Jeremy Miles: Rydyn ni'n annog ysgolion i edrych ar bob ffynhonnell o brofiadau sydd ar gael i'n pobl ifanc ni fel eu bod nhw'n gallu cael amrywiaeth, ac amrywiaeth yn y Gymraeg yn benodol. Fel gwnes i grybwyll yn fras yn gynharach, mae gennym ni gynllun grant sydd yn darparu cefnogaeth ariannol o safbwynt polisi'r Gymraeg i amryw o sefydliadau a mudiadau sydd yn darparu lot o brofiadau deniadol a diddorol...
Jeremy Miles: Gwnaf. [Chwerthin.] Ym mis Medi, bydd pob ysgol a lleoliad yn gweithio gyda'r Cwricwlwm i Gymru wrth iddo barhau i flwyddyn academaidd 2026-27. Mae ein cefnogaeth barhaus i'r proffesiwn yn allweddol i'w weithredu'n llwyddiannus, ac mae fy adroddiad blynyddol bob mis Gorffennaf yn ymdrin â sut rydym yn cyfathrebu'n eang ar gynnydd a blaenoriaethau.
Jeremy Miles: Wel, byddwn yn annog y pennaeth yn ei etholaeth i ymgysylltu â'r prosiect Camau a ariennir gennym drwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy'n darparu adnoddau i gefnogi ysgolion wrth iddynt ddatblygu dulliau asesu newydd. Mae'n hanfodol, mewn gwirionedd, fod gennym asesu wrth wraidd y cwricwlwm newydd i gefnogi cynnydd dysgwyr unigol. Nid yw yno er mwyn atebolrwydd. Mae hwnnw'n newid...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, ac fel y dywedwch, mae'n adlewyrchu un o'r pwyntiau a gododd Sam Kurtz yn ei gwestiwn hefyd. Mae angen taro cydbwysedd, onid oes, gan eich bod yn newid system gyfan rhwng cyfarwyddyd canolog a'r math o hyblygrwydd a datganoli, os hoffech, i ysgolion y gallu i gynllunio a gweithredu cwricwlwm sy'n gweithio i'w cymunedau a'u dysgwyr. Ac ar un...
Jeremy Miles: Mae'r Cwricwlwm i Gymru'n parhau'n allweddol i godi safonau addysg i bob dysgwr. Mae ein canllawiau gwella ysgolion yn cyd-fynd ag ymarfer ac egwyddorion y cwricwlwm, gan osod fframwaith i'r system addysg gefnogi ysgolion i ddarparu'r profiadau a'r canlyniadau dysgu gorau posibl i'w dysgwyr.
Jeremy Miles: Ie, rwy'n hapus iawn i longyfarch Mrs Pritchard a staff a disgyblion yr ysgol. Roeddwn yn meddwl ei fod yn dweud llawer, yr ymadrodd a ddefnyddiodd yr Aelod, a oedd yn adlewyrchu'r hyn a ddywedodd Estyn, rwy'n credu, sef bod yr ysgol eisiau gwneud i blant deimlo'n falch o fod yn rhan ohoni. A'r rheswm y mae hynny mor bwysig yw oherwydd ei fod yn adlewyrchu pa mor bwysig yw grym pobl ifanc yn...
Jeremy Miles: Mae'r adroddiad y mae'n cyfeirio ato yn ei chwestiwn yn gyfraniad pwysig i'r drafodaeth ac at y ddadl, ac yn sicr roedd yn adlewyrchu, yn fras o leiaf, ein dealltwriaeth ni o'r heriau sy'n ein hwynebu mewn rhannau o'r system. Fe fydd hi'n cofio, efallai, yn y llu o adroddiadau y mae hi wedi'u darllen, yr araith a roddais i Sefydliad Bevan y llynedd a'r datganiad a wneuthum yn y Siambr, a oedd...
Jeremy Miles: Mae trafodaethau gyda Gweinidog yr Economi wedi canolbwyntio'n bennaf ar sut mae'r system addysg yn cefnogi'r agenda sgiliau a'r warant i bobl ifanc. Hefyd, yr wythnos hon, trafododd y Cabinet gwestiwn sgiliau sero net, gan gynnwys rôl addysg wrth gyflawni ein huchelgeisiau yn y maes pwysig hwnnw.
Jeremy Miles: Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl y byddwn yn ei chael yn yr wythnosau sydd i ddod mewn perthynas â'r lwfans cynhaliaeth addysg yn benodol. Bydd yn gwybod, o fy ymddangosiadau blaenorol yn y cwestiynau hyn ac yn y trafodaethau a gawsom, fod y pwysau gwirioneddol ar gyllidebau wedi golygu nad ydym wedi gallu cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, ond rydym yn hapus iawn o fod wedi gallu ei gynnal,...
Jeremy Miles: Mae Altaf Hussain yn gwneud pwynt pwysig iawn o ran natur newidiol ein heconomi a pha mor anodd y gall fod i ragweld y newidiadau hynny weithiau. Mae hyn yn dangos i mi bod angen i ni sicrhau bod ein pobl ifanc wedi'u harfogi ar gyfer unrhyw newid yn y gymdeithas, a bod angen i ni ddarparu sgiliau a phrofiadau iddynt, yn ogystal â gwybodaeth, fel y gallant lywio economi sy'n newid mewn...
