Canlyniadau 201–220 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cysgu Allan
(21 Maw 2017)

Caroline Jones: Brif Weinidog, yn anffodus, mae'r naratif ynghylch cysgu ar y stryd wedi bod yn gwbl wenwynig. Yn hytrach nag ystyried pobl sy'n cysgu ar y stryd fel eneidiau truenus, anffodus sy’n gorfod dod o hyd i loches mewn drysau siopau gan wynebu hypothermia a newyn, mae llawer wedi eu hystyried a’u brandio fel tramgwyddwyr a phla i’w waredu o’n strydoedd mawr. Brif Weinidog, a ydych chi’n...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cefnogi Pobl Anabl
(21 Maw 2017)

Caroline Jones: Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna. Rwyf wedi bod yn ymdrin ag etholwr y bu’n rhaid i’w gadair olwyn fynd i mewn i gael ei hatgyweirio. Fe’i gadawyd heb gadair addas arall, gan fod hon yn gadair bwrpasol, am dros ddau fis ac nid yw wedi llwyddo i gysylltu ag unrhyw un i gael y newyddion diweddaraf. Dim ond ar ôl i mi gysylltu â phrif weithredwr y bwrdd iechyd lleol y...

3. 3. Datganiad: Adolygiad o'r Broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (21 Maw 2017)

Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Andrew Blakeman a'i dîm am y modd agored a thryloyw y maen nhw wedi ymwneud â'r adolygiad ac am eu hargymhellion ardderchog. Rydym i gyd yn derbyn nad oes arian diderfyn ar gael i’r GIG; fodd bynnag, rydym hefyd i gyd yn derbyn, ar adegau, mai triniaeth newydd nad yw'n gyffredinol yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Costau Deunydd Hylendid Benywaidd
(22 Maw 2017)

Caroline Jones: Weinidog, mae rhai o’r adroddiadau yn y cyfryngau ar y mater hwn wedi bod yn eithaf annifyr. Mae gweld merched ifanc yn colli wythnosau o’u haddysg bob blwyddyn oherwydd eu cyfansoddiad biolegol, ac yn byw mewn tlodi, yn annerbyniol. Weinidog, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi’u cael â sefydliadau yn y DU a’r Undeb Ewropeaidd...

3. Cwestiwn Brys: Y Penderfyniad i Adeiladu Carchar ym Mhort Talbot (22 Maw 2017)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu’r newyddion fod de Cymru yn mynd i gael carchar newydd o bosibl. Fel rhywun sydd wedi gweithio yn y gwasanaeth carchardai ers blynyddoedd lawer, rwy’n gwybod yn iawn am y problemau gyda gorlenwi, sy’n creu amgylchedd anniogel ar gyfer carcharorion a staff. Bydd cael carchardai ychwanegol yn ne Cymru yn caniatáu i fwy o garcharorion gael eu cadw...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gofal Cymdeithasol
(28 Maw 2017)

Caroline Jones: Prif Weinidog, mae Llywodraethau Ceidwadol a Llafur yn San Steffan, a chlymbleidiau Llafur, Plaid a Rhyddfrydol olynol yma yng Nghymru, wedi methu â chaniatáu cyllid digonol ar gyfer gofal cymdeithasol. O ganlyniad i—[Torri ar draws.] O ganlyniad i ddegawdau o danariannu, rydym ni’n nesáu at argyfwng mewn gofal cymdeithasol, ac er gwaethaf y ffaith fod ein poblogaeth yn heneiddio’n...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (29 Maw 2017)

Caroline Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad cleifion Cymru at dreialon clinigol yng Nghymru?

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(29 Maw 2017)

Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gellir cymharu gorwariant y byrddau iechyd lleol â’r symiau mawr a werir ar nyrsys asiantaeth. Y llynedd, roedd y GIG yng Nghymru yn gwario £2.5 miliwn bob wythnos ar staff asiantaeth, a fydd yn ddi-os yn cael ei dorri y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, yn syml iawn, nid oes gennym staff parhaol ar gael i wneud yn iawn am y diffyg, felly gofal cleifion...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(29 Maw 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Pasiodd y Cynulliad y Ddeddf lefelau staff nyrsio y llynedd gyda’r addewid y byddai’r ddeddfwriaeth newydd hon yn darparu mesurau diogelu ar gyfer diogelwch cleifion ac yn rhoi diwedd ar sefyllfaoedd lle y mae nyrsys yn teimlo nad oes ganddynt ddigon o amser i ofalu am gleifion yn iawn. Ar hyn o bryd mae eich Llywodraeth yn ymgynghori ar y canllawiau...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(29 Maw 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Dylai lefelau staffio diogel fod yn berthnasol i bob lleoliad. Wrth i ni symud at wasanaeth iechyd sy’n anelu at ddarparu mwy a mwy o wasanaethau yn y gymuned, mae’n rhaid i ni sicrhau nad oes gan dimau nyrsio cymunedol lwyth gwaith gormodol o ran cleifion. Mae nifer y nyrsys ardal sy’n gweithio yng Nghymru wedi gostwng dros 40 y cant yn y...

8. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb ar Ganser yr Ofari (29 Maw 2017)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad ar y gwaith a wnaethant i ystyried y ddeiseb hon. Mae canser yr ofari’n taro tua 20 o fenywod bob dydd yn y DU ac yn anffodus, mae’n gyfrifol am oddeutu 248 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Mae pawb ohonom yn gwybod bod diagnosis cynnar, yn achos canser, yn golygu mwy o obaith goroesi. Os gwneir diagnosis yn y camau cynnar o...

