Jeremy Miles: Roedd Hydref 1917 yn fis a adawodd ei ôl ar y byd. Yma yn y DU, mae’n 100 mlynedd ers i’r mudiad cydweithredol benderfynu gyntaf ei fod am roi mynegiant i’w werthoedd drwy’r llwybr seneddol yn San Steffan, drwy ffurfio’r Blaid Gydweithredol. Gwnaed y penderfyniad hwnnw yn ei chynhadledd yn Abertawe—a oedd yn addas, o ystyried y rôl yr oedd Cymru wedi ei chwarae yn hanes y mudiad...
Jeremy Miles: Heddiw, pan fyddwch yn siarad ag unrhyw berson ifanc am y math o bethau y maent am eu gweld o wleidyddiaeth, mae trafnidiaeth gyhoeddus, o ran ei argaeledd a’i gost, bob amser yn eithaf agos at frig y rhestr. Drwy fforwm economaidd ardal Castell-nedd, clywsom stori am ddyn ifanc a oedd wedi colli hyder am fod cyfle lleoliad gwaith wedi methu, a hynny am ei fod yn gorfod dibynnu ar gludiant...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae croeso mawr i'r datganiad a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet. Yn benodol, rwy’n cyfeirio at y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn fy etholaeth i fy hun, sy'n ddatblygiad cyffrous iawn. Mae'n debyg y bydd llawer o gyfraniad gan fentrau bach a chanolig i ddyfodol y sector hwn fel sector gweithgynhyrchu modiwlaidd yng Nghymru, a fydd yn gofyn am ddull penodol o...
Jeremy Miles: Pan gyfarfu'r pwyllgor â Michel Barnier, atgoffodd ni fod llawer o'r cytundebau sydd eu hangen i roi effaith i'r berthynas hirdymor rhwng y DU ac Ewrop yn gytundebau cymysg mewn gwirionedd—nid yw o fewn cwmpas y cyngor a'r Senedd i’w datrys: mae angen diplomyddiaeth a strategaeth hirdymor gyda phob un o'r aelod-wladwriaethau. Pa gamau ydych chi’n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru a...
Jeremy Miles: Yr wythnos diwethaf, ymwelais â chanolfan waith lle y cyfarfûm â thîm o bobl a oedd yn cyflwyno’r credyd cynhwysol. Mae’r unigolion y cyfarfûm â hwy yn gwneud yr hyn a allant i gefnogi eu hawlwyr, ond mae eu system weithredu wedi torri, system a gynlluniwyd heb ystyried bywydau hawlwyr, un a gynlluniwyd ar gyfer sut y mae’r Llywodraeth yn teimlo y dylai pobl fyw, nid y ffordd y...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu'r comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru, fel y gŵyr, a bydd y comisiwn hwnnw'n ystyried y materion hyn. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru yn ymgysylltu'n llawn â gwaith y comisiwn.
Jeremy Miles: Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cyfle i fynd i'r afael â fy nghwestiwn cyntaf ar fater awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân? Mae'n rhoi cyfle i mi dalu teyrnged i fy rhagflaenydd am ei waith mewn perthynas â'r mater hwnnw, fel Cwnsler Cyffredinol a chyn hynny ar y meinciau cefn. Bydd gwaith y comisiwn yn sicrhau y ceir dadansoddiad cyfannol o'r holl faterion sy'n berthnasol i...
Jeremy Miles: Un o fanteision sefydlu comisiwn o'r math yma, yn fy marn i, yw'r gallu i wyntyllu'r math yma o syniadau ynglŷn ag awdurdodaeth a'r proffesiwn ac ati mewn ffordd sydd yn gallu ysgogi'r cyhoedd i ymwneud â chwestiynau sydd yn gallu bod yn rhai eithaf dyrys ac eithaf technegol. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig i'r comisiwn allu chwarae, ac rwy'n gobeithio taw dyna y gwnaiff e maes o law.
Jeremy Miles: Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod fy nghyngor yn gyfreithiol freintiedig. Fodd bynnag, bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fod Deddf Hawliau Dynol 1998 wedi ei hymgorffori'n elfen sylfaenol o'r setliad datganoli, drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac o ganlyniad, mae'n effeithio ar ddeddfwriaeth a wnaed gan y Cynulliad a chan Weinidogion Cymru.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn pellach, ac am hyrwyddo materion hawliau dynol yn gyffredinol. Fel y gŵyr, mae'r Ddeddf hawliau dynol yn effeithio ar Weinidogion Cymru a'r Cynulliad mewn dwy ffordd uniongyrchol iawn. Yn gyntaf, maent yn awdurdodau cyhoeddus at ddibenion y Ddeddf, sy'n golygu na allant weithredu mewn ffordd sy'n anghydnaws â hawliau'r confensiwn, ac mae Bil Cynulliad y tu...
