Hannah Blythyn: Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am y cynllun. Cyfarfûm â'u swyddogion a'u cynrychiolwyr etholedig, yn eich cynnwys chi, ar 9 Ionawr i drafod y cynllun hwn a phryderon trigolion ymhellach. Yn ystod y cyfarfod, eglurodd Cyfoeth Naturiol Cymru y rhesymau dros y gwaith a'r opsiynau roeddent wedi eu hystyried ar gyfer lliniaru perygl llifogydd.
Hannah Blythyn: Diolch i chi am eich cwestiwn a'ch diddordeb yn hyn. Gerddi Nant y Rhath a Gerddi Melin y Rhath yw cam olaf y gwaith lliniaru llifogydd, ac mae'r broses hon wedi bod ar y gweill ers pum mlynedd. Rydym wedi cwblhau'r broses gynllunio a'r broses ymgynghori, ac mae bellach wedi cyrraedd y cam gweithredu. Cafodd pryderon trigolion eu codi yn hwyr iawn yn y broses ac yn ystod y cam gweithredu...
Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi gallu ymuno â ni yn y cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf. Yn yr achos hwn, mae mwy o goed yn cael eu hailblannu na sy'n cael eu cwympo. Rwy'n cydnabod cryfder yr emosiynau a'r teimladau sydd gan bobl tuag at eu parciau a'u hardaloedd hamdden lleol. Fel rhan o'n strategaeth creu coetiroedd, rwy'n credu bod angen i ni edrych...
Hannah Blythyn: Mae Llywodraeth Cymru yn darparu pwerau gorfodi newydd i Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â safleoedd anghyfreithlon a safleoedd a weithredir yn wael. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer secondio staff gwasanaethau tân ac achub i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn datblygu cynlluniau atal tân a lliniaru a helpu i hyfforddi gweithredwyr yn y diwydiant gwastraff.
Hannah Blythyn: Yn hollol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £200,000 i Cyfoeth Naturiol Cymru i helpu i ariannu gwaith ychwanegol ar droseddau gwastraff. Mae'r cyllid wedi talu am swyddog o'r gwasanaethau tân ac achub i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddatblygu a sefydlu canllawiau ar atal tân mewn safleoedd gwastraff. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru bwerau ym mis Hydref 2015 i'w gwneud yn haws i'r...
Hannah Blythyn: Diolch, Llywydd. Edrychaf ymlaen at drafod y rheoliadau hyn, a fydd yn gwneud cyfraniad pwysig i wella ansawdd aer a lleihau llygredd diwydiannol.
Hannah Blythyn: Yn y ddadl ar ansawdd aer ar 5 Rhagfyr, amlinellais ystod o gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau gwelliannau i ansawdd yr aer yng Nghymru. Yn ystod y ddadl hon, eglurais y camau hanfodol ar gyfer iechyd a lles ein cymunedau a'n hamgylchedd. Bydd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 yn gweithredu'r gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig,...
Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad yn y ddadl hon? Roedd eich cwestiwn cyntaf yn ymwneud â throsi'r gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig yn hwyr. Mae'r oedi o ran trosi wedi ei achosi gan yr oedi wrth gwblhau elfennau o'r rheoliadau sy'n ymwneud â chydadwaith â rheolaethau amgylcheddol diwydiannol presennol. Ar ôl i'r rheoliadau gael eu cwblhau roedd yn rhaid iddyn nhw fynd drwy...
Hannah Blythyn: Rights of way improvement plans help local authorities to identify, plan and prioritise improvements to their local rights of way network. The Welsh Government provides financial support to local authorities to deliver path improvements. This funding has made over 10,000 kilometres of paths easier to use.
Hannah Blythyn: Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi gwybod i ddatblygwr y safle biomas eu bod yn ystyried ei gwneud yn ofynnol iddynt gyflwyno asesiad o'r effaith amgylcheddol ochr yn ochr â'u cais cynllunio sydd gerbron Cyngor Bro Morgannwg ar hyn o bryd. Bydd unrhyw sylwadau a wneir ganddynt yn cael eu hystyried cyn y gwneir penderfyniad terfynol.
