Jeremy Miles: Rwy'n gwybod am beth rydych yn ei ofyn ac rwy'n disgrifio sefyllfa amgen i chi lle gofynnir i Lywodraeth Geidwadol ymdrin â'r cwestiynau hyn ac mae'n methu. [Torri ar draws.] Yng Nghymru, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n gwrthod y disgrifiad y mae'n ei roi o hynny. Mae'n bartneriaeth barchus; mae'n bartneriaeth dryloyw. Ceir problemau anodd i weithio drwyddyn nhw, a...
Jeremy Miles: Mae cyllideb addysg Llywodraeth Cymru yn nodi ein hymrwymiad parhaus i weithredu ein rhaglen ddiwygio addysgol, gan sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a safonau'n codi.
Jeremy Miles: Wel, mae hyn yn feiddgar, yn fy marn i, gan aelod o'r unig blaid yng Nghymru i ymgyrchu yn etholiad y Cynulliad i dorri'r gyllideb addysg o 12 y cant. Mae'n dipyn o beth. Mae'n dipyn o beth, ac mae'n dangos pa mor arwynebol yw eu hymrwymiad i'r ffeithiau. I fod— [Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi hynny, yn ddiamod, ac fe'i hamddiffynnwyd gan Andrew R.T. Davies wedi hynny. Felly, y...
Jeremy Miles: Mae Peter Fox wedi gofyn am y ffeithiau. Y ffeithiau yw'r rhain: cafodd yr arian a gawsom ni fel cyllid canlyniadol Barnett o San Steffan ei basportio'n llawn i awdurdodau lleol, ac nid yn unig hynny, fe'i cynyddwyd drwy'r gyllideb addysg. Felly, yng Nghymru, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr Geidwadol, lle mae'r gyllideb ar gyfer ymyrraeth ar ôl COVID-19 wedi diflannu'n llwyr, nid...
Jeremy Miles: Bydd y pwyslais ar hanes Cymru o fewn y cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddod i wybod mwy am hanes ein hiaith. Oherwydd bobl fel y Beasleys ac eraill, mae tirwedd ieithyddol Cymru wedi newid yn llwyr. Mae cannoedd o sefydliadau bellach yn darparu gwasanaethau Cymraeg.
Jeremy Miles: Diolch i Adam Price am y pwyntiau pwysig hynny. Rwy'n llwyr gydnabod, wrth gwrs, cyfraniad pwysig iawn ymgyrchwyr fel Eileen a Trefor Beasley yn hanes yr iaith, ac mae eu safiadau nhw wedi bod yn bwysig iawn yn yr hanes honno. Dwi'n deall, wrth gwrs, fod galwadau, yn cynnwys heddiw, i droi'r eiddo yn ganolfan ddiwylliannol o ryw fath. Mae'n werth hefyd ystyried opsiynau posib eraill ar gyfer...
Jeremy Miles: Ni ddylai costau byw fyth fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol, a dyna pam, er gwaethaf pwysau parhaus ar y gyllideb, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod gwerth y cymorth wedi cynyddu'n sylweddol 9.4 y cant yn unol â'r cyflog byw cenedlaethol—newyddion a groesawyd gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ar ran ei haelodaeth o fyfyrwyr.
Jeremy Miles: Wel, diolch Joyce Watson am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw, ac rwy'n cydnabod bod her benodol weithiau, fel roedd hi'n ei ddweud, am bobl yn dychwelyd i addysg yn hwyrach ymlaen mewn bywyd o bosibl. Gwn ei bod hithau, fel minnau, yn falch o'r ffaith ein bod wedi ymrwymo i sicrhau, p'un a ydych yn astudio'n llawn amser neu'n rhan amser, bod yr un cymorth pro rata ar gael i chi, sydd, yn fy...
Jeremy Miles: Mae cynyddu'r cyfleoedd i bobl barhau i ddysgu drwy'r Gymraeg yn hanfodol bwysig. Dyma pam rŷn ni'n buddsoddi cyllid ychwanegol er mwyn ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16. Rŷn ni'n gwneud hyn ar y cyd gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio.
Jeremy Miles: Rwy'n cytuno'n llwyr gyda hynny. Yn ardal yr Aelod ei hun, mae cynllun strategol Cymraeg mewn addysg cyngor Blaenau Gwent yn cynnwys targedau penodol ac eithaf heriol, dwi'n credu, yn y cyd-destun lleol, i gynyddu nifer y dysgwyr ôl-16 sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg mewn ystod ehangach o bynciau, yn cynnwys, fel rôn i jest yn cyfeirio'n ôl at y cwestiwn wrth Huw...
