Russell George: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y newidiadau arfaethedig i’r broses o dderbyn disgyblion i ysgolion ym Mhowys o fis Medi 2017? OAQ(5)0121(EDU)
Russell George: Gweinidog, roeddwn yn falch o gael adroddiadau gan Ysgol Pontrobert eu bod bellach yn gallu defnyddio platfform dysgu digidol Hwb ar ôl cael uwchraddiad hirddisgwyliedig i’w band eang. Fodd bynnag, nododd y ‘Gwerthusiad o weithrediad y Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol’, a gyhoeddwyd chwe mis yn ôl, nad oedd bron i draean yr ysgolion wedi mewngofnodi unwaith ar Hwb, a gwnaeth gyfres o...
Russell George: Gweinidog, mae’r cylchoedd meithrin a’r cylchoedd chwarae cyn-ysgol eisoes yn orlawn, ac mae pryder gwirioneddol, pan ddaw’r polisi derbyn i ysgolion newydd i rym ym Mhowys ym mis Medi, y bydd y pwysau ar y cylchoedd chwarae yn anghynaladwy. A gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynnal y pwysau ychwanegol ar y cylchoedd chwarae hyn?
Russell George: Nod y ddadl hon heddiw yw tynnu sylw at yr angen i sicrhau’r cynnydd economaidd ardderchog y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi’i wneud ers dod i rym, ac nid ydym am weld dim yn peryglu hwnnw. Wrth gwrs, Theresa May a Llywodraeth y DU sydd â’r cynllun i hybu ffyniant economaidd drwy broses Brexit a thu hwnt. Ond mae problemau gyda’r economi yma yng Nghymru: gwyddom fod enillion...
Russell George: Gwnaf.
Russell George: Wel, nid wyf yn rhan o’r trafodaethau ar y maniffesto Ceidwadol, ond roedd maniffesto’r Ceidwadwyr, wrth gwrs, yn rhoi’r ymrwymiad hwnnw, ac yn gwneud yr ymrwymiad hwnnw, wrth gwrs, yn ôl yn etholiad cyffredinol 2015. Yn yr hydref, cyhoeddodd y Canghellor y bydd yn darparu—. Cyhoeddodd y bydd yn darparu £400 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf, a gobeithiaf y...
Russell George: Mewn munud. Mewn munud. Ond rydym yn—[Torri ar draws.] Mewn eiliad. Ond rydym yn dal i aros i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei strategaeth economaidd dros flwyddyn—dros flwyddyn—ar ôl ei haddo, ac wrth gwrs, caiff dur ei grybwyll yn helaeth yn y ddogfen honno yn ogystal. Rwy’n gobeithio y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet newyddion i ni heddiw am ei gynlluniau ar gyfer ei strategaeth...
Russell George: 10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno rhaglen Cyflymu Cymru yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0594(FM)
Russell George: Prif Weinidog, mae Jeremy Corbyn wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer ymyrraeth ysgubol gan y Llywodraeth yn ein diwydiant, gan gynnwys cymryd rhannau o ddiwydiant ynni Prydain yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus ochr yn ochr â'r rheilffyrdd a'r Post Brenhinol. Dyna'r ymyrraeth fwyaf gan y wladwriaeth yn ein heconomi ers degawdau. A gaf i ofyn a ydych chi’n cefnogi dull Jeremy Corbyn, yr wyf...
Russell George: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rydym ni wyth mis i ffwrdd bellach o'r dyddiad terfynol, pan fydd y prosiect Cyflymu Cymru—. Mae'n ymddangos bod ganddo broblem cam-gyfathrebu parhaus â thrigolion. Cysylltwyd â mi, er enghraifft, gan un etholwr o Adfa sydd wedi cwyno, er iddo gael cadarnhad o fand eang cyflym iawn trwy dechnoleg ffibr i'r adeilad ym mis Chwefror eleni—a gadarnhawyd i mi...
Russell George: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran gwella canlyniadau iechyd yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0168(HWS)
Russell George: Diolch, Llywydd. Gan aros ar thema cefnogi economi Cymru—[Torri ar draws.]—Rwy’n siŵr y byddwch yn croesawu addewid Theresa May i—[Torri ar draws.]
Russell George: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddwch yn croesawu addewid Theresa May i gael gwared ar dollau pont Hafren ar ôl i’r berchnogaeth gael ei throsglwyddo i Highways England y flwyddyn nesaf, gan ddod ag o leiaf £100 miliwn, wrth gwrs, i economi Cymru bob blwyddyn—amserlen fwy uniongyrchol o lawer na’r un—efallai y gwnaiff Joyce Watson wrando ar hyn—ym...
Russell George: Wel, wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod nad oes unrhyw dro pedol ar y meinciau hyn. Rydym wedi bod yn gefnogol iawn i’r syniad o gael gwared ar dollau pont Hafren ers peth amser. Gallaf glywed Joyce Watson yn gweiddi o’r rhes gefn, ‘O ble fydd yr arian hwnnw’n dod?’ Efallai y gallaf ateb hynny hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid sylweddol i hybu...
Russell George: Ynghyd â’r buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith, mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi darparu cyfleoedd allweddol ar gyfer economïau rhanbarthol. Nodaf fod Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar y strategaeth ddiwydiannol. A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi eich ymateb i’r ymgynghoriad i Aelodau’r Cynulliad ar unwaith, ac...
Russell George: Weinidog, mae gennyf ddau lythyr oddi wrthych yma, un sy’n ddyddiedig ym mis Mawrth ac un sy’n ddyddiedig ym mis Ebrill. Mae’r un ym mis Mawrth yn dweud bod swyddogion wedi siarad â chydweithwyr o BT sydd wedi cadarnhau y bydd y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yn mynd rhagddi ym mis Mehefin, ond wedyn, fis yn ddiweddarach, mewn perthynas â’r un eiddo, ysgrifenasoch ataf eto...
Russell George: Rwy’n falch iawn o glywed yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r gwaith sy’n digwydd yn Swydd Amwythig ar ble y dylid lleoli gwasanaethau brys, naill ai yn Amwythig neu yn Telford. Barn mwyafrif llethol o fy etholwyr yw y dylai’r gwasanaethau hynny gael eu lleoli yn Amwythig. Dyna ble y dylid lleoli’r gwasanaethau brys—nid wyf wedi cyfarfod ag unrhyw...
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliant yn enw Paul Davies. Mae’n rhaid i mi ddweud, mewn egwyddor, fe allaf fi a grŵp y Ceidwadwyr Cymreig gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw, sy’n ceisio hybu’r buddsoddiad mewn swyddi a seilwaith yn y Cymoedd yn sgil hanes o danfuddsoddi, rwy’n credu, ar ran y Llywodraeth yma. Nid wyf yn meddwl y gallai neb ddadlau chwaith gyda honiad Plaid...
Russell George: Iawn, fe wnaf.
Russell George: Wel, roeddwn yn gwneud y pwynt fod yr ardal wedi cael buddsoddiad sylweddol gan yr UE, ond ni cheir gwahaniaeth go iawn. Mae hynny yng ngrym Llywodraeth Cymru—yn eu dwylo—o ran sut y gwerir yr arian hwnnw, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw welliannau go iawn gyda hynny. Felly, yn fy marn i, wrth gwrs, rwy’n croesawu cefnogaeth Llywodraeth y DU i’r rhanbarth drwy’r...