Hannah Blythyn: Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n deall pryderon y trigolion a'r Aelod, ac yn cydnabod y rhan y mae’r Aelod wedi ei chwarae’n gwneud sylwadau ar y mater hwn ar ran ei hetholwyr. O ran y cyhoeddiad gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, mae ein canllawiau yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwneud yn glir fod y Ddeddf yn cynnig cyfleoedd i gyrff cyhoeddus ystyried sut y gellir...
Hannah Blythyn: Diolch am eich cwestiwn. Gwn, hefyd, fod yr Aelod wedi bod yn uchel ei gloch mewn perthynas â'r mater hwn ac wedi gofyn nifer o gwestiynau o'r blaen ar ran trigolion ac etholwyr. O ran yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, cyfeiria hyn at broses benodol i gydymffurfio â'r gyfarwyddeb AEA, felly pan fo'r AEA yn cael ei gymryd fel rhan o'r cais cynllunio, ac yn gweithredu fel...
Hannah Blythyn: Mae mannau gwyrdd a pharciau o ansawdd yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden iach, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn cyfrannu at y gwaith o leihau perygl llifogydd a llygredd aer. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £27.8 miliwn o gyllid cyfalaf o 2017 i gefnogi'r gwaith o ddatblygu seilwaith gwyrdd dros gyfnod o bedair blynedd.
Hannah Blythyn: Roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i ymuno â chi yn y digwyddiad, ac roedd yn braf clywed gennych wedyn. Un o'r pethau a greodd argraff arnaf yn y digwyddiad y soniasom amdano oedd y berchnogaeth emosiynol ar eich mannau gwyrdd lleol, ond wedyn sut y daw hynny'n berchnogaeth wirioneddol. Ac rydych yn llygad eich lle fod mynediad i fannau gwyrdd yn arwain at fanteision...
Hannah Blythyn: Yn sicr. Mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau pwysig iawn a dilys iawn. Nid yw mannau gwyrdd yn ymwneud â diogelwch yn unig; mae mannau gwyrdd yn cynorthwyo i leihau llygredd aer a llygredd sŵn hefyd. Credaf ein bod yn bwrw ymlaen â'n strategaeth ansawdd aer ar hyn o bryd, felly efallai fod hynny'n rhywbeth y gallem fynd ar ei drywydd a'i ystyried yn y dyfodol.
Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel cenedl, medrwn ni fod yn falch iawn o'n llwyddiant ysgubol wrth ailgylchu.
Hannah Blythyn: Cyn datganoli, nid oedd Cymru ond yn ailgylchu 5 y cant o wastraff. Rydym ni bellach wedi cyrraedd dros 60 y cant. Rydym ni'n arwain y ffordd yn y DU, ac rwyf eisiau inni adeiladu ar hyn fel mai Cymru yw'r wlad orau yn y byd am ailgylchu. Mae ein llwyddiant yn ganlyniad i waith caled pobl ym mhobman yng Nghymru, p'un a ydynt yn ailgylchu yn y cartref, yn y gymuned, neu yn y gwaith. Fe hoffwn...
Hannah Blythyn: Diolch. Diolch i chi am y cyfraniad cynhwysfawr a'r cwestiynau. Fe wnaethoch chi sôn ynglŷn â sut y caiff sbwriel a baw ci yn aml eu hystyried fel y materion gwleidyddol bychain neu ddibwys hynny, ond os ewch o gwmpas y gymuned leol ac y gwnewch arolwg, dyna'r pethau sydd yn debygol o fod uchaf arno, a dyna pam, i mi, mae'n bwysig iawn inni fynd i'r afael â sbwriel fel rhan o ailgylchu a...
Hannah Blythyn: Diolch am eich cwestiynau.
Hannah Blythyn: I ddechrau, o ran adroddiad cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd—ac rwy'n cytuno â chi ein bod ni'n falch ein bod wedi arwain y ffordd a'n bod yn gallu arloesi yng Nghymru, ac rydym yn awyddus i barhau i wneud hynny. O ran pryd y mae'r adroddiad i fod ar gael, mae i fod i gyrraedd yr wythnos hon. Pan fydd hwnnw ar gael byddwn yn asesu hyn ac yn datblygu argymhellion, lle y bo'n briodol....