Jeremy Miles: Wel, diolch i Jane Dodds am y cwestiwn hwnnw. Mae'r cyfrifau'n rhywbeth dwi'n ffan mawr ohonyn nhw fy hunan ac wedi cynyddu'r gyllideb ar eu cyfer nhw'n sylweddol. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i greu cyfleoedd fel bod pobl mewn gwaith yn gallu adnewyddu a thrawsnewid eu sgiliau, a dau o'r meysydd lle rŷn ni wedi pwysleisio ein bod ni'n eu hariannu yw sgiliau digidol, fel roedd Altaf...
Jeremy Miles: Yn sicr. Mae ysgolion bro wrth wraidd ein hagenda i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Yn 2022-23—y flwyddyn ariannol hon—darparwyd £3.84 miliwn ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, £660,000 ar gyfer swyddi rheolwyr ysgolion bro, a £20 miliwn ar gyfer gwelliannau cyfalaf i ysgolion. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym hefyd wedi cyhoeddi dwy set o ganllawiau ar...
Jeremy Miles: Wel, mae'n bwysig iawn, onid yw, yn ogystal â gallu dyrannu cyllid sylweddol, ein bod yn sicrhau ei fod yn cael ei wario mewn ffordd sy'n effeithiol ac sydd hefyd yn darparu tystiolaeth dda i eraill o'r ffordd orau o wario'r arian hwnnw. Wrth gwrs, bydd y cyllid yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn ariannol hon, felly bydd yr asesiad o'r effaith yn amlwg yn dilyn o’r fan hon. Ond mae’r...
Jeremy Miles: Wel, mae’r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effeithiau ariannol sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion. Awdurdodau lleol, wrth gwrs, sydd i benderfynu ar gyllidebau ysgolion. Hwy sydd yn y sefyllfa orau i weithio gyda'u hysgolion, fel y mae llawer yn ei wneud, i gynnig mesurau rhesymol ar gyfer arbed costau lle bo hynny'n briodol.
Jeremy Miles: Wel, fel y gŵyr, rydym yn sicrhau bod cyllid ar gael i awdurdodau lleol mewn perthynas â datgarboneiddio’r ystad ysgolion—bydd gennyf ragor i’w ddweud am hynny yn yr wythnosau nesaf, fel mae’n digwydd—yn ogystal â sicrhau bod yr holl ysgolion newydd sy’n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru yn ysgolion sero net, o ran carbon corfforedig, ond hefyd o ran eu...
Jeremy Miles: Rydym yn parhau i gefnogi disgyblion niwroamrywiol. Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol a'r Cwricwlwm i Gymru yn canolbwyntio ar anghenion plant a phobl ifanc drwy gynlluniau sy'n canolbwyntio ar unigolion a chefnogi cynnydd unigolion.
Jeremy Miles: Wel, nid oes yr un ohonom yn dymuno clywed y mathau o enghreifftiau y mae Mark Isherwood wedi’u disgrifio yn ei gwestiwn heddiw, ac os hoffai ysgrifennu ataf yn benodol ynglŷn ag unrhyw un ohonynt, byddwn yn fwy na pharod i fynd i'r afael â hynny. Mewn perthynas â sicrhau bod y diwygiadau'n effeithiol, rydym yn sicrhau bod cyllid ychwanegol yn y system, eleni ac ar gyfer y ddwy flynedd...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am yr adroddiad pwysig hwn. Yr hyn sy'n glir i mi wrth feddwl am yr argymhellion ydy pwysigrwydd ystyried presenoldeb ochr yn ochr â dylanwadau a ffactorau eraill, fel rŷn ni wedi clywed heddiw, fel statws economaidd-gymdeithasol, llesiant a materion systemig ehangach. Mae taclo effaith tlodi ar...
Jeremy Miles: Mae'r cysylltiad rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad addysgol yn glir wrth gwrs. Mae cyfnodau parhaus o absenoldeb o'r ysgol yn creu risg wirioneddol i gyrhaeddiad plentyn, a gall hefyd arwain at wneud iddynt deimlo'n fwy datgysylltiedig o'u haddysg. Mae monitro canlyniadau addysgol a'r cysylltiadau â chyfraddau presenoldeb yn ystyriaethau hanfodol fel rhan o ddatblygu'r ecosystem ddata newydd....
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dros y tair blynedd diwethaf, rŷn ni wedi gweld newid mawr yn natblygiad dysgu digidol ar raddfa na allen ni erioed fod wedi ei rhagweld cyn pandemig COVID-19. Dwi am dalu teyrnged i ymroddiad ein staff a'n harweinwyr ar draws y sector addysg a weithiodd i gynnal brwdfrydedd ein dysgwyr yn ystod cyfnod o her na welwyd ei thebyg o'r blaen. Mae'n amser nawr i edrych...