Delyth Jewell: Prif Weinidog, pan ddaw'n fater o fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, siawns bod yn rhaid i ni fynd ati ar sail tystiolaeth. Rydym ni'n gwybod bod y cynllun Tai yn Gyntaf yn y Ffindir wedi cael canlyniadau ardderchog ers ei lansio dros ddegawd yn ôl, ac mae cynllun yr Alban, a lansiwyd y llynedd, eisoes wedi cartrefu 216 o bobl. Nawr, gall y cynllun hwnnw fod yn arbennig o...
Delyth Jewell: Mae baich toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus wedi disgyn yn bennaf ar lywodraeth leol ers dechrau cyni dros 10 mlynedd yn ôl. Bydd cyllid llywodraeth leol a dderbynnir oddi wrth Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r gyllideb hon 13 y cant yn is nag yr oedd yn 2010, yn ôl tîm dadansoddi cyllidol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae pob un ohonom ni yma'n ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r...
Delyth Jewell: Gwnaf, yn sicr.
Delyth Jewell: Diolch ichi am yr ymyriad yna. Byddwn, yn sicr, nid wyf yn dweud, o bell ffordd, nad oes darpariaethau na fyddem yn eu croesawu. Rwy'n credu ar y cyfan, fod gormod o golli cyfleoedd yma yn ein tyb ni. Ond, wrth gwrs, bydd rhai pethau, fel y rhai y sonioch amdanynt, y byddem yn eu croesawu. Felly, i gloi, Llywydd, mae cynnydd yn setliad eleni, ond er ei fod yn gam i'r cyfeiriad cywir, nid yw'n...
Delyth Jewell: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â'r adroddiadau y gallai gemau rygbi'r chwe gwlad fod ar gael ar sail talu-wrth-wylio yn unig yn y dyfodol? 401
Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau i chi ynglŷn â pha gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i helpu awdurdodau lleol i baratoi i ymdopi â'r achosion o coronafeirws. Yn gyntaf, hoffwn ofyn am ofalwyr cartref a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. A oes gan y Llywodraeth hyder y bydd gan awdurdodau lleol gapasiti i sicrhau gofal parhaus i bobl sydd ei...
Delyth Jewell: Diolch ichi am yr atebion hynny, Weinidog. Mae hynny'n galonogol, clywed eich bod wedi bod yn trafod hyn y bore yma yn llythrennol, a bod y cynlluniau ar waith. Yn amlwg, lle mae'n briodol, byddai'n dda cael gweld y rheini, ond rwy'n sylweddoli y bydd rhai pethau na ellir eu rhannu ar yr un pryd. Fe sonioch chi am salwch yn y gweithlu. Y cyngor a roddir ar hyn o bryd gan Iechyd Cyhoeddus...
Delyth Jewell: Diolch am hynny. Rwy'n sylweddoli unwaith eto fod yna ansicrwydd ynghlwm wrth rywfaint o hyn oherwydd y rôl y bydd Llywodraeth y DU yn ei chwarae. Yn amlwg, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno mai gorau po gyntaf y cawn eglurder ar hyn i bawb. Felly, yn olaf, hoffwn droi at fater gorfodaeth. Yn ôl fy nealltwriaeth i, yng Nghymru, swyddogion iechyd yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am roi...
Delyth Jewell: Ocê. Diolch am eich ateb am hynny, Dirprwy Weinidog. Beth fuaswn i yn dweud—. So, rygbi—. Mae rygbi mor bwysig i'r bobl yng Nghymru, ac rwy'n siŵr bydden ni’n cytuno ar hynny.
Delyth Jewell: Yn wir, mae gemau Rygbi'r Chwe Gwlad yn cael eu gwylio gan 82 y cant o boblogaeth Cymru. Mae hwnnw'n ffigur hollol anghredadwy, a chredaf, mewn rhai ffyrdd, y gellir dadlau'n sicr ei fod yn achos unigryw oherwydd hynny. Ond mae'r ddadl ynglŷn ag a ddylai'r gemau symud i blatfform talu-wrth-wylio yn ymwneud â mwy na rygbi'n unig. Mae'n ymwneud â'r ffaith na ddylai rhai pethau gael eu...
Delyth Jewell: Nawr, dŷch chi wedi sôn am rai o'r problemau pam dŷch chi methu ateb rhai pwyntiau yn barod, Dirprwy Weinidog, ond, am yr iaith Gymraeg, fy mhryder i a nifer fawr iawn o bobl yw does dim sicrwydd y bydd sylwebaeth yn y Gymraeg yn parhau. Felly, gaf i ofyn pa drafodaethau byddwch chi’n edrych i'w chael gyda'r Llywodraeth yn San Steffan ynglŷn â dyfodol sylwebaeth yn y Gymraeg—os bydd...