Jeremy Miles: Mae'r cwestiwn hwn, unwaith eto, yn amodol ar gonfensiwn swyddogion y gyfraith, ond gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n weithredol i weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Mae'r gwaith wedi cynnwys cymryd rhan ym mecanweithiau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, cynnig gwelliannau i'r Bil ymadael â'r UE er mwyn ymdrin â phryderon ynghylch materion datganoledig,...
Jeremy Miles: Wel, mae gwaith helaeth ar y gweill ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n dylanwad o fewn y DU, ac yn dylanwadu ar drafodaethau ffurfiol yr UE, i gyflawni ein hamcanion. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ddiweddar, fel y nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ddoe wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â datblygu...
Jeremy Miles: Wel, fel un o'r Aelodau sydd wedi bod fwyaf diwyd yn holi'r Cwnsler Cyffredinol, bydd yr Aelod yn gwybod bod confensiwn swyddogion y gyfraith unwaith eto yn gymwys i'r cwestiwn hwn. Fodd bynnag, gallaf i ddweud y byddai angen i unrhyw gyfnod gweithredu gael ei gytuno rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Felly, gallwn ni ddim rhagdybio y bydd yna gyfnod o'r fath, na beth fyddai ei...
Jeremy Miles: Wel, mae safbwynt Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, sef y dylai fod cyfnod gweithredu, yn gydnabyddiaeth o'r realiti cyfreithiol a gwleidyddol—bod angen mwy o amser, fel petai, i gytuno'r telerau yn y tymor hir. Ond nid mater jest i'r Deyrnas Unedig yw e, fel sonies i, ac mae amryw o gwestiynau pwysig yn agored ar hyn o bryd y bydd yn rhaid cael atebion iddyn nhw cyn bod y sefyllfa...
Jeremy Miles: Wel, unwaith eto, mae arnaf ofn fod y cwestiwn hwn yn ymwneud â chonfensiwn swyddogion y gyfraith, ond deallaf nad oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ar ddyfodol y safle. A phe bai pethau'n datblygu i gaffael y safle, buasai'n rhaid mynd i'r afael â mater y cyfamod.
Jeremy Miles: Wel, mae'r Aelod wedi codi'r mater hwn sawl gwaith yn y Siambr hon, ac mae'n fy nhemtio i gamu y tu hwnt i ffiniau fy awdurdod i faes polisi. Yn anffodus, rwyf am ei siomi yn hynny o beth ac ymwrthod â hynny. Mae arnaf ofn fod y cwestiwn y mae'n ei ofyn yn bendant o fewn mater y cyfamod, felly nid wyf yn gallu ymhelaethu ymhellach ar yr hyn a ddywedais, ond bydd yr Ysgrifennydd Cabinet...
Jeremy Miles: Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedaf, nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ar ddyfodol y safle, a bydd yn rhaid mynd i'r afael â mater y cyfamod maes o law pe bai hwnnw'n bwrw ymlaen. Ond y tu hwnt i hynny, ni allaf ymhelaethu ar fy ateb i'w gwestiwn.
Jeremy Miles: Nid wyf yn gallu datgelu cyngor cyfreithiol, ond, o dan y setliad newydd, bydd cynllunio wedi ei ddatganoli o hyd. Mae olew a nwy yn fater sydd wedi ei gadw'n ôl, ond mae rhoi a rheoleiddio trwyddedau petroliwm, a mynediad i dir yng Nghymru at ddibenion trwyddedu o'r fath, yn eithriad i hynny.
Jeremy Miles: Rwy'n cydnabod ymrwymiad yr Aelod i'r cwestiwn cyffredinol hwn. Fe wnes i ddilyn gyda diddordeb y ddadl a gynhaliodd e ddiwedd mis Hydref, lle cefnogwyd y cynnig gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd. Rwy'n ymwybodol o fodolaeth y farn gyfreithiol honno. Mae hi gyda swyddogion ac maen nhw'n ystyried ei chynnwys. Ni fyddai'n addas i fi dresbasu ar yr elfen bolisi sydd o fewn remit...
Jeremy Miles: Mae yna fframwaith cynllunio rhagofalus eisoes, sy'n bodoli mewn perthynas ag echdynnu nwy ac olew anghonfensiynol. Nid yw cyfarwyddeb cynllunio gwlad a thref 2015 yn cynnwys tyllau turio archwiliol, fel y dywedodd, sydd weithiau'n rhan o waith peirianyddol cyffredinol.