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Iechyd Plant
( 4 Ebr 2017)

Caroline Jones: Prif Weinidog, amlygodd adroddiad 2017 y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ‘State of Childe Health’, yr angen am fannau diogel i blant chwarae, er mwyn rhoi sylw i chwarter y boblogaeth plant yng Nghymru sy'n dechrau’r ysgol gynradd yn ordew. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at fannau agored a mannau chwarae, a pha gamau ydych chi’n...

6. 4. Datganiad: Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) — Flwyddyn yn Ddiweddarach ( 4 Ebr 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. Y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant oedd y gwaith ad-drefnu mwyaf ym maes gofal cymdeithasol ers degawdau, â’r bwriad o sicrhau bod y bobl sy'n derbyn gofal a'u gofalwyr wrth wraidd y system. Roedd y newidiadau hyn yn gwbl angenrheidiol. Bu prinder sylweddol o adnoddau ym maes gofal cymdeithasol ac mae’n debygol y caiff ei roi dan...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwasanaethau Cymdeithasol
( 2 Mai 2017)

Caroline Jones: Prif Weinidog, rydym ni’n prysur agosáu at bwynt lle mae gofal cymdeithasol yn anfforddiadwy, ac, oni bai ein bod ni’n cymryd camau brys, rydym ni’n wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol y galla’r system chwalu. Mae Llywodraethau olynol wedi methu â chymryd y boblogaeth sy'n heneiddio i ystyriaeth a chynllunio'n briodol ar gyfer galw yn y dyfodol. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu...

6. 6. Dadl: Gwasanaethau Diabetes yng Nghymru ( 2 Mai 2017)

Caroline Jones: Mae diabetes yn un o'r prif heriau iechyd sy'n wynebu ein cenedl. Mae cymaint ag un rhan o chwech o boblogaeth Cymru yn wynebu risg uchel o ddatblygu’r clefyd, sy'n effeithio ar nifer gynyddol o bobl o gwmpas y byd. Fel y mae datganiad blynyddol o gynnydd Llywodraeth Cymru ei hun yn ei nodi, mae llawer i'w wneud i ymdrin â'r risgiau ffordd o fyw ehangach ar gyfer diabetes ac ymdrin ag...

6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru):
Grŵp 1: Mynd i’r Afael â Gordewdra (Gwelliannau 3, 4, 2, 1)
( 9 Mai 2017)

Caroline Jones: Bydd UKIP yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Roeddem yn ei chael hi’n anodd cysoni’r ffaith bod Bil iechyd y cyhoedd yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r her iechyd cyhoeddus fwyaf sy'n wynebu ein cenedl—gordewdra. Fel yr amlygais yn ystod trafodion yr wythnos diwethaf ar ddiabetes, mae'n fater o gywilydd cenedlaethol bod bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru a thraean o...

6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru):
Grŵp 2: Ysmygu — Mangreoedd Di-fwg (Gwelliannau 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 5)
( 9 Mai 2017)

Caroline Jones: Mae UKIP yn cefnogi ymestyn deddfwriaeth ddi-fwg i bob lleoliad lle gallai plant gael eu hamlygu i fwg ail-law, ac felly bydd yn cefnogi gwelliannau'r Gweinidog yn y grŵp hwn. Diolch.

6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru):
Grŵp 6: Tatŵio Pelen y Llygad (Gwelliannau 36, 37, 38, 41, 35)
( 9 Mai 2017)

Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant yn ffurfiol yn fy enw i. Pan wnaethom ni gymryd tystiolaeth i ddechrau ynghylch gweithdrefnau arbennig, mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi fy syfrdanu gan yr amrywiaeth o bethau yr oedd pobl yn ei wneud i'w cyrff. Fodd bynnag, yr un peth a wnaeth fy mhoeni fwyaf oedd tatŵio pelenni’r llygaid. Nid y ffaith bod rhywun yn dymuno chwistrellu inc...

6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru):
Grŵp 6: Tatŵio Pelen y Llygad (Gwelliannau 36, 37, 38, 41, 35)
( 9 Mai 2017)

Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Mae’n amlwg fy mod wedi fy siomi na chafodd y gwelliannau hyn eu cefnogi. Un o'r rhesymau pam fy mod yn siomedig iawn yw fy mod yn credu y dylid defnyddio’r weithdrefn hon am resymau meddygol yn unig. Mae’n ofid gen i y gall rhywun fynd allan a chael tatŵ ar belenni ei lygaid a dioddef cymhlethdodau fel y rhai yr wyf wedi eu rhestru. Rwy’n pryderu hefyd y...

6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru):
Grŵp 7: Darparu Toiledau — Strategaethau Toiledau Lleol (Gwelliannau 39, 40, 27A, 27)
( 9 Mai 2017)

Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Rwy’n dymuno cynnig y gwelliant yn ffurfiol yn fy enw i. Mae gwelliant 39, a gyflwynwyd yn fy enw i, yn ceisio, drwy gyfrwng canllawiau Llywodraeth Cymru, gryfhau strategaethau toiledau lleol drwy wneud y camau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd yn eglur er mwyn mynd i'r afael â'r angen am doiledau cyhoeddus yn eu hardal leol mewn modd effeithiol ac...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.