Mark Reckless: Mae’n bleser ymateb i gynnig olaf ond un y tymor. O ystyried pwysigrwydd Swyddfa Archwilio Cymru a’i fwrdd a’i lywodraethu cadarn, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried hyn. Rwy’n falch nad yw’r Pwyllgor Cyllid wedi cymeradwyo ailbenodiad tri aelod a chadeirydd yn ddigwestiwn. Yr amod gyfreithiol ar gyfer yr aelodau yw mai dau benodiad yn unig a ganiateir iddynt, ac...
Mark Reckless: Yn wahanol i’r aelodau eraill ar y bwrdd, ceir darpariaeth benodol sy’n caniatáu i dymor y cadeirydd gael ei ymestyn, ac o ystyried trosiant yr aelodau, rwy’n cytuno ei bod yn briodol i dymor y cadeirydd gael ei ymestyn, a nodaf hefyd mai dim ond am dair blynedd y caiff ei ymestyn yn hytrach na phedair. Felly, nid oes dim yn cael ei gymryd yn ganiataol, ac mae hynny hefyd yn sicrhau...
Mark Reckless: 3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dogfen bolisi 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' Llywodraeth Cymru? (OAQ51052)
Mark Reckless: Fodd bynnag, ymddengys fod y Prif Weinidog wedi trafod gyda Phrif Weinidog yr Alban a datblygu strategaeth a dull ar y cyd â Llywodraeth yr Alban. Onid yw'r Prif Weinidog yn sylweddoli bod Cymru wedi pleidleisio 'gadael' yn y refferendwm? Dywedodd ei hun fod gan hynny lawer i'w wneud â symudiad rhydd pobl, ac eto mae ei ddogfen yma yn cefnogi symudiad rhydd pobl ym mhopeth ond enw. Yn...
Mark Reckless: Y tro diwethaf i mi holi Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â hyn, roedd Llywodraeth y DU wedi gwarantu taliadau hyd at 2020. Maent bellach wedi eu gwarantu tan o leiaf 2022. Felly, rwy’n gobeithio y bydd hi’n croesawu hynny. Yn ogystal, pan fydd hi’n cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar faes cymhleth sut y bydd datganoli’n gweithio ar ôl Brexit a pha feysydd amaethyddol y dylid...
Mark Reckless: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fanteisio i'r eithaf ar y manteision a ddaw i Gymru yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth y DU y bydd y tollau ar y pontydd Hafren yn cael eu diddymu yn ystod 2018?
Mark Reckless: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru fel awdurdod iechyd arbennig? (OAQ51095)
Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gwerth y mae prifysgolion yn Lloegr yn ei roi ar fagloriaeth Cymru?
Mark Reckless: Nodaf hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn hysbysebu am aelodau anweithredol i fwrdd yr awdurdod iechyd ac wedi gwneud cryn dipyn o waith o ran yr adroddiadau a oedd gennym eisoes gan Mel Evans a’r Athro Williams. Tybed a all ddweud beth y mae’n ei wneud i sicrhau y bydd y bwrdd yn gweithredu’n wirioneddol annibynnol, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn ogystal â sicrhau...
Mark Reckless: Rwy’n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies. Pan soniais am gynllunio gweithlu’r GIG bythefnos yn ôl yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog, gofynnais pam, ar ôl 20 mlynedd o Lafur yn rheoli Cymru, fod yna adroddiadau Llywodraeth Cymru sy’n dweud bod angen gwaith sylweddol o hyd ar recriwtio a chadw staff meddygol i fod yn addas at y diben. Ni chefais ateb gan y Prif Weinidog ar y pryd,...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: A yw’n dweud o ddifrif fod y broblem gyfan sydd gennym gyda chynllunio’r gweithlu a phrinder staff yn y GIG, gan gynnwys meddygon teulu yng Nghymru, yn deillio o ganlyniad i gyfnod o saith mlynedd rhwng 1990 a 1997?
Mark Reckless: 9. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fanteisio i’r eithaf ar y manteision datblygu economaidd a fydd yn llifo i dde-ddwyrain Cymru yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth y DU y bydd yn diddymu tollau’r pontydd Hafren yn ystod 2018? (OAQ51158)
Mark Reckless: A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y dylem fuddsoddi mwy mewn rheilffyrdd yn ogystal â ffyrdd i hybu’r datblygiad economaidd hwnnw? Gan y bydd gorsafoedd newydd yn Llan-wern a Llaneirwg yn newid patrwm gwasanaethau’r brif reilffordd, a yw’n cytuno y gallai gorsaf newydd ym Magwyr ategu hyn? Gydag ymgyrchwyr yn cyfarfod â’r Adran Drafnidiaeth a Network Rail yfory, a wnaiff...
Mark Reckless: A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cydnabod bod dyfarniad y Goruchaf Lys wedi mynd yn groes i’r safbwynt blaenorol, fel y’i cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir, y Prif Weinidog? Fe’i cofiaf yn dweud wrthym yn y Siambr ynglŷn â phwysigrwydd pleidleisio dros y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cymru, gan y byddai hynny’n rhwymo Sewel mewn statud, ac fel yr Alban, byddem yn...
Mark Reckless: Ysgrifennydd y Cabinet, oni ddylid sicrhau er hynny fod yr ymgysylltiad hwnnw’n digwydd cyn i’r cynllun gael ei gwblhau? Mae adnoddau eich adran yn gyfyngedig; rydych yn wynebu gorfod gwneud rhagor o arbedion. Mae heriau eithriadol ynghlwm wrth yr ardaloedd morol gwarchodedig hyn; ni wyddom fawr ddim ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd ar waelod y môr, ac mae casglu gwybodaeth yn ddrud...
Mark Reckless: Mae’r gyfradd ddiweithdra yn ne-ddwyrain Cymru wedi gostwng i 3.5 y cant eleni; mae’r gyfradd gyflogaeth yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin wedi codi o 70.2 y cant i 72.5 y cant. O gofio bod diwygiadau lles y Llywodraeth yn San Steffan wedi’u cynllunio o leiaf yn rhannol i helpu pobl i ddod o hyd i waith, a bod Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn dweud ei fod yn cefnogi egwyddor credyd...
Mark Reckless: Rwy’n hapus iawn i egluro. Ysgrifennodd y Llywydd at Andrew R.T. Davies ac ataf fi i gadarnhau y dylwn gael fy ystyried yn aelod o grŵp y Ceidwadwyr at holl ddibenion y Cynulliad hwn, yn union fel y mae wedi dyfarnu y dylid symud Cadeiryddion pwyllgorau er mwyn adlewyrchu cydbwysedd grwpiau’r pleidiau. Nid yw’n iawn nad yw’r sefydliad hwn, sy’n dymuno cael ei ystyried yn Senedd, yn...
Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr effaith y caiff newidiadau i'r dreth drafodiadau eiddo ar y cyflenwad o eiddo masnachol?
Mark Reckless: Prif Weinidog, fe wnaethoch ddisgrifio eich agwedd at gyllid cyhoeddus ar 23 Ebrill, pan ofynnwyd i chi, Dywedodd Canghellor yr Wrthblaid John McDonnell bod angen benthyg £500 biliwn yn ychwanegol er mwyn rhoi ychydig o hwb i'r economi—byddech chi'n cyd-fynd â hynny, fyddech chi? Cafwyd yr ateb, 'Byddwn, mi fyddwn' gennych. A ydych chi'n dal i gredu y byddai benthyg £500 biliwn—10...