Jeremy Miles: Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau lleol fod â fforwm ysgol sefydledig, a phwrpas fforwm ysgol yw helpu i ddatblygu deialog wybodus a hyderus rhwng awdurdodau lleol a'u hysgolion, gan gynnwys, yn bwysig iawn, ar faterion cyllidebol.
Jeremy Miles: Yn y flwyddyn ariannol nesaf, bydd rhanbarth Gorllewin De Cymru yr Aelod yn cael £945 miliwn o gyllid setliad, ac mae Cymru gyfan yn gweld cynnydd o 7.9 y cant mewn cyllid setliad o'i gymharu â'r llynedd ar sail gyfatebol. Mae'r cynnydd hwn yn uwch na'r mwyafrif helaeth o gynnydd i awdurdodau lleol dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n dangos y flaenoriaeth barhaus rydym ni fel Llywodraeth yn...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol yn 2017. Ers hynny, rŷn ni wedi cymryd camau mawr ym myd addysg. Ymhlith llawer o bethau eraill, byddwn ni'n cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, gan weithredu system anghenion dysgu ychwanegol newydd, a sefydlu'r comisiwn addysg trydyddol ac ymchwil. Rwy'n falch o'r hyn rŷn ni wedi cyflawni, ond mae'n rhaid i ni...
Jeremy Miles: Dirprwy Lywydd, bwriedir iddo fod yn offeryn defnyddiol i ymarferwyr, gan ddarparu llinell amser ar gyfer ein cynlluniau a'n cydlyniad ar draws y portffolio. Nid yw ein huchelgeisiau ar gyfer addysg wedi newid: ein cenhadaeth genedlaethol yw sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb, a byddwn yn gwneud hyn drwy fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chynorthwyo pob dysgwr....
Jeremy Miles: Diolchaf i'r Aelod am ei gwestiynau. Bydd yn gwybod o fy natganiad ac o ddatganiadau eraill yr wyf i wedi eu gwneud bod cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y myfyrwyr hynny sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig a’u cyfoedion yn flaenoriaeth allweddol i mi, fel yr wyf i newydd ei amlinellu yn y datganiad. Mae'n camddarlunio braidd y profiad o ran y bwlch cyrhaeddiad ers cyhoeddi'r genhadaeth...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny ac am rhestru'r heriau. Rwy'n siŵr hefyd eu bod hi’n awyddus i ddathlu’r llwyddiannau yn ein system addysg ni, a’r holl waith sy’n cael ei wneud yn ein dosbarthiadau ni bob dydd i ddarparu’r addysg orau posib ar gyfer ein pobl ifanc ni. Rwy’n siŵr ei bod hi’n cydnabod hynny hefyd. O ran y cwestiynau penodol, mi wnaf i fy ngorau i fynd...
Jeremy Miles: Diolchaf i'r Aelod am ei chwestiynau. Ni wnes i glywed ei chwestiwn olaf yn ei gyfanrwydd, ond rwy'n credu fy mod ei wedi deall ei hanfod, felly byddaf yn gwneud fy ngorau i ymateb iddo. Diolch, yn gyntaf, am fy ngwahodd i fynd, gyda hi, i ysgol Perthcelyn. Roeddwn i'n credu ei fod yn ymweliad calonogol iawn, ac o gyfarfod y pennaeth a'r disgyblion a rhai o'r staff yno, gwelais ysgol a oedd...
Jeremy Miles: Rwy'n cytuno â'r Aelod ar rôl bwysig y comisiwn, ac am y weledigaeth sydd gennym ni ar y cyd am gyfraniad y comisiwn i ddiwygio addysg ôl-16 ym mhob rhan o Gymru, ac fe wnaf i ei chyfeirio hi at yr ateb wnes i ei roi wythnos diwethaf ynglŷn â'r cwestiwn penodol mae hi wedi gofyn.
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Hoffwn i agor y ddadl hon trwy ddiolch i Owen Evans, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru, am ei adroddiad blynyddol. Mae'n rhoi disgrifiad annibynnol o sut mae ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant yn perfformio ac yn helpu ein dysgwyr i ddatblygu. Mae'r adroddiad yn cynnig ffynhonnell werthfawr o dystiolaeth, gan helpu llywio datblygiad polisi...
Jeremy Miles: Roeddwn yn falch o ddarllen, er gwaethaf yr heriau yn sgil y pandemig, bod yr adroddiad yn cydnabod bod darparwyr addysg a hyfforddiant wedi ymateb yn wrol ac i sefydliadau nesáu at eu dysgwyr a'r cymunedau y maen nhw'n yn eu gwasanaethu. Rwy'n ddiolchgar o hyd, Llywydd, i bawb sy'n gweithio yn y sector addysg am bopeth y maen nhw wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud i gefnogi ein dysgwyr....