Jeremy Miles: Er bod y data'n siomedig, mae ein hymrwymiad ni i gynyddu defnydd iaith a chyrraedd y miliwn erbyn 2050 yn parhau. Rhaid edrych yn fanwl ar y cyfrifiad a'r holl ffynonellau data eraill, yn enwedig pan fod arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn dangos tuedd ar i fyny a'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad.
Jeremy Miles: Wel, gwnaf i geisio ymateb i'r ystod eang hynny o sylwadau a chwestiynau. Gwnaeth yr Aelod gychwyn gan ddweud bod y ffigurau'n dangos yn glir ein bod ni'n bellach o'r nod. Mae'n rhaid edrych ar y cyfrifiad, a hefyd y ffynonellau data eraill, sydd yn dangos, fel y gwnes i ddweud ar y cychwyn, bod cynnydd ar yr un amser mae'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad, felly mae angen edrych yn ofalus ar y...
Jeremy Miles: 'Mae llawer o sôn am y gostyngiad yn y ffigurau, ond dyma fy marn i fel rhywun a atebodd 'na' i'r holl gwestiynau. Er mai ychydig iawn rwy'n ei siarad, ond rwy'n gwneud fy ngorau i geisio dysgu, nid wyf erioed wedi teimlo cysylltiad mor gryf â'n hiaith. Wrth gwrs, byddwn wrth fy modd pe bawn i'n rhugl, ond nid yw'n teimlo fel sefyllfa 'nhw a ni' bellach, fel y teimlai yn y gorffennol, ond...
Jeremy Miles: Mae'n mynd ymlaen i ddweud:
Jeremy Miles: 'Felly efallai yn ogystal â'r cwestiynau "a allwch chi ddeall, siarad ac ysgrifennu..." yn y cyfrifiad efallai y dylid cael cwestiwn tebyg i "A ydych yn teimlo cysylltiad â'r Gymraeg?" Ac i hynny',
Jeremy Miles: mae hi'n ei ddweud,
Jeremy Miles: 'Byddwn yn bendant wedi dweud "Ydw".'
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, ac mae'n gwestiwn pwysig iawn, rwy'n credu, os dŷch chi moyn mynd i'r afael â beth sy'n digwydd yn y ffigurau yma. Dyw'r cyfrifiad ddim yn dweud unrhyw beth wrthym ni am ddefnydd o'r Gymraeg, a dyw e ddim yn dweud unrhyw beth wrthym ni am ganfyddiad pobl o beth yw e i fod yn gallu siarad Cymraeg. Felly, mae'n gofyn cwestiwn sydd yn binary ar ddiwedd y dydd:...
Jeremy Miles: Diolch. Rwy'n cytuno â Sam Kurtz—mae hi'n bwysig ein bod ni'n ffeindio ffyrdd o hyrwyddo'r Gymraeg, a pharhau i ffeindio ffyrdd creadigol o wneud hynny, fel ei bod hi'n cŵl ac yn fodern i'r rheini sy'n mynd i glywed y neges honno'n bositif, efallai. Ond mae lot o ffyrdd i allu gwneud hynny. Fe ges i drafodaeth ddiddorol a chreadigol iawn y bore yma gyda chyngor partneriaeth y Gymraeg...
Jeremy Miles: The duty to ensure that suitable educational provision is made available for children and young people rests with local authorities. This includes a duty to promote high standards of education, fair access to education and a general duty to ensure there are sufficient schools in their area.
Jeremy Miles: Attendance rates are currently 89.7 per cent on average. My priority is to ensure all children and young people have the opportunity to reach their potential, regardless of their background. Maintaining good attendance and engagement with children and their families is key to this.
Jeremy Miles: Faith schools across Wales offer parents the opportunity for their children to be educated in accordance with their beliefs. Local authorities should therefore aim for a balance of provision between the types of schools that they maintain, whilst ensuring high-quality teaching and learning and curriculum coverage for all learners.
Jeremy Miles: We are committed to creating an inclusive education system. Our additional learning needs reforms put learners at the heart of the process to identify and meet their needs and will help ensure all pupils requiring additional support to meet an ALN have that support properly planned for and protected.
Jeremy Miles: Mae cyflwyno Cwricwlwm Cymru yn parhau i fod yn ganolog i'n diwygiadau i wella ansawdd ac ymgysylltiad â dysgu mewn ysgolion a lleoliadau. Byddwn yn parhau i hyrwyddo hyn yn weithredol, ochr yn ochr â'n ffocws ar sgiliau trawsgwricwlaidd a chyfannol fel sylfaen i bob dysgu.
Jeremy Miles: Mewn gwirionedd, barn y ddau sefydliad y cyfeirioch chi atynt yw bod y cynnig y mae Cymwysterau Cymru wedi ei gyflwyno yn debygol o gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n dysgu gwyddoniaeth ac yn mynd yn eu blaenau i astudio pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Dyna'r farn y maent wedi'i mynegi wrthym ni mewn gwirionedd. Mae Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar y mater hwn ar hyn...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r awdurdod lleol i gyflawni ei hymrwymiadau cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg i ehangu darpariaeth gofal plant ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae £42.7 miliwn o gyllid wedi cael ei gymeradwyo mewn egwyddor drwy gyfuniad o'n rhaglenni a'n grantiau cyfalaf gofal plant, cyfrwng Cymraeg a Chymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Jeremy Miles: Diolch i Sarah Murphy am dynnu sylw at y datblygiadau cadarnhaol sy'n digwydd mewn perthynas ag addysg Gymraeg yn ei hardal hi. Cefais gyfarfod cynhyrchiol iawn gydag arweinydd y cyngor a'r aelod cabinet dros addysg ychydig wythnosau yn ôl i drafod cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg a lefel eu huchelgais a phwysigrwydd gweithredu'r cynigion a nodwyd yn y cynllun. Mae'r datblygiadau yn...
Jeremy Miles: Cwestiwn pwysig gan yr Aelod, os caf i ddweud. Dwi'n credu, yng nghyd-destun Pen-y-bont yn benodol, un o'r heriau yw bod dim digon o gynnydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac mae hynny'n rhan bwysig o'r cyd-destun y mae'n cyfeirio ato yn ei gwestiwn. Ond rwy'n glir yn fy nhrafodaethau i gyda'r arweinyddiaeth bresennol eu bod nhw'n deall hynny a bod ymrwymiad i wneud cynnydd ar yr hyn sydd gyda...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n cael y cyfle i fynd i ysgolion cynradd ledled Cymru, fel y mae'r Aelod yn sôn, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn deimlad cyffredin i fi hefyd—bod yr ysgolion llawer yn llai—felly, dwi'n rhannu'r pryder hwnnw efallai gydag e hefyd. Beth rwy'n ymrwymo i'w wneud yw sicrhau fy mod i'n mynnu bod cynnydd yn digwydd yn ôl beth y mae'r cynllun strategol yn ei ddweud. Bydd ganddyn...
Jeremy Miles: Cwestiwn pwysig iawn, os caf ddweud hynny. Mae'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad, yn benodol ymhlith plant ysgol pump i 15 oed, ac mae hynny, wrth gwrs, yn destun pryder. Ond, fel mae'r Aelod yn ei ddweud yn ei gwestiwn, nid dyna'r unig ffynhonnell sydd gennym ni. Mae arolwg blynyddol y boblogaeth yn dangos bod cynnydd wedi bod dros yr un cyfnod, a dyna'r tro cyntaf i'r ddwy ffynhonnell, dros...