Canlyniadau 181–200 o 400 ar gyfer speaker:Samuel Kurtz

5. Datganiadau 90 Eiliad ( 8 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Fel y gŵyr y rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon, yr wythnos hon yw Wythnos Ddathlu Bwyd a Ffermio Cymru NFU Cymru, dathliad gwych o amaethyddiaeth Cymru, ein cynnyrch byd-enwog a chryfderau sy'n ystyriol o'r hinsawdd. Ffermio yw conglfaen diwydiant bwyd a diod Cymru sy'n werth £7.5 biliwn, ac sy'n cyflogi dros 229,000 o weithwyr gan gyfrannu miliynau o bunnoedd i economi Cymru o...

9. Dadl: Darlledu (14 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Hoffwn ddechrau drwy ddweud pa mor berthnasol yw'r cynnig heddiw, ac rwy’n diolch i'r Llywodraeth gyferbyn am roi'r cyfle i ni drafod mater mor bwysig, oherwydd, ni waeth pa ochr o'r ddadl rydych chi arni, rwy’n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod ansawdd darlledu yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, heb ei ail. Dro ar ôl tro mae'r BBC, ITV, S4C a chwmnïau cynhyrchu fel Tinopolis a...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi (15 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi digwyddiadau mawr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (15 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl sy'n byw gydag endometriosis yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru' (15 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i siarad ar y mater hwn, o ystyried nad wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond yn enwedig gan fod yr adroddiad yn eithaf cadarn ei ddadansoddiad ac yn eithaf damniol ei gasgliadau. Mae gennyf ddiddordeb yn yr adroddiad oherwydd bod cynnig deddfwriaethol fy Aelod ar wella dyfrffyrdd mewndirol, ac yn amlwg, mae llygredd dŵr yn effeithio ar fy etholaeth i. Mae...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru' (15 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Diolch. Wel, mae’r holl bwyntiau a roddais yn fy araith wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, felly nid wyf yn credu eich bod yn onest pan ddywedwch na wnaethoch ddeall fy nghyfraniad.

7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen (15 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Diolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl yma i'r Siambr heddiw.

7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen (15 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Gallaf sicrhau'r Aelod o Ynys Môn fy mod yn llawn cyffro ynglŷn â phosibiliadau hydrogen. Wrth i ni newid i ddyfodol cynaliadwy, mae dadleuon fel y ddadl hon yn allweddol i ddatblygu dyfodol gwyrddach, mwy disglair a glanach. Mae gan bob diwydiant ran i'w chwarae yn y newid hwn, a'r peth da am dechnoleg hydrogen yw y gall prosiectau seilwaith ynni presennol ddod yn elfennau pwysig mewn...

7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen (15 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Fe ildiaf.

7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen (15 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Yn sicr. Ac fe ildiaf i chi, Mark, fel rhywun sy'n siarad dros ogledd Cymru gydag awdurdod mawr ar hyn. Drwy ddefnyddio stociau nwy presennol a gorsafoedd pŵer sy'n rhedeg ar nwy, megis gorsaf bŵer RWE ym Mhenfro, sy'n arwain at lawer llai o allyriadau o bron bob math o lygryddion, gallwn ailddatblygu a pharatoi'r seilwaith presennol i ateb y galw cynyddol am ynni. Yn y bôn, gallwn barhau...

7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen (15 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n hapus i ildio i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy.

7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen (15 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Mae hwn yn bwnc y mae'r Aelod wedi gwneud llawer o sylwadau yn ei gylch o'r blaen, ond mae'n gwyro ychydig oddi wrth bwnc hydrogen, y byddwn yn canolbwyntio arno, o gofio bod amser yn brin. Os cyflawnir hyn, byddai Cymru'n gallu allforio hydrogen ar draws y wlad. Ond mae angen adeiladu piblinell sydd 100 y cant ar gyfer hydrogen yn sir Benfro, i gysylltu Dyfrffordd y Ddau Gleddau â...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro (21 Meh 2022)

Samuel Kurtz: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella y ddarpariaeth o ofal iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ58240

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro (21 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mewn gwirionedd, meddygfeydd meddygon teulu sydd gennyf dan sylw heddiw yn hytrach na deintyddiaeth. Neithiwr, cefais y pleser o gwrdd â grŵp cyfranogiad cleifion meddygfa Grŵp Meddygol Argyle—casgliad o gleifion sydd yno i ddylanwadu a chynghori'r staff a'r gymuned gleifion ehangach ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r feddygfa. Fel yr wyf wedi sôn yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Diolch, Llywydd, ac yn gyntaf hoffwn ddiolch i'n cynghorau lleol am eu hymdrechion i ddod o hyd i leoliadau addysg ar gyfer plant o Wcráin. Mae pob awdurdod lleol wedi cyflawni i sicrhau bod pob plentyn o Wcráin yn cael mynediad at addysg. Mae hyn yn cynnwys, yn unol â'r wybodaeth ddiweddaraf, 73 o blant Wcráin mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yma yng Nghymru. Yr hyn sy'n...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Diolch i chi am hynny, Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd yr Wcrainiaid ledled Cymru yn gwerthfawrogi'r ateb a'r cymorth hwnnw. O ran addysg cyfrwng Cymraeg, hoffwn ddiolch i chi am ateb llythyr a halais atoch ynglŷn â'r hyn sy'n ymddangos fel pe bai'n blaenoriaethu addysg cyfrwng Cymraeg dros addysg cyfrwng Saesneg. Byddwch yn gwybod am enghreifftiau o gynnig cludiant am ddim i ddisgyblion...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Dyna ni. Diolch. Ond o'r ateb a ges i yn y llythyr a ges i o'r Gweinidog, dwi'n credu bod angen edrych ar hwn unwaith eto. Dwi'n ddigon hapus i ddod ymlaen â chwestiynau eraill ynglŷn â hyn. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o fy aelodaeth hir a phleserus o fudiad y ffermwyr ifanc, a hoffwn ddatgan diddordeb. Mae'n fudiad sydd wedi ei drwytho yn nhraddodiadau cefn gwlad Cymru,...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y rhwydwaith trafnidiaeth (22 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n cytuno â theimladau fy nghyd-Aelod, Natasha Asghar. A minnau'n hanu o gymuned wledig, rwyf wedi gweld trafnidiaeth gyhoeddus dda iawn, ond yn llawer rhy aml, rwyf wedi gweld y gwaethaf o’r hyn sydd ar gael i bobl sir Benfro a sir Gaerfyrddin. Yn wir, os dilynwch gyngor Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio eich car, rydych yn gwbl ddibynnol ar amserlenni anghyson a...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (28 Meh 2022)

Samuel Kurtz: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i annog diwydiant i leihau allyriadau niweidiol?


<< < 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.