Delyth Jewell: Os yw'r darllediadau Saesneg eu hiaith yn symud i Sky, yna, yn syml, bydd y bobl yn cael eu prisio allan o'u traddodiadau eu hunain, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud, o ran o'u diwylliant eu hunain. Wrth gwrs, nid rygbi yw'r unig gamp genedlaethol yng Nghymru o bell ffordd, ond mae'n rhoi mwynhad i filoedd o gefnogwyr ac yn ysbrydoli niferoedd dirifedi o bobl ifanc i ddilyn eu huchelgais eu...
Delyth Jewell: Hoffwn siarad am brofiadau grŵp penodol o bobl sy'n dioddef o orfod mynd i Loegr i gael gofal iechyd meddwl, sef mamau newydd sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Yn ôl Cynghrair Iechyd Meddwl Mamau, mae'r menywod hyn yn cael eu hamddifadu o ofal a allai achub bywydau oherwydd diffyg uned gymorth arbenigol yng Nghymru. Credaf mai fy rhagflaenydd, Steffan Lewis, oedd y person cyntaf i alw...
Delyth Jewell: Rwy'n derbyn y bydd hynny'n wir mewn rhai achosion, ond bydd llawer o achosion lle mae angen hyn. Unwaith eto, dychwelaf at y ffaith mai ymrwymiad cyllideb oedd hwn, ac roedd yn rhywbeth y cytunwyd arno rhwng y ddwy blaid. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch mewn rhai achosion. Dywedodd mam arall ei bod wedi mynd o fod yn hapus iawn i gael babi i beidio â gwybod yn iawn ble roedd hi, ac nad...
Delyth Jewell: Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wasgaru ffyniant ar draws y wlad trwy ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n credu bod angen i ni wrando ar y rhai sy'n teimlo ein bod ni mewn perygl o efelychu camgymeriad Lloegr o or-ganoli grym a datblygiad economaidd mewn un rhan o'r wlad. Nawr, un o'r syniadau y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno, ac rwyf i'n siŵr...
Delyth Jewell: Ddeufis yn ôl, gofynnais am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch cynllunio'r gweithlu ym maes iechyd, oherwydd fy mod i'n pryderu bod nifer o feddygfeydd teulu yn fy rhanbarth i mewn perygl o gau. Cafodd cynghorwyr lleol a gododd y mater hefyd eu cyhuddo o godi bwganod, ond yr wythnos diwethaf cawsom ni gadarnhad y bydd tair meddygfa yn cau yn y Gilfach, Parc Lansbury a Phenyrheol, a reolir...
Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siarad yn y ddadl hon oherwydd fy mod yn poeni, os na chedwir yr uned damweiniau ac achosion brys ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn agored fel y mae, y bydd hynny'n effeithio'n negyddol ar nifer o ysbytai eraill, gan gynnwys Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr, sydd yn fy rhanbarth i. Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, cydnabu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf...
Delyth Jewell: Buaswn yn cytuno'n llwyr â'r pwynt, yn bendant. Nawr, rwy'n gwybod eisoes o brofiad personol pa mor hir yw'r amseroedd aros yn uned damweiniau ac achosion brys Ysbyty'r Tywysog Siarl. Mae'r staff yn gwneud gwaith rhagorol o dan bwysau aruthrol, ond mae cleifion yn cael eu gadael i aros am oriau fel mater o drefn ac nid oes digon o welyau. Bu farw fy nain y llynedd ar ôl nifer o flynyddoedd...
Delyth Jewell: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae gen i nifer o gwestiynau yr hoffwn i eu gofyn i helpu i dawelu meddyliau pobl. Nawr, tynnwyd sylw at y ffaith y gall sefyllfaoedd argyfyngus ddatgelu'r gorau mewn dynoliaeth, ac un o'r pethau mwyaf ysbrydoledig yr ydym ni i gyd wedi eu gweld ledled Cymru yw'r ymdrechion gwych gan y gymuned i helpu pobl sy'n gorfod hunanynysu. A gaf i ofyn i chi a...
Delyth Jewell: Prif Weinidog, fe glywsom ni ddoe fod nifer o aelodau staff Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cael y canlyniadau profion anghywir. A fyddech chi gystal â chadarnhau a ydyn nhw wedi cael eu hailbrofi a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i'r GIG a'r staff gofal gael eu profi a chael y canlyniadau cywir? Ac yn gysylltiedig â hynny, mae'r pryder a'r trallod y mae'r aelodau hyn o staff a phob aelod o...