Vikki Howells: A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith i hyrwyddo cynhwysiant digidol yng Nghymru?
Vikki Howells: 10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio cronfeydd strwythurol i hybu ffyniant yn y cymoedd gogleddol?
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol wedi awgrymu y dylai cronfa datblygu rhanbarthol newydd ar gyfer y DU fod yn ganolog i unrhyw bolisi rhanbarthol yn dilyn Brexit. Fodd bynnag, maent hefyd wedi nodi bod angen i hwn gael ei reoli ar sail ddatganoledig, ac y dylai unrhyw arian a ddyrennir fod y tu hwnt i'r hyn sy'n ddyledus drwy fformiwla Barnett. Mae...
Vikki Howells: A yw arweinydd y tŷ, gyda'i chyfrifoldebau dros fand eang a chydraddoldeb, yn cytuno â mi nad oes gan gydraddoldeb priodas, mewn gwirionedd, fawr ddim i'w wneud â chyflwyno band eang cyflym iawn? A yw hi hefyd yn cytuno â mi fod y sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ogledd Iwerddon, a oedd yn cysylltu'r ddau beth yn hollol ddifeddwl, yn fawr mwy nag enghraifft arall o ba mor dwp,...
Vikki Howells: Fel y nodwyd eisoes, mae bargeinion dinesig yn cynnig cyfle newydd i ddwyn ynghyd amrywiaeth o randdeiliaid i hybu economïau Cymru go iawn. Mae'n cynnig ffordd newydd, gydgysylltiedig o weithio. Yn bwysicach, cânt eu hategu gan chwistrelliad o gyfalaf a allai helpu i gyflawni manteision seilwaith mawr. Ond mae'n bwysig inni gael bargeinion dinesig yn iawn, fod y dull o'u llywodraethu yn...
Vikki Howells: 1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chyflog isel yng Nghymru? OAQ51651
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog. Yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol, cyflwynodd yr Athro Steve Fothergill dystiolaeth i ni yn dangos y cysylltiad amlwg rhwng cyflogau isel a hen ardaloedd diwydiannol Cymru. Dim ond 90 y cant o gyfartaledd y DU yw'r cyflog canolrifol mewn hen ardaloedd diwydiannol. Mae menywod yn fwy difreintiedig na dynion, ac mae cyflog canolrifol...
Vikki Howells: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yr effeithir arnynt gan achosion o diwmorau niwroendocrin yng Nghymru? OAQ51647
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch un o fy etholwyr, Janet Lewis, enillydd haeddiannol gwobr nyrs endocrin 2018 am ei harweinyddiaeth yn dyfeisio atebion i wella darpariaeth gofal iechyd a chydraddoldeb ar gyfer cleifion sydd â thiwmorau niwroendocrin? Yn fwy cyffredinol, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chleifion Cymru a gweithwyr gofal iechyd...
Vikki Howells: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo teithio llesol yng Nghwm Cynon? OAQ51722
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Pan archwiliodd Sustrans sut y gellid trawsnewid 25 o dwnelau rheilffyrdd nas defnyddir yng Nghymru yn llwybrau teithio llesol, daeth un dewis i'r brig. Y dewis hwnnw oedd twnnel Aber-nant, rhwng Cwm-bach yn fy etholaeth a Merthyr Tudful, a gafodd y sgôr uchaf ar y system raddio o ran y gymhareb cost a budd a'r amcangyfrif o ddefnydd blynyddol. Mae cyngor...
Vikki Howells: Rwy'n codi i siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd grŵp Llafur y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r materion a godwyd yn adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad yn faterion, nid i'r Llywodraeth yn y lle cyntaf, ond i ni fel cynrychiolwyr ein pleidiau gwleidyddol, ac i'n cymunedau a'n pleidiau'n fwy eang eu hystyried. Hoffwn gofnodi diolch fy mhlaid i'r Athro Laura McAllister...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae chwarae yn rhywbeth sy'n hanfodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'n annog iechyd corfforol a lles, yn mynd i'r afael â gordewdra, yn gwella sgiliau echddygol a deheurwydd, yn adeiladu gwydnwch a ffitrwydd. Mae hefyd yn hyrwyddo lles meddyliol. Mae chwarae'n cyfrannu at ddatblygiad ymennydd iach. Mae'n cynnig cyfleoedd i ddefnyddio'r dychymyg. Mae'n rhoi...
Vikki Howells: A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Vikki Howells: Weinidog, cytunaf â chi fod rhai arferion da iawn yno eisoes, a hoffwn eich gwahodd i ddod i fy etholaeth lle y gallwn ddangos enghraifft i chi o fan chwarae cynhwysol da iawn. Efallai y gallech gyfarfod â rhai o'r plant a'r rhieni y bûm yn gweithio gyda hwy.
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw, ac yn enwedig y Gweinidog. Os caf ymateb i rai o'r pwyntiau a godwyd, gofynnodd fy nghyd-Aelod Bethan Jenkins sut olwg fyddai arno ar lawr gwlad, a nododd Michelle Brown rai pryderon ynghylch adnoddau. Credaf mai dyna sy'n atyniadol am fy awgrym, y gallai'r newidiadau hyn ddigwydd yn raddol. Rydym wedi bod yn pori drwy...
Vikki Howells: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau economi Cwm Cynon?
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu ei bod yn gyhoeddiad cyffrous iawn. Mae bancio tir yn sicr yn broblem sy'n—cael ei mynegi'n gryf iawn ar lawr gwlad yng Nghwm Cynon, ac roedd fy nghwestiwn cyntaf i yn y Siambr ar ôl i mi gael fy ethol yn ymwneud â bancio tir. Mae fy nghwestiwn yn canolbwyntio ar y datganiad a wnaethoch yn...
Vikki Howells: 9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad cymunedol at fannau gwyrdd? OAQ51743
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn eich bod wedi gallu siarad yn y digwyddiad ar fannau cymunedol a gynhaliwyd gennyf yr wythnos o'r blaen. Clywsom yn y digwyddiad sut y gall mynediad i fannau gwyrdd cymunedol helpu i wella iechyd, lles a ffyniant, er bod rhai o'r rhwystrau i berchnogaeth gymunedol wedi eu nodi hefyd. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'w gwneud yn haws i...