imi fynd i mewn i fy araith, a gaf i hefyd adleisio sylwadau Simon Thomas yn dymuno gwellhad buan i Lesley Griffiths? Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i hyrwyddo’r agenda lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu, a...
Darren Millar: Wrth gwrs.
Darren Millar: Rwy’n cytuno’n llwyr, a dyna pam yr wyf yn meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac yn wir pob deddfwrfa ledled y DU i weithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau rhywfaint o newid agwedd gan wneuthurwyr ac archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill. Un peth y gwnaf ei ddweud, fodd bynnag, yw ei bod yn bwysig iawn mynd â’r cyhoedd gyda chi ar y daith hon. Rydym wedi bod yn...
Darren Millar: Brif Weinidog, os ydym ni eisiau cael mwy o bobl yn gweithio’n agosach at adref, yna beth am weithwyr cartref? Un o'r problemau y mae gweithwyr cartref yn eu hwynebu yn fy etholaeth i ac mewn rhannau eraill, o’r gogledd yn enwedig, yw cysylltedd band eang gwael. Gwelsom adroddiad yr wythnos diwethaf a oedd yn dweud bod rhai o'r cyflymderau mwyaf araf i'w gweld yng ngogledd Cymru, a cheir...
Darren Millar: Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddatganiad diweddaru pellach gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn, yn enwedig yn y gogledd? Cefais gyfarfod cyhoeddus ddoe yn Llanarmon-yn-Iâl, ac roedd cynrychiolwyr yno o Eryrys, Graianrhyd a Thafarn-y-Gelyn yn fy etholaeth i. Mae pob un ohonynt yn wynebu problemau sylweddol â'u seilwaith telathrebu, a chredaf...
Darren Millar: Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Fel Plaid Cymru, rydym ninnau’n falch o weld rhywfaint o gynnydd wedi bod gyda chymorth i ddatblygu rhai datrysiadau i rai o'r problemau dybryd sydd gennym, yn enwedig yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Ond, wrth gwrs, roedd y fenter hon yn deillio'n wreiddiol o’r ddogfen 'Arloesi Cymru', a oedd yn nodi pedwar maes arbenigedd—cyfeiriwyd atynt fel...
Darren Millar: Diolch, Lywydd. A yw’r Gweinidog yn pryderu bod bron i hanner y colegau addysg bellach yng Nghymru yn wynebu diffyg ariannol sylweddol?
Darren Millar: O’r ymateb hwnnw, rydych o leiaf yn cydnabod bod yna broblemau yma yng Nghymru, yn wahanol i arweinydd y tŷ pan holais i hi ar y pwynt hwn yr wythnos diwethaf. Nid newyddion ffug mo hyn. Mae’r rhain yn ffigurau ariannol go iawn gan golegau yma yng Nghymru. Rydym wedi gweld toriadau enfawr yn y cyllid ar gyfer cyrsiau rhan-amser yn arbennig—71 y cant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a...
Darren Millar: Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod gwaddol polisi economaidd aflwyddiannus a chamreoli arian cyhoeddus Gordon Brown yn un y mae ein gwlad yn dal i geisio ymdopi ag ef. Ac er gwaethaf y pwysau ar gyllid cyhoeddus, y gwir amdani yw bod y toriadau a wnaed gennych yn y sector addysg bellach yng Nghymru yn fwy na’r toriadau a wnaed i grant bloc Cymru. Felly, penderfyniadau y mae eich Llywodraeth...